<p>Carchar Newydd ym Maglan</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:34, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi nodi y bydd yn cynnal digwyddiad deuddydd ym Mhort Talbot er mwyn ennyn barn pobl ar y carchar newydd cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol. Er bod hyn i’w groesawu, mae angen ymgynghoriad cyhoeddus mwy cyflawn ar y cynigion arnom. Pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ymgynghoriad cyhoeddus manylach, a pha ran fydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae wrth geisio barn trigolion ar y carchar newydd?