4. 3. Datganiad: Y Rhaglen Lywodraethu

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:19, 27 Mehefin 2017

Yn gyffredinol, rwy’n croesawu y datganiad deddfwriaethol heddiw. Fel mae Leanne Wood eisoes wedi’i amlinellu, mae’r rhan fwyaf ohono fe’n deillio o syniadau Plaid Cymru yn y lle cyntaf, felly wrth gwrs ein bod ni’n croesawu hynny. Mae’n ddiddorol nodi ei bod hi’n ddengmlwyddiant sefydlu llywodraeth ar y cyd Cymru’n Un, lle'r oedd lot o’r syniadau yma wedi deillio ohono fe ac wedi cael eu trafod o hynny ymlaen, gan gynnwys y symudiad tuag at ddiddymu’r amddiffyniad o gosb resymol. Rwy’n gobeithio yn fawr iawn ein bod ni’n gweld hynny yn cael ei sicrhau yn y Cynulliad hwn o’r diwedd. Wedi dweud hynny, mae’r datganiad yn un tenau iawn ac yn ddiddychymyg.

Mae’n bosib, i fod yn deg i’r Llywodraeth, a thrio edrych ar bethau o bersbectif y Llywodraeth—mae’n ddigon posib bod hynny’n fwriadol, gan eu bod nhw’n ystyried bod angen deddfu, ar frys, o bosib, ynglŷn â Brexit, ynglŷn â rai o’r pethau sy’n deillio o San Steffan, ac ynglŷn â’r syniad sydd gyda ni fel Plaid Cymru o Fil parhad ym maes amaethyddol ac amgylcheddol. Felly, wrth ymateb ar ôl ei ddatganiad a’r drafodaeth, byddwn i’n hoffi clywed gan y Prif Weinidog os oes gyda fe le yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y posibiliadau hyn—nid yn unig y Bil parhad, ond hefyd yr hyn sy’n debyg o ddeillio o’r tua 2,000 o leiaf o ddarnau o ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n mynd i gael eu trafod yn awr yn ystod y ddwy flynedd nesaf yn San Steffan.

Wrth droi at rai o’r pethau eraill sydd yn y datganiad, hoffwn i wybod bach mwy ynglŷn â’r bwriad sydd gyda fe ym maes llywodraeth leol. Mae’n amlwg bod gyda ni ddiddordeb fan hyn am gadarnhad ein bod ni’n estyn y bleidlais i bobl ifanc yn 16 ac 17 ar gyfer llywodraeth leol, a byddai cadarnhad o hynny yn beth da i’w glywed.

Mae’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi dweud yn y gorffennol ei fod e am estyn dewis STV—y bleidlais gyfranogol—i awdurdodau lleol. Rydw i’n meddwl bod hynny’n colli cyfle, a bod angen i rywbeth sydd mor bwysig â’r STV gael ei estyn i bob awdurdod, ac felly byddwn i’n licio clywed ym mha ffordd mae’r Llywodraeth yn mynd i weithio gyda’r mwyafrif, rydw i’n meddwl, sydd yn y Senedd hon erbyn hyn o blaid STV ym maes llywodraeth leol i sicrhau bod deddfwriaeth y Bil arbennig yma yn adlewyrchu nid yn unig barn y Blaid Lafur, ond barn y mwyafrif yn y Senedd hon.

Rydw i hefyd yn gofidio bod cymaint o oedi gyda gofal plant. Rydw i’n derbyn bod angen deddfu ar gyfer gwneud unrhyw beth ynglŷn â rhannu data—mae angen seilwaith statudol derbyniol i hynny—ond mae yna bethau gall y Llywodraeth eu gwneud yn awr yn llawer fwy cyflym yn y maes gofal plant ynglŷn ag estyn yr hawliau hynny a’r gallu yna i lawer mwy o rieni, a mamau ifanc yn arbennig. Byddwn i’n licio clywed nad oes yn rhaid aros am ddeddfu ynglŷn â data er mwyn sicrhau bod cynnig gofal plant boddhaol i bob un teulu yng Nghymru.

Mae yna sawl peth sydd ar goll hefyd o’r rhaglen ddeddfwriaeth yma. Mae ambell i beth yn edrych ymlaen—dyma rhaglen ddeddfwriaethol am flwyddyn, ac mae ambell i beth yn edrych ymlaen, er enghraifft, ynglŷn â diddymu’r amddiffyniad cosb, ynglŷn, o bosib, â Brexit. A gaf i awgrymu tri pheth y byddwn i’n licio gweld y Llywodraeth yn eu gwneud yn ystod, os nad y flwyddyn nesaf, yn sicr yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan baratoi yn ystod y flwyddyn ddeddfwriaethol hon? Yn gyntaf oll, gwaharddiad ar ffracio yng Nghymru. Mae pwerau yn dod i ni yn gynnar y flwyddyn nesaf, lle byddem ni fel Senedd yn gallu gwahardd ffracio. Hoffwn i weld y Llywodraeth yn cynnig sut rŷm ni’n gwneud hynny. Yn ail, cynllun dychwelyd blaendal: y posibiliad o wneud yn siŵr bod poteli, yn enwedig poteli plastig a phob math o blastig sydd yn anodd ei ailgylchu, ac sy’n mynd yn wastraff ac yn bennu ar ein traethau ni, ac yn ein moroedd ni, a thu fewn i’n bywyd gwyllt ni—bod hynny yn dwyn cost fel bod modd ad-dalu’r gost yna ac felly lleihau ar y defnydd o’r plastig yma. Mae modd gwneud hynny gyda’r pwerau newydd. Ac, yn olaf, fel sydd wedi cael ei drafod cwpwl o weithiau eisoes heddiw, mynd i’r afael â’r broblem gamblo, ac wrth inni ymafael ag ychydig o bwerau—dim llawer rydw i’n gwybod, ond ychydig o bwerau—ym maes y peiriannau ‘fixed odds’, ein bod ni’n edrych ar bosibiliadau o fynd i’r afael â hynny.

Y pwynt olaf rydw i am ei wneud, a cwestiwn, mewn ffordd, i’r Prif Weinidog: er, wrth gwrs, rŷm ni’n flin iawn, rydw i’n meddwl, ac yn rhannu’r anhapusrwydd nad oedd awdurdod cyfreithiol ar wahân i Gymru yn Neddf fwyaf diweddar Cymru, beth yw’r posibiliadau yn awr ein bod ni yn dal i bwyso am hynny? Rydw i’n cymryd nad yw’r Llywodraeth wedi newid ei barn ynglŷn ag awdurdod cyfreithiol ar wahân, felly hoffwn i wybod beth yw’r camau nesaf y mae’r Llywodraeth yn mynd i wneud i wireddu hynny.