Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 27 Mehefin 2017.
Rwy'n falch o ddilyn David Melding, a wnaeth yr ymgais fwyaf cydlynol i nodi unrhyw gyfiawnhad dros y sefyllfa yr ydym ynddi, ac yn sicr gwnaf ymuno ag ef i ddweud bod rhaid inni nawr sefyll yn gadarn dros Gymru.
Ond dewch inni edrych ar y sefyllfa yr ydym ynddi. Drwy drafod y cytundeb hwn, mae gennym weinyddiaeth a arweinir gan y Ceidwadwyr yn San Steffan ag, i bob pwrpas, yn union yr un mwyafrif ag oedd ganddi cyn yr etholiad cyffredinol pan ddywedodd nad oedd y mwyafrif hwnnw’n ddigon cryf a sefydlog i fynd â hi drwy'r trafodaethau Brexit. Ac rwy’n teimlo bod hynny wir, wir yn dangos bod San Steffan mewn sefyllfa fregus iawn. Nid wyf yn meddwl y gwnaiff y Llywodraeth hon bara rownd o drafodaethau Brexit, ond amser a ddengys, fel y dywed David Melding.
Nawr, mae'r taliad a wnaethpwyd er mwyn caniatáu i hyn ddigwydd, sydd tua £100 miliwn i bob AS DUP—mwy na gwerth trosglwyddiad Gareth Bale, gyda llaw—yn ei gwneud yn amlwg yn union pa mor daer yw Theresa May a'r Blaid Geidwadol i aros mewn Llywodraeth, neu yn hytrach i osgoi etholiad cyffredinol arall am yr amheuaeth sydd ganddynt o ble y gallai eu harwain. Ac rwy’n meddwl ei fod wedi’i risialu orau yn y dyfyniad hwn, a ddywedwyd heddiw:
Mae hon yn wlad sydd wedi'i rhannu’n ddwfn ac mae rhoi sylw penodol i un rhan ohoni, er mwyn rhoi rhyw lun o sefydlogrwydd tymor byr, yn un arall eto o'r prisiau yr ydym yn eu talu am oblygiadau Brexit.
Yr Arglwydd Heseltine a ddywedodd hynny. Yr Arglwydd Heseltine, wrth siarad ar radio’r Alban heddiw. Rwyf wedi meddwl erioed mai’r unoliaethwyr a fyddai’n dinistrio’r undeb, ac rwy'n fwy argyhoeddedig byth o hynny nawr.
Dewch inni weld beth yw’r cymorth ariannol i Ogledd Iwerddon, oherwydd rwy’n meddwl bod angen ei archwilio rywfaint. Mae llawer o bobl wedi dweud ei bod yn ddogfen hyder a chyflenwi tair tudalen; yn wir, mae tair tudalen arall. Mae'r tair tudalen arall yn ymwneud â'r trefniadau ariannol a cheir cryn fanylder yno am y trefniadau ariannol. Datblygu seilwaith yng Ngogledd Iwerddon—£200 miliwn y flwyddyn am ddwy flynedd ar gyfer prosiect cyfnewidfa York Street. Nid wyf yn gwybod beth yw hwnnw. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn gwybod drwy ei gysylltiadau teuluol beth yw hwnnw, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw bod hynny'n rhagderfyniad cyn ichi ethol gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon, ac mae hynny'n un o flaenoriaethau’r DUP sydd wedi'i hariannu. Saith deg pum miliwn o bunnoedd y flwyddyn am ddwy flynedd i ddarparu band eang cyflym iawn i Ogledd Iwerddon. Wel, gallem wneud â £75 miliwn y flwyddyn ar gyfer band eang cyflym iawn yma yng Nghymru hefyd. Ymrwymiad bod anghenion Gogledd Iwerddon yn cael eu hadlewyrchu'n briodol yn y dyfodol yng nghronfa rhannu ffyniant y DU. Nid ydym wedi cael ymrwymiad o'r fath eto—dim ymrwymiad ysgrifenedig o'r fath gan Lywodraeth San Steffan bod y gronfa rhannu ffyniant, sy'n cymryd lle, wrth gwrs, cronfeydd strwythurol yr UE, yn mynd i gyflawni hynny’n dda i Gymru. Ymrwymiad i ddefnyddio rhwydweithiau o lysgenadaethau ac uchel gomisiynau i hyrwyddo Gogledd Iwerddon fel lleoliad ar gyfer buddsoddiad tramor uniongyrchol. Hyrwyddo Gogledd Iwerddon dros yr Alban, dros Gymru, dros ranbarthau Lloegr—beth mae hyn yn ei olygu? Ymrwymiad yn y dyfodol i weithio tuag at ddatganoli cyfraddau treth gorfforaeth—rhywbeth sydd wedi cael ei wrthod i’r rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig—a datblygu opsiynau ar gyfer cyllideb yr hydref eleni. Ymrwymiad i fargeinion dinesig ledled Gogledd Iwerddon. Nawr, dyma sy’n gwneud sylwadau Alun Cairns bod hyn yn rhyw fath o uwch fargen ddinesig yn nonsens llwyr oherwydd maent yn cael y cytundeb hwn, ac maent yn cael bargeinion dinesig ac maent yn cael parthau menter. Felly, maent yn cael popeth yr ydym ni’n ei gael yn ogystal â'r biliwn. Nid dim ond torri Barnett yw hyn, ond ei chwalu a'i sathru i mewn i'r mwd.
Er mwyn targedu pocedi o amddifadedd difrifol—ac rwy’n derbyn bod amddifadedd difrifol yng Ngogledd Iwerddon—bydd Llywodraeth y DU yn darparu £20 miliwn y flwyddyn am bum mlynedd. Nid cytundeb dwy flynedd ydyw; mae’n un pum mlynedd. Dyna £100 miliwn i gefnogi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyflwyno'r mesurau o gwmpas twristiaeth. £50 miliwn ychwanegol am ddwy flynedd i leihau pwysau ar unwaith ar iechyd ac addysg. Wel, ie, gallem ni wneud â’r rheini. Ac yna, £100 miliwn am ddwy flynedd i gefnogi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyflawni ei blaenoriaeth o drawsnewid y gwasanaeth iechyd. Nid oes gennym Weithrediaeth Gogledd Iwerddon eto, ac eto maent eisoes yn sôn am eu blaenoriaethau. Wrth gwrs, gallai Llywodraeth San Steffan gyflwyno hyn, i bob pwrpas, drwy reol uniongyrchol, a fydd yn arwain at fwy fyth o broblemau.
Ac yna’r peth olaf—hyblygrwydd i’r arian sydd dros ben ers dyraniadau blaenorol ar gyfer addysg a rennir a thai i gael ei wasgaru’n hyblyg o fewn cyfnod yr adolygiad hwn o wariant. Mewn geiriau eraill, ni fydd dim o reolau'r Trysorlys ar drosglwyddo arian o un flwyddyn i'r llall mewn addysg na thai nawr yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Nid wyf yn gwybod ers pryd yr ydym wedi bod yn dadlau am hynny—o leiaf 10 mlynedd, o leiaf 10 mlynedd. Mae'n gwneud ichi feddwl: rydych yn gwneud dadl synhwyrol, gydlynol sy'n seiliedig ar yr economi, yn seiliedig ar les eich pobl, a’r oll yr ydych yn ei glywed yw mai ychydig o wleidyddiaeth bôn braich sy’n mynd i ennill y gêm. Wel, rwyf yn dweud nad gwleidyddiaeth bôn braich yw hyn; mesurau anobeithiol ydynt a Llywodraeth ansefydlog a fydd yn methu. Bydd yn methu, os dim byd arall, oherwydd hyn, y darn olaf o’r cytundeb a'r rhan ariannol, sy'n sôn am yr etifeddiaeth ac yn dweud hyn:
Mae'r ddwy blaid yn ailadrodd eu hedmygedd i ddewrder ac aberth yr heddlu a'r lluoedd arfog wrth gynnal democratiaeth a rheolaeth y gyfraith ac ni wnawn byth anghofio’r ddyled o ddiolchgarwch sy'n ddyledus gennym iddynt.
Nawr, mewn unrhyw gyd-destun arall, mae honno’n ystrydeb y byddem i gyd yn cytuno â hi. Yng nghyd-destun Gogledd Iwerddon, mae’n ddeinameit—yn llythrennol, deinameit.