Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno dadl heddiw. Mae gennym ni ddiddordeb mewn materion amgylcheddol yn UKIP ac, yn arbennig, rydym ni’n pryderu bod ansawdd yr aer yn gwaethygu. Mae hon yn agwedd a godwyd yn benodol gan Blaid Cymru yn eu pedwerydd gwelliant heddiw. Allwn ni ddim osgoi y bygythiad iechyd cynyddol a achosir oherwydd bod ansawdd yr aer o'n cwmpas yn gwaethygu, fel mae nifer yr achosion cynyddol o asthma a chyflyrau iechyd eraill cysylltiedig yn ei ddangos. Mae llawer o gymunedau trefol yng Nghymru yn dioddef oherwydd bod ansawdd yr aer yn dirywio ac fe gafwyd tystiolaeth yn ddiweddar fod gan Crymlyn yn y de-ddwyrain un o'r amgylcheddau gwaethaf o ran ansawdd aer yn y DU gyfan. Mae hyn yn peri digon o bryder i drigolion Crymlyn, wrth gwrs, ond y gwir amdani yw bod melltith ansawdd aer gwael yn effeithio ar y rhan fwyaf o'n hardaloedd adeiledig yng Nghymru. Mae angen i ni wneud yr hyn a allwn ni i fynd i'r afael â'r mater hwn ac rydym ni’n ategu’r galwadau ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer yn rhan o'i rhaglen o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus. Felly, rydym ni’n cefnogi gwelliant 4 Plaid Cymru.
Rwy’n cydnabod rhai o’r pwyntiau a gododd Mike Hedges am yr hyn y cyfeirir ato fel gwadu bod newid yn yr hinsawdd. Rwy’n meddwl, weithiau, bod yr ymadrodd ei hun ychydig yn gamarweiniol gan nad oes, weithiau, wadu bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd, ond yn hytrach amheuaeth ynglŷn â faint o newid yn yr hinsawdd mae dyn yn gyfrifol amdano. Felly, efallai, weithiau, bod mwy o fân amrywiaeth na dewis syml, du neu wyn, o ran pa un a ydym ni’n derbyn bod newid yn yr hinsawdd ai peidio. Felly, gobeithio y byddwch yn cydnabod fod yna amrywiaeth barn ar y mater hwn.
Rydym ni’n gwrthwynebu cynnig y Llywodraeth yn gyffredinol. Credwn y gwneir llawer o ymdrech yn rhyngwladol ac yn y DU i geisio lleihau allyriadau carbon gydag ychydig iawn o effaith gadarnhaol. Unwaith eto, rwy’n derbyn yr hyn y mae Mike Hedges newydd ei ddweud, bod angen i ni wneud ymdrech yng Nghymru. Fodd bynnag, ein barn sylfaenol ni, ein cynsail sylfaenol yw bod ein hallyriadau carbon yn y DU yn ddiferyn yn y môr o’u cymharu â rhai Tsieina, er enghraifft. Nid yw hi’n bosibl gweithredu i leihau allyriadau byd-eang yn effeithiol heblaw bod hynny’n digwydd ar lefel fyd-eang, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys deddfwriaeth orfodol sy’n cyfyngu’n sylweddol ar effaith llygru Tsieina a gwledydd eraill sy’n llygru ar raddfa fawr.
Yn y DU, mae effaith negyddol sylweddol yn ein hymdrechion i leihau allyriadau carbon o ran sut mae’r ymdrechion hyn yn effeithio ar bocedi pobl gyffredin. Cynhyrchodd y Sefydliad Polisi Cynhesu Byd-eang adroddiad ym mis Rhagfyr 2016 yn datgan bod pob aelwyd ym Mhrydain yn talu dros £300 y flwyddyn ar gyfartaledd i leihau allyriadau carbon. Mae hyn er mwyn talu am y newid i ffynonellau ynni drutach er mwyn cydymffurfio â Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Ar lefel Llywodraeth Cymru, bydd cost i'r cyhoedd hefyd o weithredu'r mesurau datgarboneiddio hyn, ac, yn y pen draw, fel mae sawl siaradwr wedi crybwyll heddiw, nid yw’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael effaith sylweddol ar allyriadau carbon. Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru ei hun, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y sector cyhoeddus yn gyfrifol am lai nag 1 y cant o gyfanswm allyriadau carbon yng Nghymru, ac fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod hyn yn ei sylwadau agoriadol. Cyfeiriodd siaradwr arall at y ffigur hwnnw hefyd, felly mae'n ymddangos bod consensws ynglŷn â’r ffigur hwnnw. Felly, tybed pam y gwneir ymdrech mor fawr i leihau ymhellach allyriadau mewn sector sydd mor ddibwys yn y darlun ehangach.