<p>Canllawiau Rheoli Ansawdd Aer Lleol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:12, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, mae arnaf ofn nad yw Caerdydd yn cydymffurfio â deddfwriaeth ansawdd aer, a bu’r chwyddwydr ar Gaerdydd mewn rhaglen deledu ddoe am nifer y tai sy’n cael eu datblygu yng Nghaerdydd heb y cysylltiadau trafnidiaeth i gyd-fynd â hwy. A ydych o’r farn y dylai awdurdodau lleol, wrth gyflawni eu dyletswyddau cynllunio, ystyried yr angen am gysylltedd wrth ddatblygu cymunedau newydd, fel nad ydynt yn cynyddu eu problemau llygredd yn sylweddol? Ac yn amlwg, mae gan y metro ran bwysig i’w chwarae wrth sicrhau nad yw pob un ohonom yn boddi mewn aer gwenwynig.