<p>Colli Clyw</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:03, 27 Mehefin 2017

Wel, mae yna safonau ynglŷn â chael mynediad i’r gwasanaeth iechyd, a rydym ni’n erfyn, wrth gwrs, i’r safonau hynny gael eu dilyn. Ynglŷn ag ym mha ffordd y gallwn ni hybu busnesau, er enghraifft, i ddefnyddio gweithgareddau sy’n gallu cael eu defnyddio gan bobl fyddar, mae hynny’n rhywbeth rydym ni’n moyn gweithio gyda’r grwpiau hyn arno ynglŷn â sicrhau bod hynny yn digwydd ac, wrth gwrs, i sicrhau bod BSL ar gael, lle mae hynny’n bosib. Ynglŷn â lle fyddai BSL yn gweithio yn y cwricwlwm, a gaf i ofyn, felly, i’r Gweinidog addysg ysgrifennu at yr Aelod er mwyn rhoi mwy o fanylion iddo ef?