Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 28 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan y byddai llinell gymorth 24 awr newydd ar gyfer cyn-filwyr gwasanaethau’r lluoedd arfog o bob rhan o’r Deyrnas Unedig sy’n dychwelyd i fywyd sifil yn cael ei lleoli yn Nantgarw. Bydd y llinell gymorth hon yn darparu siop un stop gan gynnig canllawiau ar dai, cyflogaeth, cyllid ac iechyd meddwl a chorfforol, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i groesawu’r cyhoeddiad hwn, a fydd yn gwella’n fawr y gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr yng Nghaerffili, Cymru, a’r Deyrnas Unedig gyfan? Diolch.