Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Diolch i chi am hynna. Wel, canfu arolwg masnach gwrth-anghyfreithlon 2016 Cymdeithas y Gweithgynhyrchwyr Tybaco fod 62 y cant o ysmygwyr yng Nghymru wedi prynu cynhyrchion tybaco heb dollau. Mae gwobrau ariannol y fasnach anghyfreithlon hon yn fawr; mae’r cosbau yn fach. Mae hyn yn bygwth un o bob wyth o siopau cornel yng Nghymru a ledled y DU, ac yn fwyaf pryderus, nid yw pobl yn deall risgiau iechyd ychwanegol y math hwn o dybaco. Pa ystyriaeth y mae eich Llywodraeth wedi ei rhoi ar ei phen ei hun neu’n gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi efallai, i fynd i'r afael â hyn?