Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Mae'n fater y pen draw i CThEM orfodi unrhyw achosion o dorri cyfraith ecséis. Nid yw hynny'n rheswm i ostwng trethi, yn amlwg, ar dybaco—nid yw’r Aelod yn awgrymu hynny, er tegwch iddo. Ond mae'n hynod bwysig bod pobl yn gallu darparu gwybodaeth i'r asiantaethau gorfodi ac, wrth gwrs, gwn fod archwiliadau’n cael eu cynnal yn y meysydd awyr, yn enwedig o ardaloedd yr ystyrir eu bod yn ardaloedd o risg pan ddaw i fewnforio tybaco a sigaréts , yn enwedig o awdurdodaethau lle mae'r prisiau yn isel dros ben. Ond, yn amlwg, rydym ni’n ceisio gweithio gyda CThEM i leihau a rhoi terfyn ar smyglo.