Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 28 Mehefin 2017.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud bod Plaid Cymru yn cefnogi argymhellion y pwyllgor yn llawn? Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cytuno ar adroddiad trawsbleidiol sy’n nodi’r materion a’r pryderon yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd mor glir a’r hyn roedd angen i’r Llywodraeth hon fynd i’r afael ag ef, a Llywodraeth San Steffan hefyd. Gan fy mod yn cytuno â’r adroddiad, nid wyf eisiau siarad llawer am yr adroddiad ei hun, ond canolbwyntio yn hytrach ar ddau faes, rwy’n meddwl. Un yw’r maes lle byddai Plaid Cymru wedi mynd ymhellach na’r adroddiad—felly, i nodi sut y byddem yn ymateb i rai o’r heriau sydd i’w gweld yma—ac yn ail, yr hyn sydd wedi digwydd ers i ni gyhoeddi’r adroddiad. Oherwydd mae’n werth cofio: rydym yn cael y ddadl hon heddiw, ond cyhoeddwyd yr adroddiad ddiwedd mis Mawrth. Beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd? Rydym wedi cael sawl wythnos, bron i dri mis, ers hynny—mwy na thri mis, mewn gwirionedd; pedwar mis—pan fyddem wedi gallu gweld mwy o gynnydd ar rai o’r argymhellion hyn. Wel, gadewch i ni edrych ar ychydig o hynny.
Yn gyntaf oll, i ddweud sut y byddem yn ymateb i’r adroddiad hwn. O’n safbwynt ni, rydym yn credu bod aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau yn parhau i fod y dull mwyaf hyfyw a chynaliadwy i gynnal ein sector amaethyddiaeth yma yng Nghymru. Mae gennym y farchnad honno sydd wedi bod mor llwyddiannus i ni hyd yn hyn. Mae ffermwyr yn awyddus i barhau i fasnachu gyda’r farchnad honno. Ydynt, maent eisiau archwilio marchnadoedd newydd a ddaw ar gael, ond maent yn awyddus i barhau i fasnachu yn y farchnad honno, ac rwy’n meddwl mai aelodaeth o’r undeb tollau a’r farchnad sengl yw’r ffordd fwyaf llwyddiannus ymlaen ar hynny.
Mae Plaid Cymru hefyd am edrych ar sut y gallwn atgyfnerthu rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf ynglŷn â thaliadau a chymorth parhaus i’r sector ffermio. Oherwydd yn amlwg, yr hyn a ddigwyddodd rhwng mis Mawrth a heddiw oedd etholiad cyffredinol, na newidiodd ddim yn wleidyddol. Ni roddodd fandad ar gyfer unrhyw fath o Brexit, mae wedi arwain at lanast yn San Steffan, a diffyg cynnydd ar yr heriau a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn. Ond mae wedi arwain at rywbeth a ddaeth yn amlwg dros yr wythnos diwethaf, sef ymrwymiad gan Lywodraeth San Steffan fod y taliadau amaethyddol yn cael eu cynnal bellach dros gyfnod y Senedd hon, sef hyd at 2022. Felly, rydym wedi ennill ychydig o amser, os hoffwch, yn hynny o beth. Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau, pan gaiff gyfle i wneud hynny, y bydd yn cynnal y cymorth ac mai bwriad y Llywodraeth hon yw parhau hynny, oherwydd fel y mae’n dweud wrth ymateb i’r adroddiad,
‘Mae cymorth PAC parhaus y tu hwnt i 2020 yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan Drysorlys Ei Mawrhydi.’
Gwir, ond mae Trysorlys Ei Mawrhydi, neu Lywodraeth Ei Mawrhydi, wedi dweud y bydd cymorth tan 2022, felly gadewch i ni glywed yr un math o gefnogaeth mewn egwyddor gan y Llywodraeth hon yng Nghymru.