<p>Colli Clyw</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Yn y pen draw, wrth gwrs, mater i ysgolion yw sicrhau nad yw bwlio yn digwydd mewn ysgolion. Ond bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru), os caiff ei basio, yn ailwampio’n llwyr y system ar gyfer cynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys dysgwyr â nam ar eu clyw. Bydd yn amlwg yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y broses honno ac yn ei gwneud yn haws i'r rhai dan sylw. Bydd cyllid, wrth gwrs, i gefnogi'r Bil, ac, yn rhan o'r naratif o gwmpas y Bil hwnnw, byddwn eisiau gwneud yn siŵr bod bwlio yn cael sylw yn rhan o'r naratif hwnnw. Ydy, mae'n bwysig cynorthwyo’r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol yn y ffordd ehangaf bosibl, gan gynnwys, wrth gwrs, eu diogelu rhag bwlio.