Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch. Gwelais heddiw yn y cyfryngau fod arweinydd cyngor dinas Caerdydd yn siarad am yr angen am ragor o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a beicio mewn perthynas â’r mater rydych yn ei godi. Gwyddom nad yw trafnidiaeth, mewn gwirionedd, yn helpu gydag ansawdd aer, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Cawsom ddadl ddoe ynglŷn â datgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Wel, mae hyn yn sicr yn rhan o’r agenda ddatgarboneiddio. Soniais ein bod wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn rhan ohono, ac un o’r pethau y byddwn yn eu trafod yn ein cyfarfod nesaf yw cerbydau carbon isel, er enghraifft, am ei bod mor bwysig, wrth i ni bontio i economi carbon isel, ac mewn perthynas â thrafnidiaeth, eu bod yn cael eu hystyried mewn perthynas ag ansawdd ein haer.