<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 6:29 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 6:29, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny, ac edrychaf ymlaen at weld hynny’n digwydd. Gan symud ymlaen at fater y soniasom amdano yr wythnos diwethaf, yn dilyn trychineb Tower Grenfell, nawr rwy’n gwybod eich bod wedi gwneud datganiad ar hyn i’r Siambr, felly rydym wedi trafod y materion hyn—. Un peth sydd wedi codi fel problem bosibl wrth fynd i’r afael â rheoleiddio yng Nghymru yw’r rhaniad yn y cyfrifoldebau rhyngoch chi a’ch cyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn yr ystyr bod cyfrifoldebau Lesley Griffiths, rwy’n credu, yn cynnwys yr ochr sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu, ac rydych chi’n gyfrifol am wasanaethau tân ac achub a diogelwch tân cymunedol. Felly, roeddwn yn meddwl tybed beth oedd eich barn ar hynny a sut y byddech yn mynd i’r afael ag anhawster y rhaniad hwnnw.