Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Fel y gwyddoch, mae canran fawr o arwynebedd Cymru yn wledig. Rwy’n dal yn arbennig o bryderus nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd yn ddigon pell o ran cydnabod y natur wledig yn ei chyllid ar gyfer awdurdodau lleol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae darparu gwasanaethau fel gofal cymdeithasol mewn lleoliad gwledig bob amser yn mynd i wynebu costau ychwanegol o'i gymharu ag awdurdod trefol, ac mae'r un peth yn wir am wasanaethau eraill a ddarperir gan gynghorau hefyd. A wnewch chi ymrwymo i ailystyried y fformiwla ariannu llywodraeth leol i weld a ellir neilltuo mwy o bwysoli ar gyfer natur wledig dros y blynyddoedd sydd i ddod?