Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 28 Mehefin 2017.
Mae’n wirioneddol bwysig fod deiliaid tai yn deall beth sy’n digwydd, ac mae 99 y cant o gartrefi bellach yn gallu darparu eu gwastraff bwyd er mwyn iddo gael ei ddefnyddio yn y ffordd hon. Mae WRAP Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gynyddu’r cyfraniad o wastraff bwyd ar gyfer y canolfannau treulio anaerobig. A’r llynedd, dyblodd lefelau gwastraff bwyd un awdurdod lleol o ganlyniad i’r ymgyrch, ac mae’r ymgyrch gyffredinol wedi hybu gostyngiad yn lefelau gwastraff bwyd y cartref yng Nghymru, i lefelau is nag unrhyw le arall yn y DU. Unwaith eto, rydym yn arwain yn hyn o beth. Mae hwnnw’n ostyngiad o 12 y cant.