3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 28 Mehefin 2017.
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran ymateb i’r cynlluniau arfaethedig i gau Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid Tesco yng Nghaerdydd? TAQ(5)0191(EI)
Yn dilyn trafodaethau a chyfarfodydd gyda Tesco ac USDAW, rwy’n cyfarfod â Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru heddiw i archwilio cyfleoedd cyflogaeth mewn canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid rheoledig eraill yn y rhanbarth. Rydym hefyd yn sefydlu tasglu i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i staff.
Wrth siarad yn gynharach heddiw yn nigwyddiad Consortiwm Manwerthu Cymru yn y Senedd, Ysgrifennydd y Cabinet, bu i chi drafod pwysigrwydd deialog effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector manwerthu. Yn y cyd-destun hwnnw, pa mor syfrdan—yn wir, pa mor ddig—oeddech chi fod Tesco, cyflogwr sector preifat mwyaf Cymru, heb roi unrhyw rybudd ymlaen llaw o gwbl i chi, yn ôl yr hyn a ddeallaf, am yr holl swyddi hyn a fydd yn cael eu colli? Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar sut y cafodd eu gweithlu teyrngar eu trin? Mae gennyf e-bost yn fy meddiant a anfonwyd gan aelod o staff uwch reoli Tesco fis Medi y llynedd, yn awgrymu’n glir i’w weithlu nad oedd unrhyw berygl i’w swyddi, er gwaethaf pryderon a oedd yn cylchredeg ar y pryd tra oedd prydles yr adeilad yn weithredol tan 2020. Nawr, mae’n amlwg, ar sail hynny, fod Tesco wedi camarwain y gweithwyr hyn. Bydd llawer ohonynt wedi gwneud penderfyniadau pwysig am eu dyfodol yn seiliedig ar y wybodaeth hon. Nawr, a yw’r ymddygiad hwnnw’n dderbyniol, ym marn Llywodraeth Cymru, gan gyflogwr cyfrifol? Os nad yw, oni ddylai ef enwi a chywilyddio Tesco? Yn olaf, fe gyfeiriodd, yn rhai o’r sylwadau a wnaeth yn union ar ôl y cyhoeddiad, ei fod yn mynd i geisio gofyn am gyfarfod brys gyda Tesco i’w perswadio i feddwl eto. A all ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt? A yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwrth-gynnig i Tesco ar y bwrdd mewn partneriaeth ag undebau ac awdurdodau lleol?
Hoffwn ddiolch i’r Aelod am y pwyntiau y mae’n eu codi a’r cwestiynau hefyd. Cefais fy siomi’n fawr iawn, nid yn unig gan y penderfyniad, ond gan y ffordd y daeth Llywodraeth Cymru, a llawer iawn o weithwyr yn wir, i wybod am y bwriad i gau’r cyfleuster. Mae’n eithaf amlwg yn awr fod llawer o weithwyr wedi clywed am y penderfyniad ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n weithred hollol annerbyniol ac anghyfrifol gan unrhyw gyflogwr. Mae’n ymddangos, o ystyried y newyddion heddiw, fod Tesco yn cychwyn ar ymarfer torri costau enfawr gydag ymgais mewn golwg i dorri oddeutu £1.5 biliwn o gostau oddi ar eu llinell sylfaen. Cafwyd cyhoeddiad pellach heddiw fod 1,200 o swyddi’n mynd yn eu pencadlys. Rwy’n credu bod hyn yn dangos bod Tesco yn mynd ar drywydd agenda o dorri costau sy’n gosod elw, yn anffodus, o flaen y gweithlu.
Rydym wedi cael trafodaethau gyda’r cwmni. Cynhaliwyd cyfarfod ddydd Llun. Siaradais â’r Prif Swyddog Gweithredol yr wythnos diwethaf yn mynegi fy siom, fy siom dwfn, ynglŷn â’r ffordd y gwnaed y penderfyniad. Dywedwyd wrthyf unwaith eto nad oedd unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi’i gynnig neu ei wneud i atal yr hyn sy’n benderfyniad masnachol pur, ond fe bwysleisiais wrth y cwmni yr angen i weithio gyda phob partner i nodi cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer y rheiny yr effeithir arnynt gan y penderfyniad i symud ymlaen i waith diogel ar gyflogau da yn y sector.
Erbyn hyn, mae nifer o gamau gweithredu’n cael eu datblygu o ganlyniad i’r trafodaethau a gynhaliwyd gyda Tesco yr wythnos hon. Rydym yn galw ar Tesco i sicrhau bod Cymru’n cael ei hystyried fel opsiwn ar gyfer cyflogaeth a gweithrediadau a ddarperir gan gyflenwyr allanol. Rydym yn gweithio gyda nifer o bartïon â diddordeb sy’n edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio’r adeilad fel cyfle i fuddsoddi a chyfle cyflogaeth. Rydym yn gweithio gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, gan nodi cwmnïau a allai recriwtio, ac yn wir yn gweithio gyda’r rhai sydd wedi mynegi diddordeb mewn recriwtio. Rydym yn gwybod bod o leiaf bum cwmni sylweddol sy’n ystyried cyflogi’r gweithwyr yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad.
Rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau bod y tasglu yn dwyn ynghyd nifer o asiantaethau, gan gynnwys y fforwm canolfannau cyswllt wrth gwrs, ond Gyrfa Cymru a Busnes Cymru a chyrff eraill hefyd sy’n gallu cynorthwyo pobl i ddod o hyd i waith arall. Er gwaethaf yr hyn y mae Tesco wedi penderfynu ei wneud—ac maent wedi nodi’r rhesymau pam y bu iddynt wneud y penderfyniadau—er gwaethaf y penderfyniad hwnnw, mae’n werth dweud bod y sector yn parhau i fod mewn sefyllfa fywiog yma yng Nghymru. Mae gennym lawer iawn o bobl fedrus tu hwnt yn gweithio yn y sector. Mae cyfran enfawr, wrth gwrs, yn cael eu cyflogi gan Tesco ac effeithir arnynt gan y penderfyniad anffodus hwn, ond rydym yn parhau i fod o’r farn y bydd nifer sylweddol yn gallu manteisio ar gyfleoedd gwaith ar unwaith, nid yn unig o fewn Tesco, lle y gellid eu hadleoli, ond yn y cwmnïau eraill hynny sy’n awyddus i recriwtio’n fuan iawn. Byddwn yn gweithio gydag unigolion drwy’r rhaglen ReAct, gyda busnesau, unwaith eto drwy’r rhaglen ReAct, drwy Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, a chyda nifer o gwmnïau angori a chwmnïau sy’n bwysig yn rhanbarthol, i nodi cymaint o gyfleoedd gwaith ag y bo modd yn y sector bywiog hwn.
Rwy’n cytuno’n llwyr â rhai o’r teimladau a fynegwyd gennych heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hwn yn gyfnod hynod o ofidus i’r 1,100 o weithwyr yn y cyfleuster hwn yng Nghaerdydd, sydd â hanes da iawn dros y 27 mlynedd ers ei sefydlu ym mhrifddinas Cymru. Mae ymroddiad a phroffesiynoldeb y gweithwyr yn haeddu cael eu trin yn well nag a gawsant yr wythnos diwethaf, rhaid i mi ddweud. Mae’n drueni mai drwy gyfryngau cymdeithasol a thrydydd partïon, gawn ni ddweud, y clywodd llawer o’r gweithwyr hyn y newyddion.
Ond mae’n ffaith, Ysgrifennydd y Cabinet, mai colledion swyddi arfaethedig yw’r rhain ar hyn o bryd. Er hynny, yn anffodus, yn aml iawn bydd cynlluniau arfaethedig o’r fath yn cael eu gwireddu ar ddiwedd y broses. Rydych wedi cael wythnos gyda’ch swyddogion i dreulio’r cyhoeddiad, i gysylltu â’r prif weithredwr a chysylltiadau eraill yn y cwmni. Yn eich asesiad, a oes unrhyw obaith y gellid achub rhai o’r swyddi hyn o fewn y teulu Tesco? Os yw hynny’n bosibilrwydd, a oes unrhyw amcangyfrif o’r nifer debygol o swyddi a allai fod ar gael i rai o’r gweithwyr ar y safle?
Yn ail, yn amlwg ni ellir bychanu pwysigrwydd y pecyn y bydd y Llywodraeth yn ei roi ar waith wedi cyhoeddiad swyddi ynglŷn â mwy o golledion swyddi nag ers 10 mlynedd yng Nghymru, ac a fydd yn creu heriau logistaidd enfawr i’r pecyn cymorth y gallech ei roi ar waith. A ydych yn ffyddiog, yn ôl yr asesiad a wnaethoch, y bydd y pecyn yn diwallu anghenion y gweithwyr i’w galluogi i ddod o hyd i waith arall ac yn y pen draw, i sicrhau cyflogaeth sy’n talu’r morgais, yn rhoi’r bwyd ar y bwrdd, ac yn dilladu’r plant gartref? Oherwydd dyna’r cwestiynau y bydd y gweithwyr am wybod yr atebion iddynt.
Os caf hefyd bwyso arnoch: o ystyried bod Tesco yn bartner strategol mor allweddol yn yr economi—19,000 o weithwyr ar draws Cymru, y cyflogwr preifat unigol mwyaf yng Nghymru—ni all fod yn dderbyniol fod y cyhoeddiad hwn wedi peri syndod i chi. Ni allaf gredu nad ydych chi, neu nad yw eich swyddogion yn aelodau o fforymau neu gyfarfodydd lle y caiff cyfleoedd eu trafod, lle y caiff rhwystrau eu trafod, a beth y gallwch ei wneud i’w gwneud yn haws goresgyn y rhwystrau hynny. Pa fath o berthynas sydd gennych mewn gwirionedd gyda’r cyflogwyr mawr hyn i wneud yn siŵr fod yna ymddiriedaeth go iawn ar y ddwy ochr i’r bwrdd wrth i chi drafod rhoi cyfleusterau ar waith sy’n helpu cyflogwyr i gryfhau eu sefyllfa yma yng Nghymru, i ddiogelu eu sefyllfa yng Nghymru, ac yn y pen draw, i gael ychydig o onestrwydd?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau a hefyd am gytuno gyda fy nheimladau ynglŷn â phenderfyniad Tesco? Rwyf am ymdrin â’r pwynt olaf yn gyntaf, os caf. Nid Llywodraeth Cymru yn unig na chafodd wybod mewn da bryd am y penderfyniad. Llywodraeth y DU—rwy’n meddwl bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi’i gofnodi’n dweud na chawsant rybudd ymlaen llaw chwaith. Rwy’n credu bod pawb wedi bod yn feirniadol o’r ffordd y caniataodd Tesco i weithwyr medrus a ffyddlon gael gwybod gyntaf am eu tynged ar gyfryngau cymdeithasol. Ni chafodd Llywodraeth yr Alban wybod ymlaen llaw. Ni chafwyd unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban, ac nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw drafodaethau wedi’u cynnal gyda’r awdurdodau rhanbarthol yn Lloegr mewn perthynas â chyhoeddiad heddiw chwaith.
Mae Tesco wedi penderfynu gwneud y cyhoeddiadau hyn heb ymgynghori ag unrhyw lefel o lywodraeth o gwbl. Yn wir, daw ein hymgysylltiad yn bennaf drwy Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, sy’n gweithredu, fel y mae’n ei ddweud, fel fforwm ar gyfer busnesau canolfannau cyswllt. Yn anffodus, mae’n ymddangos bod ymgysylltiad Tesco â’r fforwm ei hun heb arwain at rybudd ymlaen llaw fod y penderfyniad hwn yn cael ei wneud. Unwaith eto, mae hynny’n anffodus iawn, ac rwyf wedi mynegi hyn wrth y cwmni—rwyf wedi’i ddweud ar goedd.
Mae’n bwysig fod sefydliadau’r sector, megis y fforwm canolfannau cyswllt, yn cael ymddiriedaeth y cyflogwyr sy’n dibynnu ar y cyrff hyn am gyngor, am gyfleoedd, ac i rannu arferion gorau a gwybodaeth sector. Hoffwn wahodd Tesco, fel cyflogwr mawr yn economi Cymru, i ymgysylltu’n fwy trylwyr gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru, a chyda chyrff y sector manwerthu yn ogystal, i sicrhau, wrth inni symud ymlaen, y gellir achub cymaint â phosibl o gyfleoedd gwaith ac yn wir, fod cymaint â phosibl o’r rhai a allai gael eu heffeithio gan y penderfyniad, os yw’r colledion yn dod i rym yn wir, yn gallu dod o hyd i waith arall—.
Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn ynglŷn â faint o swyddi y gellid eu hachub o fewn y grŵp Tesco. Gofynnais hyn i’r cwmni mewn gwahanol drafodaethau a chyfarfodydd. Dywedir wrthym ei bod yn debygol y gellir achub nifer o swyddi o fewn y grŵp Tesco ehangach yn y rhanbarth hwn. Nid yw’n bosibl cael rhif pendant gan y cwmni ar hyn o bryd gan nad yw’r cwmni ei hun yn gallu pwyso a mesur faint o gyfleoedd sydd i’w cael ar draws y rhanbarth. Fodd bynnag, mae’n amlwg na fydd yn agos at y 1,000 a mwy o swyddi y maent yn argymell eu colli, ac am y rheswm hwnnw mae’n bwysig ein bod yn ystyried cyflwyno nifer o brosiectau—prosiectau mewnfuddsoddi—y gellid eu defnyddio i amsugno nifer sylweddol o’r swyddi a allai gael eu colli yn sgil yr ymgynghoriad 45 diwrnod.
Rwyf hefyd yn gweithio’n agos gyda’r undebau llafur a chydag Aelodau lleol hefyd i wneud yn siŵr fod yna ymateb cydlynol i hyn ar draws y sbectrwm gwleidyddol a chyda’n partneriaid cymdeithasol. Rwyf wedi siarad ag USDAW ar sawl achlysur, rwyf wedi siarad â’r Aelodau Seneddol lleol sydd wedi codi’r mater hwn yn Nhŷ’r Cyffredin ac rwyf hefyd wedi siarad ag Aelodau’r Cynulliad. Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol yn awr fod Tesco yn parhau i weithio gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru a chyda Llywodraeth Cymru wrth gwrs, ac yn wir, gyda’r cyngor yma yng Nghaerdydd, i nodi cymaint o gyfleoedd â phosibl i’r bobl sydd wedi bod yn ffyddlon iddynt ers blynyddoedd lawer. Mae hwn yn gyfleuster sydd wedi ennill gwobrau ac mae’r gweithwyr ffyddlon sydd wedi cael eu cyflogi yno yn haeddu pob cyfle i gael gwaith arall os ydynt yn colli eu gwaith ar ôl y cyfnod ymgynghori 45 diwrnod.
Mae’n ymddangos braidd yn rhyfedd, gyda cholledion swyddi ar y raddfa hon, na roddodd Tesco unrhyw rybudd ymlaen llaw i unrhyw sefydliadau perthnasol, fel chi eich hun neu Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru. Hefyd, mae’r mater—wel, fe sonioch amdano eich hun, mewn gwirionedd—ynglŷn â’r wybodaeth a roddir i’r gweithwyr eu hunain, oherwydd cefais innau wybod hefyd na chysylltodd Tesco â’r staff nad oedd ar ddyletswydd ar yr adeg y cyhoeddwyd y colledion swyddi, ond eu bod wedi cael gwybod naill ai drwy gydweithwyr neu, yn anffodus, drwy gyfryngau cymdeithasol, fel y nodwyd gennych. Felly, nid oedd yn arfer da iawn gan Tesco ac mae’n ymddangos eu bod wedi gweithredu mewn modd trahaus braidd gyda’r colledion swyddi hyn. Felly, mae hynny’n anffodus, a beth y gellir ei achub o hyn, nid ydym yn gwybod. Ond rwy’n croesawu eich ymdrechion i geisio lliniaru cymaint ag sy’n bosibl ar y colledion swyddi. Y gobaith yw y gellir adleoli pobl cymaint ag y bo modd, er eich bod yn awr yn dweud na fydd yn agos at gyfanswm y swyddi a gollir.
Mae yna strwythur yng Nghaerdydd yn enwedig mewn perthynas â chanolfannau galwadau. Mae hwn wedi bod yn faes twf yn y blynyddoedd diwethaf, fel y nodwyd gennych. Felly, gobeithio y gellir integreiddio pobl yn y rhwydwaith o ganolfannau galwadau sy’n bodoli’n barod. Wrth gwrs, mae’r amodau’n amrywio ar draws y sector. Rwy’n credu mai Tesco, mewn gwirionedd, oedd un o’r gweithrediadau gwell o ran y gweithwyr. Felly, mae’n fwy anffodus byth yn awr eu bod wedi trin y gweithwyr yn wael braidd yn y mater hwn.
Wrth gwrs, os nad yw pobl yn mynd i aros gyda Tesco, byddant yn meddwl am becynnau diswyddo. Ond mae’n debyg mai ychydig iawn y gallwch ei ddweud am hynny. Cyn belled ag y gwn, mae’r undebau’n trafod ar hyn o bryd. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw beth arall y gallwch ei ychwanegu at yr hyn rydych wedi’i ddweud. Ond diolch am eich cyfraniad.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau a hefyd rwy’n cytuno â’i bryderon ynglŷn â’r ffordd y cafodd y cyhoeddiad hwn ei wneud? Mae’n ymddangos bod newyddion wedi’i ddatgelu’n answyddogol, ac y byddai’r newyddion hwnnw fel arall wedi bod yn rhan o’r cyhoeddiad heddiw gan Tesco ynglŷn ag ymdrech ailstrwythuro fawr mewn ymgais i dorri £1.5 biliwn oddi ar y llinell sylfaen wrth i’r cwmni geisio dod yn fwy cystadleuol a chyrraedd lefelau uwch o elw. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw amheuaeth fod galw mawr o hyd am bobl â sgiliau yn y sector hwn yn y rhanbarth, ac am y rheswm hwnnw, rwy’n hyderus y bydd nifer sylweddol iawn o bobl yn gallu sicrhau gwaith arall, os collir y swyddi hynny ar ôl y cyfnod ymgynghori 45 diwrnod. Rwy’n gwybod bod yr undeb llafur USDAW eisoes yn weithgar iawn yn ymgysylltu â gweithwyr a chyda’r cwmni ac mae USDAW yn gwneud gwaith gwirioneddol ragorol yn ymgynghori ac ymgysylltu â’r Llywodraeth a chydag Aelodau Seneddol hefyd.
Rwyf wedi amcangyfrif, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd hyn yn effeithio ar oddeutu 100 o swyddi yng Nghaerffili. Neithiwr, bûm mewn cyfarfod ymgynghorol a drefnwyd ers amser hir gyda manwerthwyr mawr, a oedd yn cynnwys Morrisons, Asda, Boots a Specsavers, ac roedd Tesco i fod yn bresennol ac nid oeddent yno. Roedd eu habsenoldeb yn amlwg ac roeddent yn absennol heddiw hefyd, cyn belled ag y gallwn ei weld, o gyfarfod Consortiwm Manwerthu Cymru y cyfeiriodd Adam Price ato. Nid yw hyn yn ddigon da, oherwydd mae’n edrych fel pe baent wedi dychryn a’u bod yn ofni siarad ag Aelodau’r Cynulliad. Byddwn wedi ceisio siarad â hwy am hyn. Clywais hyn gan USDAW hefyd. Mae’n dangos pwysigrwydd cael undeb llafur cryf, ac rwy’n cymeradwyo’r gwaith y mae USDAW wedi’i wneud. Ymddengys hefyd fod Julie Morgan AC a Anna McMorrin AS wedi gorfod pwyso’n drwm i gael Tesco i siarad â gweithwyr ac i siarad â swyddogion yn Tesco hefyd. Nid yw’n ddigon da o gwbl. Felly, pan fyddwch yn siarad â rheolwyr Tesco, a wnewch chi sicrhau eich bod yn mynegi’n glir iddynt pa mor bwysig yw siarad â chynrychiolwyr etholedig? Oherwydd clywsom yn uniongyrchol gan eu gweithlu. Mae gennyf straeon gan eu gweithlu sy’n dangos nad yw hyn yn ddigon da. Ac yn wir, byddwn yn ychwanegu bod cynrychiolwyr manwerthwyr eraill y siaradais â hwy wedi dweud bod hon yn enghraifft berffaith o sut i beidio â chyflawni cysylltiadau cyflogaeth; mae’n hollol warthus.
Hoffwn ddiolch i Hefin am y pwyntiau y mae’n eu nodi. Cytunaf yn llwyr ag ef; rwy’n pryderu bod angen gwella ymgysylltiad Tesco â gweision cyhoeddus, ac felly hefyd mae angen gwella’r modd y mae Tesco yn ymgysylltu a chyfathrebu gyda’i weithwyr ei hun—y bobl sy’n cynhyrchu’r elw hwnnw yr oeddent yn ceisio’i gynyddu. Mae Anna McMorrin a Jo Stevens wedi brwydro’n galed iawn dros y bobl sy’n wynebu colli eu swyddi, ac rwy’n gwybod y byddant yn parhau i wneud hynny. Mae’n werth i mi hysbysu’r Aelodau heddiw hefyd fy mod wedi gofyn i waith gael ei wneud mewn perthynas â sgiliau a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn y sector hwn, fel y gallwn sicrhau bod y sector canolfannau cyswllt yng Nghymru ar flaen y gad ym maes technolegau digidol sy’n datblygu, ac yn manteisio ar bob cyfle i uwchsgilio’r gweithlu cyn belled ag y bo modd.
Fel pawb yn y Siambr rwy’n credu, rwy’n teimlo’n fawr iawn dros y gweithwyr sydd ar fin colli eu swyddi. Rwy’n adnabod rhai ohonynt, mewn gwirionedd, sy’n gweithio i fyny yno. Nid yw colli swyddi yn y ffordd hon am fod corfforaethau mawr yn methu llawn werthfawrogi eu gweithlu yn newydd i ni. Yr ateb mewn gwirionedd yw creu swyddi newydd, felly a fyddech yn ystyried sefydlu cronfa entrepreneuraidd er mwyn i bobl a fydd yn colli eu swyddi yn Tesco gael cyfle i sefydlu busnes newydd o bosibl?
Rwy’n credu bod yr Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn ynglŷn â’r angen i sicrhau bod pobl sy’n wynebu colli swyddi yn cael y cymorth cywir i fynd yn ôl i weithio neu’n wir i ddechrau eu cwmni eu hunain. Bydd ReAct 3 yn darparu cymorth ariannol i bobl yr effeithir arnynt, a chymorth ariannol hefyd i ddarpar gyflogwyr y bobl a allai gael eu heffeithio. Ond ceir cynlluniau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru hefyd mewn perthynas â mannau a rennir, canolfannau deori ac yn y blaen, sydd hefyd yn cynnig bwrsariaethau i bobl sydd am fod yn arloesol ac entrepreneuraidd, nid yn unig pan fyddant yn dechrau ar eu gyrfa—pobl ifanc yn aml—ond hefyd pobl sydd wedi colli eu swyddi ond sydd â syniad am fusnes ac angen nifer o bethau: un, cymorth ariannol; dau, cefnogaeth gan gymheiriaid; a thri, cyfleoedd i gychwyn mewn maes penodol. Felly, dyna’n rhannol pam y mae Llywodraeth Cymru drwy ei rhaglen llywodraethu yn awyddus i gyflwyno rhagor o fannau a rennir a chanolfannau deori ar gyfer entrepreneuriaid.
Nid wyf yn meddwl y dylai fod unrhyw amheuaeth fod y sector archfarchnadoedd yn un gwirioneddol ddidrugaredd a didostur, ac mae gennyf ofn, fel unrhyw farchnad ddilyffethair, mae’n arwain yn y pen draw at fonopoli. Mae’n debyg nad wyf am fyw mewn rhyw fath o ddyfodol dystopaidd lle mae’n rhaid i bawb ohonom brynu ein bwyd mewn un archfarchnad. Felly, mae yna bryderon yma ynglŷn â’r ffordd y mae’r diwydiant archfarchnadoedd yn dominyddu’r farchnad fwyd yn y DU a’r hyn y gallwn ei wneud i’w reoleiddio fel eu bod yn ymddwyn ychydig yn well na’r modd y mae Tesco wedi ymddwyn yn yr achos hwn.
Yr hyn y mae Julie Morgan a Hefin David a minnau ei eisiau—ac eraill sydd ag etholwyr yr effeithir arnynt gan hyn—yw cael rhyw fath o strategaeth glir ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu gwthio i swyddi eraill sy’n mynd i gael eu diddymu wedyn yn eu tro. Mae’n ymddangos i mi mai awtomeiddio yw un o’r materion sy’n ei gwneud yn anodd iawn i bobl yn y sector gwasanaeth, lle mae pobl yn mynd i orfod bod yn barod i ailhyfforddi a newid yn unol â thechnolegau newydd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y gallai eich syniadau ynghylch datblygu eich strategaeth economaidd newydd gael eu dylanwadu gan yr hyn a ddigwyddodd yn achos Tesco.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau y mae’n eu codi ac am ei chwestiwn? Ni waeth pa mor gystadleuol yw marchnad, nid wyf yn credu y dylai gweithwyr gael eu trin gydag unrhyw beth heblaw’r parch a’r teyrngarwch mwyaf gan eu cyflogwyr. Wrth gwrs, mae siopwyr yn chwarae rhan bwysig yn dylanwadu ar ymddygiad corfforaethol ac rwy’n siŵr y bydd llawer o siopwyr wedi’u siomi braidd gan y ffordd y cafodd y gweithwyr hyn eu trin gan gwmni y maent wedi bod yn deyrngar iddo o bosibl fel cwsmeriaid.
Rwy’n meddwl bod mater awtomeiddio yn un gwirioneddol arwyddocaol o ystyried ein bod yn gwybod bod datblygiadau mewn technoleg yn cyflymu a bod angen i ni fod mewn sefyllfa i addasu i’r hyn a ddaw’n realiti newydd yn fuan ac i fanteisio hefyd ar dechnolegau newydd. Dyna pam y crybwyllais yn awr fy mod wedi comisiynu gwaith a fydd yn edrych ar astudiaethau a wnaed eisoes, gan Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru yn enwedig, ond sy’n mynd y tu hwnt i hynny i edrych ar sut y gallai technoleg ac awtomeiddio newid y sector a beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod y sgiliau cywir yn cael eu datblygu yn y sector i addasu i’r newid.
Gweinidog, rwy’n meddwl ei bod yn arwyddocaol fod y 1,100 o swyddi a gymerwyd o Gaerdydd wedi arwain at 250 o swyddi’n unig, yn ôl adroddiadau, erbyn iddynt gyrraedd Dundee. Felly, heb os, roedd nifer o ffactorau ar waith, ond yn amlwg mae awtomeiddio’n digwydd yn awr; yn hytrach na bod yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol, mae’n fyw ac mae’n effeithio ar ein cymunedau.
Roeddwn yn falch o’ch gwahodd draw i gyfarfod o amgylch y bwrdd ddydd Llun gydag amrywiaeth o arbenigwyr ym maes awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial a roboteg i ddechrau ystyried maint yr effaith y gallai hyn ei chael ar ein heconomi. Rwy’n falch iawn o glywed eich bod wedi comisiynu gwaith ymchwil ar yr effaith benodol ar fanwerthu a byddwn yn eich annog i wneud yn siŵr fod eich strategaeth economaidd, pan gaiff ei chynhyrchu, yn cynnwys ffocws penodol ar awtomeiddio—nid yn unig y bygythiadau ond y cyfleoedd hefyd. Dyna oedd un o’r negeseuon o’r cyfarfod o amgylch y bwrdd ddydd Llun: ceir manteision gwirioneddol i wasanaethau cyhoeddus, ac i bob un ohonom fel defnyddwyr, o awtomeiddio, ond ni ellir gwadu’r ffaith ei fod yn mynd i newid siâp ein gweithlu a’r ffordd y gweithiwn ac mae angen inni fod yn barod am hynny.
Diolch i Lee Waters am y pwyntiau y mae’n eu codi. Mewn gwirionedd, roedd y drafodaeth a gynhaliwyd ddydd Llun—a gynulliwyd ganddo ef, rwy’n meddwl—yn hynod addysgiadol. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw yr ystyriais ei bod yn hanfodol inni symud ymlaen gyda’r gwaith yn ymwneud â chanolfannau cyswllt yn benodol, ond o ystyried y strategaeth sy’n datblygu, bydd yn berthnasol i bob sector ar draws yr economi.
Mae Lee Waters yn hollol gywir i nodi’r gwahaniaeth ymddangosiadol rhwng y 250 o swyddi a fyddai’n cael eu creu yn Dundee a’r mwy na 1,000 rydym yn wynebu eu colli yma yng Nghaerdydd. Gofynnais yr union gwestiwn hwnnw am awtomeiddio i Tesco. Dywedwyd wrthyf nad yw awtomeiddio yn chwarae rhan yn y penderfyniad hwn, ond nid wyf yn meddwl bod unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd awtomeiddio yn newid y sector ac mae angen inni fod yn barod ar ei gyfer. Mae’r Aelod yn llygad ei le yn dweud nid yn unig y bydd yna heriau, ond y bydd yna gyfleoedd enfawr hefyd. Gwyddom fod pen draw i awtomeiddio, y bydd pobl yn dal i fod angen cysylltiad â phobl, a lle bynnag y ceir awtomeiddio, rhaid iddo gael ei gyflawni mewn ffordd fwy datblygedig nag ar hyn o bryd. Am y rheswm hwnnw, mae angen i ni fynd ati i ddatblygu’r dechnoleg newydd, mae angen i ni fod yn rhaglenwyr, mae angen i ni fod yn bobl sy’n defnyddio’r dechnoleg honno.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.