Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 27 Mehefin 2017.
Wel, yn ogystal â’r hyn yr wyf i newydd ei ddweud nawr wrth y Cynulliad, mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofyniad statudol i bob bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol ddarparu cynllun gofal a thriniaeth i’r rheini sydd â diagnosis o ddementia sydd angen gofal iechyd meddwl arbenigol, wedi ei gynllunio ar gyfer eu hanghenion nhw ac anghenion eu gofalwyr.