<p>Cefnogaeth i Gyn-filwyr </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:19, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Roeddwn yn falch yr wythnos diwethaf o fynychu lansiad gwasanaeth Veterans’ Gateway, siop un stop i gyn-filwyr ac aelodau o’u teuluoedd gael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth. Wrth gwrs, mae llawer o asiantaethau y gellir cyfeirio cyn-filwyr atynt. Mae gennym thema drawsbynciol ar draws y Llywodraeth o ran cefnogi cyn-filwyr, ac rwy’n falch fy mod hefyd yn cadeirio grŵp cynghori sy’n cynnwys cyn-filwyr, o ran sicrhau eu bod yn rhoi cyngor priodol i mi, cyngor o ansawdd, mewn perthynas â’u hanghenion, a byddaf yn gofyn iddynt ystyried hynny yn y dyfodol agos.