Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 27 Mehefin 2017.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod, ac rwy’n deall y pwynt y mae’n ei wneud, ond wrth gwrs fe wyddom ni fod gan y Llywodraeth newydd yma y cyfeiriodd ati—fe gyfeiriodd at Lywodraeth San Steffan—gytundeb hyder a chyflenwi gyda'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, sy’n gwadu bod newid yn yr hinsawdd. Mae'r cytundeb hyder a chyflenwi yn ymwneud â chyllidebu ariannol ond nid â chyllidebu carbon. A yw'n disgwyl i gyllidebu carbon barhau yn y weinyddiaeth bresennol?