Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 27 Mehefin 2017.
Safbwynt yr Undeb Ewropeaidd ar fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd oedd bod angen i bob adeilad cyhoeddus newydd fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2018 a phob adeilad newydd erbyn 2020. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb, yn gallu egluro beth yw'r sefyllfa, oherwydd rydym ni’n dal i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd ac mae'n rhaid i ni gydymffurfio â'i reoliadau. Credaf ei bod hi’n bwysig iawn cofio bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gorfodi pob un o’r 46 corff cyhoeddus i fynd i'r afael â chynaliadwyedd, ac nid peryglu lles cenedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy’n cymeradwyo llawer o'r pwyntiau a gododd David Melding—mae’n anodd iawn anghytuno ag ef ar y pwnc hwn—er na fyddaf i, yn anffodus, yn pleidleisio dros ei welliannau.
Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ganmol swyddogaeth coed, y sylwedd, a sut y gall helpu Cymru i gyrraedd ei tharged carbon niwtral yn y sector cyhoeddus erbyn 2030. Oherwydd bod gan y sector cyhoeddus swyddogaeth enfawr i'w chwarae wrth ddangos y ffordd tuag at economi carbon isel i’r sector preifat, pan fo gennym ni ar hyn o bryd adeiladwyr tai preifat blaenllaw sydd mor amharod i newid ac yn parhau i ddefnyddio ffyrdd o adeiladu nad ydyn nhw mewn unrhyw ffordd yn mynd i'r afael yn briodol â defnyddio ynni'n effeithlon. Mae'n ymddangos i mi bod defnyddio coed yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig ar gyfer adeiladau, yn ffordd o ddefnyddio pwynt gwerthu unigryw Cymru fel gwlad sydd â digonedd o dir, yn ogystal â thir sy'n addas ar gyfer tyfu coed. Mae'n ddiddorol nodi mai busnesau sy’n gweithio gyda choed yw’r pumed sector diwydiannol mwyaf yn y DU. Felly, mae hyn yn cyfrannu'n fawr iawn at yr economi, ac fe all adeiladu gyda choed newid wyneb datblygu cynaliadwy. Ond mae'n drist mai dim ond 15 y cant o'r coed a ddefnyddiwn ni yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd gaiff eu tyfu yn y DU, ac mai’r DU yw'r trydydd mewnforiwr mwyaf o goed yn y byd.
Mae tai coed yng Nghymru ar hyn o bryd yn cyfrif am lai na 25 y cant o'r holl dai newydd a gaiff eu hadeiladu. Yn yr Alban, mewn gwrthgyferbyniad, mae tai ffrâm coed yn cyfrif am dros 75 y cant o'r farchnad adeiladu newydd. Mae angen i ni dyfu mwy o goed ar frys ac mae’n amlwg nad oes modd gwneud hyn dros nos. Byddai’n cymryd rhwng 25 a 40 mlynedd cyn gallu eu cynaeafu. Ond mae angen i ni hefyd adeiladu llawer mwy o dai er mwyn bodloni anghenion ein poblogaeth, gan gynnwys tai cyngor a mathau eraill o dai cymdeithasol. Mae’r tai mwyaf effeithlon, carbon isel, sy’n perfformio orau ar draws y byd wedi eu hadeiladu o goed. Felly, yn y gorffennol, nid oedd unrhyw reswm i herio swyddogaeth dur a choncrid mewn adeiladu, ond mae newid yn yr hinsawdd yn newid hynny fel popeth arall. Mae pobl fel Michael Green, pensaer o Ganada, yn ein hannog i gyfnewid dur a choncrid am goed mewn llyfr a gyhoeddodd yn 2012. Dywedodd fod dur a choncrid yn:
ddeunyddiau gwych ... ond ... mae angen symiau enfawr o ynni i’w cynhyrchu ac mae ganddyn nhw ôl traed carbon sylweddol.
Mae newid yn yr hinsawdd a'r angen am fwy o dai trefol yn gwrthdaro mewn argyfwng sy'n gofyn am atebion adeiladu ynni isel gydag ôl traed carbon isel.
Fel deunydd adnewyddadwy sy’n tyfu trwy bŵer yr haul, mae coed yn cynnig ffordd newydd o feddwl am ein dyfodol. Mae gwneud hynny yn golygu ailddyfeisio pren; gan ei wneud yn gryfach, yn fwy galluog i wrthsefyll tân, yn fwy gwydn a’i gynaeafu o goedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy.
Ac nid dim ond Green sy'n dadlau’r achos hwnnw. Mae’r Athro Callum Hill, sy’n arbenigwr ar ddeunyddiau ym Mhrifysgol Napier Caeredin, yn nodi bod cynnyrch coed yn amsugno mwy o garbon nag a ddefnyddir wrth eu cynhyrchu. Maen nhw’n lleihau carbon deuocsid yn yr atmosffer drwy leihau allyriadau a chael gwared ar garbon deuocsid a'i storio. Mae gan goed y gallu unigryw hwnnw. Cymeradwyaf gamau Cyngor Sir Powys o ran mabwysiadu polisi sy’n blaenoriaethu coed, a dyma’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hynny. Fe allwn ni weld o'r hyn sydd wedi digwydd yn Hackney yn Llundain, sy’n amlwg yn awdurdod lleol heb fawr ddim tir, ac a fabwysiadodd y polisi coed cyntaf sawl blwyddyn yn ôl, ac sydd wedi ennill gwobrau di-ri am ansawdd ei dai, ysgolion ac adeiladau cyhoeddus. Mae hon yn ffordd yr wyf i’n teimlo y dylem ni fod yn ei throedio yng Nghymru. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod pa un a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi meddwl am hynny.