Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 27 Mehefin 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud y bydd siom, ar ôl bron saith blynedd, na fydd y prosiect hwn yn gallu bwrw ymlaen. O ran y cwestiynau ynghylch pam mae hyn wedi cymryd cymaint o amser, dylai hynny gael ei gyfeirio yn rhannol at y cwmni datblygu. O'n rhan ni ein hunain, rydym ar bob achlysur wedi ceisio sicrhau llwyddiant y prosiect hwn. Fe aeth drwy nifer o ffurfiau o ran y model busnes, ac rydym ar bob achlysur wedi gweithio gyda'r datblygwyr mewn ymgais i gyflawni dros bobl Blaenau Gwent ac ardal Blaenau'r Cymoedd yn ehangach.
Ond rwy’n credu ein bod ni mewn sefyllfa wybodus, o ganlyniad i waith sylweddol sydd wedi ei wneud nid yn unig trwy ddiwydrwydd dyladwy ond cyn hynny, i allu bwrw ymlaen ag ail gam cynnig Cylchdaith Cymru, sef y parc technoleg. Rydym bellach yn meddu ar ddeallusrwydd sylweddol am y galw am barc technoleg ym Mlaenau Gwent a'r angen i ni gefnogi’r hyn sydd eisoes yn sector cryf haen 2 yn y diwydiant modurol. Un o'r ffactorau sylfaenol sydd, hyd yma, wedi atal buddsoddwyr rhag lleoli nid yn unig yn y Cymoedd, ond mewn sawl rhan o Gymru, yw'r diffyg lle diwydiannol sydd ar gael i ddatblygu a chynhyrchu eu nwyddau. Felly, mae’r gwahaniaeth rhwng y cynnig ar gyfer y trac a'r cynnig ar gyfer y parc technoleg yn gyfystyr â channoedd o swyddi llawnamser, cynaliadwy. Rwyf wedi bod yn glir iawn na fydd y byd yn aros i Gymru ddatblygu technolegau modurol uwchraddol. Mae angen i ni arwain y byd, ac mae Blaenau Gwent wedi bod yn disgwyl yn ddigon hir. Pe baem yn aros am gyflwyniad cam 2 gan y cwmni datblygu, byddem o bosib yn cael ein gadael ar ôl o ran cerbydau ymreolaethol a cherbydau trydan. Mae angen i ni symud nawr, a gallai Blaenau Gwent fod yn ganolfan ragoriaeth ym Mhrydain ar gyfer technoleg newydd yn y sector modurol.
Mae’r Aelod yn iawn i ofyn am dystiolaeth a roddwyd gan y dirprwy ysgrifennydd parhaol, a buaswn yn rhybuddio unrhyw Aelodau rhag enwi gweision sifil nad ydynt yn gallu ymateb yn bersonol yn y Siambr hon. Byddwn yn dweud fy mod yn credu bod y dirprwy ysgrifennydd parhaol yn iawn yn y dystiolaeth a roddodd. Ar adeg neilltuo ein cyllid cychwynnol, cynnig y datblygwr oedd i’r prosiect gael ei ariannu'n llawn gan y sector preifat, ond roedd angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ei gamau cynnar ac i’w gychwyn ar ei daith. Rydym hefyd—o ganlyniad i'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i diwydrwydd dyladwy a'r prosiect—wedi gallu bwrw ymlaen â'r cynigion ar gyfer y parc technoleg.
O ran y cwestiwn o’r ddyled ar y fantolen, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol na allwch gael ateb pendant nes y bydd yr holl gontractau yn cael eu llofnodi. Ac wedyn hyd yn oed, gall gymryd misoedd lawer. Yn ei hanfod, byddai symud ymlaen gyda phenderfyniad ar sail risg uchel iawn iddo fod ar y fantolen yn beryglus—peryglus i Drysorlys Cymru a pheryglus i'r trethdalwr ac arian cyhoeddus, oherwydd fe allai, ymhen rhai misoedd, arwain at Lywodraeth Cymru yn gorfod canslo prosiectau adeiladu â chyfalaf cyfredol. Byddwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi £157 miliwn o brosiectau ledled Cymru ar hyn o bryd y gellid eu rhwystro o ganlyniad i'r prosiect hwn.
O ran benthyca ychwanegol, byddai’n rhaid i’r angen am fenthyca ychwanegol fod o bwysigrwydd strategol cenedlaethol, ond mae hynny yn rhywbeth sydd i’w drafod gyda Llywodraeth y DU. Bydd adfachu buddsoddiad ac unrhyw arian sydd eisoes wedi'i ymrwymo i'r prosiect , wrth gwrs, yn dibynnu ar ddyfodol cwmni datblygu Blaenau'r Cymoedd, ond, wrth gwrs, rydym yn edrych ar hynny.
O ran amcangyfrif y swyddi oedd i'w creu gan y cynnig, rwyf wedi clywed Aelodau yn y Siambr yn defnyddio, ar sawl achlysur, y ffigur o 6,000 o swyddi. Er bod y ffigur hwnnw i’w weld ar wefan Cylchdaith Cymru, mae'n rhif na chafodd ei adlewyrchu mewn diwydrwydd dyladwy ac, yn wir, canfu diwydrwydd dyladwy fod nifer tebygol y swyddi i'w creu mewn gwirionedd gryn dipyn yn is na hynny. Rwy'n credu hefyd fod angen cydnabod bodolaeth dau wahanol gam i'r prosiect, a fyddai’n cynhyrchu dau wahanol ffigur o ran y swyddi fyddai’n cael eu creu. Byddai'r cam cyntaf yn creu llawer llai o swyddi parhaol na'r ail gam. Dyna pam rwyf yn credu bod pobl Glynebwy yn haeddu’r ail gam nawr yn hytrach na rywbryd eto. O ran datblygu parc technoleg, rydym eisoes yn ymgysylltu â'r diwydiant, gyda rhanddeiliaid. Byddaf yn galw cyfarfod o arbenigwyr a rhanddeiliaid o'r ardal cyn gynted ag y bo modd—yr wythnos nesaf, rwy'n gobeithio. Rydym wedi siarad â TVR, ag Aston Martin Lagonda ac â Jaguar Land Rover: mae pob un ohonynt yn cadarnhau nad yw'r trac yn elfen hanfodol o ddatblygiad yng Nghymru. Cyn belled ag y mae TVR yn y cwestiwn, rydym yn edrych ymlaen at eu cynnyrch newydd sydd i’w lansio yn yr hydref a'i weithgynhyrchu yma yng Nghymru.