Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Prif Weinidog, yn 2015 dechreuodd siopau a manwerthwyr bach weithredu ar yr un sail â busnesau mawr wrth iddi ddod yn anghyfreithlon iddyn nhw arddangos sigaréts a thybaco yn gyhoeddus. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, bod ysmygu yn dal i achosi tua 5,450 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd tua hanner yr holl ysmygwyr rheolaidd yn marw cyn eu hamser o afiechydon sy'n gysylltiedig ag ysmygu, a dyna pam y byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i ostwng lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020. Prif Weinidog, pa gynnydd sy'n cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw yn 2020, a pha heriau ydym ni'n eu hwynebu i’w fodloni, a pha gamau pellach all Llywodraeth Cymru eu cymryd i gyflawni ein nod?