Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Na, nid ydym wedi cael sgyrsiau o’r math yna. Os yw’r e-bost hwnnw ganddi a’i bod yn teimlo y gall ei rannu, byddwn yn falch iawn o’i weld. Nid wyf yn siŵr a yw hi’n gwrthwynebu’r carchar, neu a oes ganddi gwestiynau eraill, ond, o'n safbwynt ni, rydym ni’n gwybod y gall y carchar gynhyrchu, fel y dywedais, 500 o swyddi, ac rwy’n siarad fel rhywun sydd â charchar yn fy etholaeth. Ni chafodd unrhyw effaith niweidiol o gwbl ar yr ardal gyfagos, nac ar dref Pen-y-bont ar Ogwr yn wir, nac yn wir ar fuddsoddiad. Rydym ni’n gwybod bod angen carchar—bod angen carchar modern arall yn y de. Does dim dianc rhag hynny, ond, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig gweithio gyda phobl a busnesau lleol er mwyn rhoi sicrwydd iddynt, yn seiliedig ar yr hyn yr wyf i wedi ei weld â'm llygaid fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr.