Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 28 Mehefin 2017.
Gadewch i mi roi sicrwydd i’r Aelod unwaith eto: nid oes unrhyw anhawster o ran cyfrifoldeb o fewn Llywodraeth Cymru ar hyn. Fi yw’r Gweinidog arweiniol ar hyn, gan gynnwys yr ochr sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu, a’r perygl tân i unrhyw adeiladau yng Nghymru. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod gyda Llywodraeth y DU, yn ogystal â fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban ac yn Lloegr, ar hyn. Mae hwn yn fater byw iawn ac rydym o ddifrif yn ei gylch. Rwy’n gweithio’n agos iawn gydag adran Lesley Griffiths, ond fi yw’r Gweinidog arweiniol.