Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 28 Mehefin 2017.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon ac i adlewyrchu ar rai o’r themâu a amlygwyd yn adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae nifer sylweddol o’r argymhellion yn yr adroddiad yn cyfeirio at y berthynas â'r fasnach amaethyddol yn dilyn penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy’n falch o nodi ymateb cadarnhaol yr Ysgrifennydd Cabinet i’r argymhellion hynny. Mae’n hanfodol bod yna fframwaith teg a pharhaol yn cael ei sefydlu i ddiogelu cynaliadwyedd y diwydiant amaethyddol pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Pwysleisiodd nifer o randdeiliaid bwysigrwydd marchnadoedd allforio’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer cynnyrch amaethyddol Cymru, yn ogystal â thynnu sylw at yr angen i wledydd datganoledig gael llais cryf wrth y bwrdd trafod. Mae CLA Cymru, er enghraifft, yn iawn drwy ddweud bod angen i ffermwyr gael polisi masnach sy’n creu marchnadoedd ar gyfer ffermwyr yma yn y Deyrnas Unedig a thramor. Felly, mae’n gwbl hanfodol bod Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig nawr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau cytundeb sy’n galluogi ffermwyr Cymru i barhau i ddibynnu ar y marchnadoedd allforio presennol, bod y rhain yn bodoli yn y dyfodol, ac i ddiogelu ein ffermwyr yn erbyn mewnforion rhatach.
Mae’r dystiolaeth i’r ymchwiliad yma hefyd yn ei gwneud hi’n glir y bydd blaenoriaethau unigol gan bob un o wledydd y Deyrnas Unedig i’w trafod â'r Undeb Ewropeaidd, a taw un o flaenoriaethau Cymru fydd diogelu y sector cig coch. Rydw i’n nodi bod Hybu Cig Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor, ac rwy’n dyfynnu:
Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd y farchnad Ewropeaidd i ni pan mae’r sector cig coch yn y cwestiwn, a chig oen Cymreig yn arbennig. Fel y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn ei wybod, mae un rhan o dair o’r cynhyrchiad cig oen Cymreig, sef tua 1.3 miliwn o ŵyn, mewn gwirionedd yn cael ei fwyta yn Ewrop, heb unrhyw gyfyngiadau a thollau.
Wrth gwrs, rhaid i Lywodraeth Cymru nawr weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod sectorau fel y sector cig coch yng Nghymru yn cael eu blaenoriaethu yn strategol ymhlith unrhyw drafodaethau Brexit, ac rydw i’n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yr adroddiad ar y mater penodol yma.
Mae adroddiad y pwyllgor yn un eang ac nid yw’n sôn yn unig am rôl masnach amaethyddol yn y trafodaethau Brexit. Yn wir, mae rhai themâu diddorol iawn sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd a diwylliant bwyd, ac rydw i’n falch o weld y pwnc arbennig yma yn cael y sylw y mae’n ei haeddu. Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod Cymru heb ei hail mewn cynhyrchu cynnyrch o ansawdd uchel. Mae’r polisi hwn yn un sy'n cwmpasu nifer o adrannau Llywodraeth Cymru—yn wir, popeth o iechyd ac addysg i’r economi—ac felly mae'n hanfodol bod unrhyw strategaeth yn y maes hwn yn cael ei gydlynu’n effeithiol.
Rydw i’n cytuno yn llwyr â barn y pwyllgor bod yna angen am lefel uwch o gefnogaeth oddi wrth y Llywodraeth i ddatblygu diwylliant sy’n creu bwyd o ansawdd uchel, o ffynonellau lleol, ac sy’n creu cynnyrch cynaliadwy. Mae, er enghraifft, llawer mwy y gellid ei wneud ynglŷn â chaffael cyhoeddus, yn enwedig mewn perthynas â chefnogi cynhyrchwyr llai. Yn wir, er fy mod yn derbyn bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwneud peth cynnydd yn y maes hwn, gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i arwain y ffordd o ran cefnogi ffynonellau lleol o fwyd a diod am gontractau, yn ogystal â magu cysylltiadau cryfach gyda chwmnïau bach a chanolig, a ddylai gael eu cefnogi i gael mynediad i gadwyni cyflenwi caffael cyhoeddus. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn cyfeirio at agwedd newydd sy’n cael ei chymryd yn yr ardal hon, a gynlluniwyd i agor cyfleoedd newydd i gynhyrchwyr sydd ddim wedi cael blaenoriaeth yn y gorffennol ac sydd ddim wedi cael y gallu i dendro’n llwyddiannus. Gobeithiaf y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ehangu ychydig mwy am hyn yn ei hymateb i'r ddadl hon.
Mae'r adroddiad pwyllgor hefyd yn iawn i bwysleisio pwysigrwydd y sector llaeth yng Nghymru, a nodaf argymhelliad 17, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i baratoi cynllun ar gyfer y diwydiant llaeth mewn ymgynghoriad â chynhyrchwyr, dosbarthwyr a manwerthwyr. Bydd Aelodau yn gwybod bod yna gostau mewnbwn uchel i ffermwyr llaeth ac rydw i’n credu bod lle yma i Lywodraeth Cymru sicrhau mwy o arian ar gyfer gwelliannau cyfalaf. Pan holais i’r Ysgrifennydd Cabinet am y pwynt penodol hwn ym mis Mawrth, dywedodd hi fod y cynllun grantiau bach newydd yn faes lle y gallai’r Llywodraeth helpu yn benodol, ac rydw i'n gobeithio y bydd hi’n rhoi rhagor o fanylion am siẁt y mae’r Llywodraeth yn gwneud hynny. Rydw i’n gwerthfawrogi bod adolygiad annibynnol o’r sector llaeth yng Nghymru wedi adrodd ym mis Mawrth 2015, ond o ystyried bod problemau ariannu sylweddol i rai ffermwyr o fewn y sector llaeth, efallai bod hwn yn faes sydd yn haeddu sylw pellach.
Felly wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i unwaith eto ddiolch i’r pwyllgor am ei waith ar yr adroddiad yma? Mae’r adroddiad yma wedi ystyried nifer fawr o bynciau, gan gynnwys popeth o newid yn yr hinsawdd ac ymarferion tir cynaliadwy i amaethyddiaeth a bwyd a diod. Gobeithio, yn sgil gwaith y pwyllgor, y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen gyda hyd yn oed mwy o ffocws ar gefnogi’r diwydiant amaethyddol ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn diogelu diwydiant amaethyddol Cymru yn y dyfodol.