Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 27 Mehefin 2017.
Rwy’n sicr yn disgwyl iddo barhau. Ni allaf siarad ar ran y DUP ond gallaf siarad ar ran Plaid Geidwadol Cymru, ac rydym ni’n cydnabod newid yn yr hinsawdd sydd wedi ei achosi gan ddyn. Felly, ein ffordd ni o fynd ati yw cefnogi ac annog Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, i fynd ymhellach.
Ond, beth bynnag, fe allem ni symud yn gyflymach yma, ac mae'n drueni nad ydym ni wedi gwneud hynny. Rwy'n sylweddoli y bydd fy amser ar ben os na fyddaf yn ofalus. A gaf i droi at ddarn arall o ddeddfwriaeth sydd, rwy’n credu, yn ysbrydoliaeth—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n eithaf amlwg ei fod wedi codi disgwyliadau ar draws bywyd economaidd a chyhoeddus yng Nghymru, ac mae hynny'n bwysig, ond un agwedd siomedig mae WWF Cymru a Chwarae Teg wedi tynnu sylw ato, ac sydd wedi cael sylw ein pwyllgorau Cynulliad, a'r Pwyllgor Cyllid, y mae'r Aelod, sydd newydd ymyrryd, Simon Thomas, yn gadeirydd arno, yw y buom ni’n gymharol araf yn ymgorffori’r Ddeddf honno yn ein gweithdrefnau pennu cyllideb ein hunain. Nawr, er tegwch i'r Ysgrifennydd cyllid, sy'n gwrando ar y ddadl hon, rwy'n falch o ddweud, roeddwn i’n credu ei fod wedi ildio rhywfaint yn ystod proses y gyllideb wrth ddweud, 'Wel, wyddoch chi, dim ond dechrau yr ydym ni ond rydym ni’n sylweddoli ein bod yn bell o lle’r hoffem ni fod o ran defnyddio’r Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol '. Ond, unwaith eto, rwy’n credu bod angen i ni sicrhau bod y Ddeddf honno wir yn effeithiol yn ein prosesau cyllideb ein hunain cyn gynted â phosibl fel y gall hynny hefyd helpu i lywio'r penderfyniadau y byddwn ni’n eu gwneud i leihau allyriadau carbon.
Diolch i chi am eich amynedd, Dirprwy Lywydd.