6. 6. Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:25, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n enghraifft o ddatganiad Harold Wilson, ‘mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth’. [Chwerthin.] Mae’n bleser mawr gennyf agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn â dyfodol rheoli tir yng Nghymru, er fy mod yn teimlo fel rhywun sy’n mynd i fyny i gael y cwpan heb fod wedi chwarae yn y bencampwriaeth. Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu at yr ymchwiliad. Hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd blaenorol y pwyllgor, Mark Reckless, holl aelodau’r pwyllgor, a’r tîm clercio, am eu hymdrechion wrth gyflwyno’r adroddiad hwn.

Ers dros 40 mlynedd, mae’r ffordd y cafodd cynnyrch amaethyddol ei ffermio, ei werthu a’i gefnogi’n ariannol wedi cael ei benderfynu’n bennaf ar lefel Ewropeaidd. Mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y bydd Cymru, yn y dyfodol, yn wynebu’r cyfle—neu’r bygythiad—i lunio polisïau yn nes at adref. Felly, sut beth fydd y sector amaethyddol yng Nghymru ymhen pump, 10 neu 20 mlynedd? Mae’r adroddiad hwn yn nodi map ar gyfer goresgyn y rhwystrau uniongyrchol a gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. 

Mae’r rhan gyntaf o adroddiad y pwyllgor yn ymdrin â’r heriau uniongyrchol sy’n codi o Brexit. Beth fyddai’n gwneud Brexit llwyddiannus ar gyfer y sector amaethyddol a rheolwyr tir yng Nghymru? Nododd y pwyllgor bum elfen allweddol. Yn gyntaf, mynediad at y farchnad sengl: mae’r risgiau o fethu â sicrhau cytundeb masnach gyda’r UE yn ddifrifol. Yn 2015, allforiodd Cymru werth dros £12 biliwn o nwyddau y tu allan i’r DU. Cafodd dros ddwy ran o dair ohono ei werthu i’r UE. Y llynedd, roedd dros 90 y cant o allforion cig Cymru i’r UE—heb gynnwys symud cynnyrch o fewn y Deyrnas Unedig. Mae’r gwerth i economi a swyddi cynhyrchu bwyd yng Nghymru yn rhy fawr i ystyried methu cael mynediad at y farchnad sengl mwyach.

Mae arnom angen sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd gennym fynediad di-dariff ac yn bwysig, heb gwotâu ar allforion i’n cynhyrchwyr amaethyddol. Nid ydym eisiau’r hyn sydd gan rai gwledydd eraill—ychydig bach ar ddim tariff ac yna, uwchlaw nifer fach iawn, byddwch yn dechrau talu tariff sylweddol, a fydd ond yn gwneud niwed i’r sector amaethyddol yng Nghymru. Ni ellir cyflawni hyn heb i Gymru gael llais cyfartal wrth y bwrdd negodi mewn trafodaethau’n ymwneud â mynediad at y farchnad sengl. Rhaid i’r telerau fod wedi’u cytuno gan y DU, nid cael eu harwain gan San Steffan.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad yn ymwneud â chryfhau marchnadoedd presennol a datblygu marchnadoedd newydd ar y sail eich bod eisoes yn cyflawni ymdrechion masnachol sylweddol i ddatblygu marchnadoedd allforio. Rydym yn wynebu heriau newydd a sylweddol. A allwch egluro beth rydych yn mynd i’w wneud yn wahanol i fynd i’r afael â’r heriau hyn?

Yr ail elfen allweddol yw lefel briodol o gyllid. Rhaid i Lywodraeth y DU ymrwymo i gynnal cyllid i amaethyddiaeth ar lefel y polisi amaethyddol cyffredin ar hyn o bryd ar gyfer y cylch presennol. Ni ddylai cyllid ar gyfer amaethyddiaeth fod yn ddarostyngedig i fformiwla Barnett, oherwydd os ydyw, byddai Cymru, sy’n fwy dibynnol ar amaethyddiaeth, ar ei cholled yn sylweddol yn ariannol. Rydym wedi dadlau y dylai Llywodraeth Cymru yn ei thro ddyrannu’r lefel hon o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth, heb unrhyw ostyngiad, tan o leiaf Ebrill 2021, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn mewn egwyddor. Byddwn yn ddiolchgar am fwy o fanylion gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’i hymateb y bydd yn parhau i bwyso am y cytundeb gorau i Gymru o ran cyllid.

Y drydedd elfen fydd fframwaith rheoleiddio sy’n cefnogi’r sector amaethyddol. Bydd gadael yr UE yn golygu bod angen cysylltiadau rhynglywodraethol newydd ar lefel y DU. Yn ganolog i hyn fydd datblygu fframweithiau rheoleiddio cyffredin wedi’u cytuno gan bob un o wledydd cyfansoddol y DU, ac nid wedi’u pennu o’r canol. O fewn fframweithiau o’r fath, mae angen hyblygrwydd inni ddatblygu polisïau sy’n briodol i Gymru. Rhaid i’r fframweithiau rheoleiddio hyn atal cystadleuaeth annheg rhwng cynhyrchwyr mewn gwahanol rannau o’r DU, a rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr y bydd safonau uchel yn cael eu cynnal o ran iechyd a lles anifeiliaid. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â’r trafodaethau diweddaraf ar lefel weinidogol ar y cynigion ar gyfer cyngor Gweinidogion y DU ac a oes cefnogaeth ai peidio i fecanwaith dyfarnu mewn achosion o anghydfod? A phan ddywedaf ‘mecanwaith dyfarnu’, rwy’n golygu rhywbeth sy’n wahanol i gael eu penderfynu gan yr adran amaethyddiaeth yn San Steffan. Mae angen iddo fod yn annibynnol ac yn deg.

Y bedwaredd elfen yw mynediad at lafur a sgiliau. Bydd ein sectorau amaethyddol a chynhyrchu a phrosesu bwyd yn parhau i fod angen mynediad at ystod lawn o sgiliau pan fydd y DU wedi gadael yr UE. Mae risg ddifrifol i fusnesau Cymru os nad yw anghenion llafur Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn trafodaethau ar adael yr UE. Mae’n gyfle hefyd i feddwl am gynllunio’r gweithlu ar gyfer y sectorau hyn. Mae angen i Lywodraeth Cymru asesu lle bydd prinder sgiliau yn y dyfodol, ac ystyried sut y gellir cysoni polisïau sgiliau ac addysg gydag anghenion y sector. Rydym yn argymell datblygu strategaeth sgiliau ar gyfer y sector, argymhelliad a dderbyniwyd mewn egwyddor yn unig gan Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai egluro pam na allai dderbyn yr argymhelliad yn llawn.

Yn olaf, rhaid cael cyfnod pontio. Mae’r newidiadau sy’n deillio o Brexit yn heriol a chymhleth. Ers deugain mlynedd, rydym wedi gweithredu o fewn systemau a strwythurau sy’n deillio o’n haelodaeth o’r UE. Yn ei adroddiad, mae’r pwyllgor wedi pwysleisio pwysigrwydd cyfnod pontio i symud at unrhyw system gymorth newydd.

Mae rhan dau o adroddiad y pwyllgor yn nodi gweledigaeth ar gyfer yr hyn a allai ddod nesaf. Ar ôl i’r PAC fynd, sut y dylem gefnogi’r sector amaethyddol yng Nghymru? Sut olwg fydd ar gymunedau gwledig? Sut y bydd cymunedau’n ffynnu? Mae’r pwyllgor yn credu bod angen i ni fod yn uchelgeisiol ac yn arloesol, ac mae wedi cyflwyno cynigion ar fodel taliadau a chymorth ar gyfer rheoli tir sy’n seiliedig ar ganlyniadau cynaliadwy. Mae ffermwyr yn ganolog i gyflawni’r ymrwymiadau hyn, gan eu bod yn rheoli dros 80 y cant o arwynebedd tir Cymru. Gallant helpu i gyflawni blaenoriaethau megis mynd i’r afael â newid hinsawdd, atal llifogydd a gwella ansawdd ein dŵr.

Beth yw’r canlyniadau y dylai system newydd eu cefnogi? Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Dylai mesurau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd fod yn ganolog i fecanwaith cymorth yn seiliedig ar ganlyniadau yn y dyfodol. Rydym am weld polisïau sy’n ceisio lleihau ôl troed carbon cynhyrchu bwyd a chreu cymhellion i ddal a storio carbon. Rhaid inni gefnogi sector cynhyrchu bwyd cadarn. Mae cyfle i Gymru ddod yn genedl cynhyrchu bwyd sy’n gryfach a mwy hunanddibynnol. Rydym eisiau polisïau Llywodraeth Cymru sy’n gweld gwerth cynhyrchu lleol, yn lleihau ôl troed carbon ac yn diogelu safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chynhyrchwyr a manwerthwyr i gynyddu gwerthiant cynnyrch o Gymru, gan gynnwys drwy gaffael cyhoeddus, ac mae hynny’n cynnwys iechyd a llywodraeth leol yn ogystal â’r Llywodraeth ganolog ei hun.

Mae’n rhaid inni gynnal coedwigoedd a choetiroedd cynaliadwy. Dylai rheolwyr tir gael eu cymell i gynyddu’r lefel o goedwigaeth yng Nghymru, a dylai’r polisi yn y dyfodol ystyried y rhan y gall coedwigaeth fasnachol ei chwarae hefyd. Mae’n rhaid inni warchod a gwella bioamrywiaeth. Dylai cyllid ar gyfer rheolwyr tir gefnogi ymyriadau penodol ar gyfer rhywogaethau dan fygythiad, cynefinoedd a safleoedd a warchodir, yn ogystal â hyrwyddo dull gofodol o reoli tir.

Mae’n rhaid i ni reoli’r dirwedd er budd twristiaeth, hamdden ac yn bwysicaf oll efallai, er mwyn cymunedau lleol. Rhaid i system o gymorth yn seiliedig ar ganlyniadau annog a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad. Yn ychwanegol at y manteision sylweddol i iechyd y cyhoedd, bydd hyn yn arwain at fanteision i dwristiaeth ac economi cefn gwlad. Mae’n rhaid i ni feithrin y Gymraeg a chymunedau gwledig bywiog. Mae cymunedau gwledig yn allweddol i ffyniant diwylliant, iaith a hunaniaeth Cymru. Mae diogelu’r sector amaethyddol yn hanfodol os ydym am i’r cymunedau gwledig hynny ffynnu. Mae llawer o’r ardaloedd gyda’r dwysedd uchaf o siaradwyr Cymraeg i’w gweld yng nghefn gwlad gogledd-orllewin a gorllewin Cymru. Rhaid i unrhyw system gymorth yn y dyfodol hybu amgylchedd diwylliannol ac economaidd unigryw Cymru a thraddodiad ffermio’r ucheldir. Rhaid i Lywodraeth Cymru bwysleisio’r agweddau hyn ar fywyd Cymru yn ei thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyfeiriad polisïau yn y DU yn y dyfodol.

I gloi, mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle i aildrefnu taliadau i gymunedau gwledig er mwyn darparu nwyddau cyhoeddus megis mesurau lliniaru newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth. Bydd cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol ar ffurf wahanol yn y dyfodol. Mae adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn glir y bydd ein tirweddau a’n heconomïau gwledig yn parhau i gael eu rheoli’n bennaf gan ffermwyr, a dylai hyn gael ei gefnogi gan gyllid cyhoeddus. Fodd bynnag, ni allwn fanteisio ar y cyfleoedd hyn heb sicrwydd o’r un lefel o gyllid ag y mae Cymru’n ei chael gan yr UE, rhywbeth a addawyd yn ystod ymgyrch y refferendwm. Rhaid i Lywodraeth Cymru achub ar y cyfle i lunio polisïau a wnaed yng Nghymru sy’n cefnogi’r sector ac yn gwobrwyo ffermwyr am gyflawni canlyniadau cynaliadwy, megis diogelu bioamrywiaeth a lliniaru newid yn yr hinsawdd. Heb gefnogaeth barhaus, ni fydd gennym dirwedd wedi’i rheoli i ddenu twristiaid ac economi wledig ffyniannus i gynnal iaith a diwylliant Cymru. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn oes. Mae ar Gymru angen polisïau rheoli tir uchelgeisiol ac arloesol i sicrhau manteision amgylcheddol ehangach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n gobeithio y gellir cyflawni hynny.