Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 28 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod o lygad y ffynnon, o fy ngwaith achos yn fy etholaeth, fod y problemau sy’n wynebu cyn-filwyr yn amrywio o dai, digartrefedd i ofal iechyd. Mae ymchwil a wnaed gan Brifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Forces in Mind wedi awgrymu y gallai cyn-filwyr fod mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau gamblo na rhai nad ydynt yn gyn-filwyr, ac y gallai’r gwendid hwn fod yn gysylltiedig â phrofiad o ddigwyddiadau trawmatig blaenorol. Mae gamblo’n ddibyniaeth gymhleth ag iddi nifer o ffactorau cyfrannol, ac efallai y dylid ei thrin yn yr un ffordd â dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau. Fel Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am bolisi mewn perthynas â’r lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru, a wnewch chi weithio gyda’ch cyd-Aelod, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i edrych ar iechyd ac effaith ehangach gamblo cymhellol ymhlith cyn-filwyr, er mwyn rhoi sylw i’w hanghenion penodol ac er mwyn iddynt allu cael mynediad at unrhyw gymorth priodol sydd ar gael?