Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i gynnig ein gwelliannau ni, sydd yn sicr wedi’u cynllunio hefyd i wella’r cynnig gwreiddiol ac i fod yn gyfraniad tuag at y drafodaeth gyhoeddus y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i hamlinellu.
A gaf i ddechrau gyda’r ddau welliant gan y Ceidwadwyr yn gyntaf, ac i ddweud, er fy mod i’n deall yn iawn y bwriad y tu ôl i’r ddau welliant, mae’r un cyntaf, rwy’n credu, dipyn bach yn annheg, gan fod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ei hunan yn gosod y dyddiad o 2018 ar gyfer y gyllideb garbon gyntaf? Efallai ein bod ni i gyd wedi bod ar fai am ganiatáu i hynny fynd drwyddo heb ddal trwyn y Llywodraeth i’r maen ychydig yn fwy. Ond, yn sicr, mae’r ail bwynt, ynglŷn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn un teg iawn, ac y mae’n un y mae’r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ei hyrwyddo hefyd, a byddwn yn sicr yn cefnogi’r gwelliant hwnnw heddiw.
Mae gwelliannau Plaid Cymru yn troi o gwmpas—wel, mae yna bedwar gwelliant ond tri pheth, i ddweud y gwir. Yn gyntaf oll, sefydlu cwmni dielw hyd braich o’r Llywodraeth: Ynni Cymru—rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei hyrwyddo fel rhan o’r ateb i ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn ail, i osod yn amlwg iawn fod mynd i’r afael â llygredd awyr yr un mor bwysig â datgarboneiddio ag ynni ei hunan. Yn y cyd-destun hwnnw, rydw i’n sylweddoli bod gan y Llywodraeth rhyw fath o dasglu gwaith gorchwyl a gorffen ynglŷn â datgarboneiddio ac nid yw, yn ôl beth rydw i’n ei ddeall, yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd ar y tasglu hwnnw. Rydw i’n credu bod datgarboneiddio yn gymaint o gwestiwn iechyd ag ydyw o gwestiwn ynni a defnydd o adnoddau naturiol.
Y drydedd elfen i’n gwelliannau ni yw un sy’n troi o gwmpas datgarboneiddio y ffordd rydym ni’n teithio o gwmpas. Mae’r Aelod wedi gwneud y pwynt eisoes ynglŷn â’r llif gweision sifil yn mynd o le i le, ac, wrth gwrs, rhan o’r ateb i hynny yw lle rydych chi’n lleoli swyddfeydd a symud swyddfeydd allan o Gaerdydd, allan o rai o’r trefi mawr, ond rhan o’r ateb hefyd yw sicrhau bod pethau megis y pwyntiau trydanu yn y llefydd gwaith, so mae pobl yn gallu dewis ffurf amgen i deithio, a bod yna fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig trafnidiaeth gyhoeddus sydd ei hunan wedi’i datgarboneiddio, naill ai drwy LPG neu drwy’r defnydd o hydrogen, sydd yn arbennig â photensial, rydw i’n meddwl, yng Nghymru, ac mae yna gryn dipyn o flaengaredd a sgiliau yng Nghymru yn y maes yma.
Felly, mae Plaid Cymru yn meddwl pe bai’r tri maes yma, a’r pedwar gwelliant, yn cael eu hychwanegu i’r cynnig gan y Llywodraeth, y byddem ni’n fwy tebygol o gyrraedd y nod—nod yr ydym ni yn ei gefnogi—o fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030.
Nawr, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i amlinellu, er bod y stad gyhoeddus yn fach o ran ei chyfraniad tuag at garboneiddio, sef 1 y cant, mae hefyd yn sylweddol o ran maint y stad. Felly, un peth y medrwn ni edrych arno yw sut y gallwn ni droi adeiladau’r stad gyhoeddus yn adeiladau sydd yn cynhyrchu ynni di-garbon—paneli haul ar bob adeilad cyhoeddus yng Nghymru, er enghraifft. Nid oes yna ots os ydyn nhw wedi’u rhestru ai beidio—jest symud at y dyfodol. A sefydlu cwmni fel y soniais i, cwmni Ynni Cymru; edrych ar sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio mwy o gerbydau sydd yn isel, neu’n is eu defnydd o garbon. Pan oeddem ni wedi holi nôl ar ddechrau’r flwyddyn, ces i wybod mai dim ond Ynys Môn, i fod yn onest, sy’n defnyddio cerbydau LPG, ac mae’n siŵr bod yna dipyn o le i fwy o awdurdodau lleol wneud hynny.
Awn ni i edrych ar wledydd eraill cyfagos: yn yr Alban, mae Llywodraeth yr Alban wedi buddsoddi £3 miliwn er mwyn dyblu nifer y bysiau hydrogen yn Aberdeen o 10 i 20. Yn Llundain, rŷm ni newydd weld datblygiad y bws hydrogen ‘double-decker’ cyntaf, ac yn wir, mae’r ddinas honno wedi ymrwymo i gael o leiaf 300 o fysiau dim allyriadau, neu fysiau dim carbon, erbyn 2020. Felly, er ein bod ni weithiau yn dweud wrth ein hunain bod gyda ni ddeddfwriaeth dda yn y fan hyn—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac ati—ac er ein bod ni yn dweud ein hunain bod gyda ni dargedau uchelgeisiol, y ffaith amdani yw nad ydym ni eto ar flaen y gad, ac mae yna dipyn o ddal i fyny gyda ni i’w wneud. Cyn belled â bod y Llywodraeth yn dal ar y trywydd, ac yn cyflymu, ac yn carlamu, yn wir, ar hyd y trywydd yna, fe fydd Plaid Cymru yn cefnogi’r ymdrechion hyn.