<p>Dyrannu Cyllid Llywodraeth Leol</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:36, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, os edrychwch chi ar y—os caf i ddefnyddio’r gair—'rancio', ar gyfer awdurdodau lleol, dyraniad Sir Ddinbych yw'r pedwerydd uchaf, Gwynedd yw’r nawfed, Sir Gaerfyrddin yw’r degfed, Ceredigion yw’r pedwerydd ar ddeg, Powys yw’r pymthegfed, a Sir Benfro yw’r ail ar bymtheg. Mewn cymhariaeth, Abertawe yw’r unfed ar bymtheg, Sir y Fflint yw’r pedwerydd ar bymtheg, a Caerdydd yw’r ugeinfed. Mae'n ymddangos i mi bod natur wledig yn cael ei chymryd i ystyriaeth. A’r gwir yw, wrth gwrs, ei fod yn fater i awdurdodau lleol gytuno ymhlith ei gilydd sut y maen nhw’n dymuno i'r fformiwla ariannu gael ei threfnu, yn hytrach nag un awdurdod yn dymuno ei newid heb gymorth eraill.