Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 28 Mehefin 2017.
Rwy’n sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei hymateb, wedi dweud ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cadw’r farchnad sengl a rhyddid i nwyddau, gwasanaethau, a chyfalaf symud yn rhydd—heb unrhyw gyfeiriad at lafur, gweithwyr na phobl yn ymateb y Llywodraeth. Rwy’n credu y byddai’r Siambr gyfan yn cefnogi mynediad rhydd a dirwystr mor esmwyth ag y bo modd at y farchnad sengl, a dim tariffau yn enwedig. Rwy’n credu mai dyna yw amcan pawb ohonom, a rhywbeth rwy’n credu y gellir ei gyflawni.