<p>Gwastraff Bwyd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:30, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n sicr yn bwysig iawn ein bod yn annog teuluoedd i ailgylchu cymaint o wastraff bwyd â phosibl yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o’r ffaith fod y cyfleuster treulio anerobig ym Mryn Pica yn fy etholaeth wedi trawsnewid gwastraff bwyd yn ddigon o drydan i bweru dros 2,500 o gartrefi ar gyfer y flwyddyn galendr y llynedd. Beth yw’r ffordd orau y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo’r neges, os yw cartrefi yn cynhyrchu gwastraff bwyd—a gwasanaethau cyhoeddus a busnesau preifat hefyd—ei fod yn cael ei ailgylchu’n briodol, fel y gellir ei ddefnyddio i bweru cartrefi ac adeiladau?