Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 27 Mehefin 2017.
Prif Weinidog, mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n creu’r amodau cywir i fagu gweithlu addysg sy’n fedrus ac yn darparu ar gyfer ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai sy’n dioddef o nam ar y clyw. Rydw i’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r galwadau i ychwanegu Iaith Arwyddion Prydain i’r cwricwlwm cenedlaethol. Felly, a allwch chi ein diweddaru ni ar y datblygiadau diweddaraf i ychwanegu iaith arwyddion i’r cwricwlwm, a hefyd a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i annog busnesau i ddysgu iaith arwyddion i wneud gwasanaethau lleol mor hygyrch â phosib i bawb, gan gynnwys y rhai sydd wedi colli eu clyw?