4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:38, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Er mwyn deall profiadau'r rhai sy'n byw yn yr eiddo sydd wedi eu heffeithio, fe ymwelais i ddoe â thenantiaid yn Abertawe, lle cefais rai trafodaethau cadarnhaol a diddorol iawn, a fydd yn ddefnyddiol wrth ddylanwadu ar y ffordd rydym ni’n gweithio wrth inni symud ymlaen. Roeddwn i’n gallu esbonio'r hyn sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y blociau tŵr uchel yn ddiogel. Roeddwn i’n gallu clywed gan denantiaid, o lygad y ffynnon, beth yw eu pryderon o ran diogelwch y deunydd cladin, ac roedden nhw’n glir iawn eu bod yn gwerthfawrogi'r cyngor a ddarparwyd gan y landlordiaid.

Rwyf, yn naturiol, yn awyddus i fynd i’r afael â phryderon dealladwy y tenantiaid cyn gynted ag y bo modd. Mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn gweithredu ar sail y cyngor proffesiynol gorau posibl. Mae ein gwasanaethau tân ac achub rhagorol yn parhau i weithio’n agos iawn ac yn cefnogi landlordiaid ac yn sicrhau y caiff popeth priodol a rhesymol ei wneud i ddiogelu tenantiaid. Mae eu ffordd broffesiynol a phwyllog o reoli risg a diogelwch tân yn hanfodol. Yn wir, rwy’n credu bod yr unig achos o orfod gwagio adeiladau ers hynny yn Lloegr, yn ystad Chalcots, yn ganlyniad archwiliad ar y cyd o’r ystad gan Frigâd Tân Llundain a phenderfyniad bod angen gwagio rhai o’r blociau am gyfnod dros dro.

Rwy'n falch o ddweud bod Abertawe wedi gweithredu cyfres gynhwysfawr o fesurau yn dilyn canlyniadau eu profion. Mae'r cam hwn yn cyfateb yn llwyr i ganllawiau yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol, a ddiweddarwyd ar 22 Mehefin. Mae hyn yn nodi mesurau lliniaru i’w gweithredu, fel y bo'n briodol, yn ddi-oed, lle penderfynir bod deunyddiau inswleiddio o fewn cladin ACM yn annhebygol o fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu presennol. Mae'r mesurau yn amrywio o wirio statws risg tân—ac yn achos Abertawe, cynhaliwyd asesiad yn ddiweddar iawn—a sicrhau bod preswylwyr yn llwyr ddeall gweithdrefnau tân mewn argyfwng, yn enwedig ystyr 'aros yn eu hunfan', i weithredu mesurau ataliol yn effeithiol, sy’n cynnwys gwirio cydymffurfiaeth inswleiddio neu ddeunyddiau eraill sy'n ffurfio wyneb yr adeilad.

Mae'r awdurdod lleol mewn cysylltiad rheolaidd â'r trigolion ac mae ganddo wardeniaid tân ar y safle i roi sicrwydd i denantiaid. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadarnhau iddo gynnal archwiliadau diogelwch tân yn Clyne Court yn Sgeti a Jeffreys Court ym Mhenlan ar 21 Mehefin eleni. Cafwyd bod y trefniadau diogelwch tân yn foddhaol yn unol â gofynion Gorchymyn 2005 Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân), lle bo’n berthnasol. Yn yr un modd, mae ystod lawn o fesurau rheoli risg a lliniaru yn eu lle yng Nghasnewydd—unwaith eto, yn unol â chanllawiau yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol. Yn fwy cyffredinol, rydym ni’n parhau i fod mewn cysylltiad agos, unwaith eto, â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos ac yn gweithio gydag Abertawe a Chasnewydd, a’r holl awdurdodau lleol eraill yr effeithiwyd arnynt, wrth i grŵp arbenigwyr y DU ryddhau arweiniad a chyngor pellach. Rwyf hefyd wedi sefydlu grŵp cynghori diogelwch tân yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Des Tidbury, fy Mhrif Ymgynghorydd Tân ac Achub ac Arolygydd Cymru. Bydd y grŵp yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos hon. Er mwyn sicrhau cysondeb a chyfathrebu effeithiol, mae angen perthynas gref ac effeithiol rhwng y ddau grŵp, felly rwyf wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol fod Des Tidbury yn eistedd fel aelod o grŵp arbenigwyr y DU hefyd. Rwy’n disgwyl clywed ei ymateb yn fuan.

Fel yr esboniais, mae ein prif ffocws wedi bod, a bydd yn parhau i fod am y tro, ar flociau tŵr uchel yn y sector tai cymdeithasol. Rydym ni, fodd bynnag, bellach yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i nodi pob bloc aml-lawr preswyl yn y sector preifat. Rydym yn gweithio i sicrhau y gallwn adnabod rhydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli y blociau hyn a rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddyn nhw, yn unol â'r hyn yr ydym wedi ei ddarparu i'r sector tai cymdeithasol. Rwy’n disgwyl, pan fydd perchennog yn nodi bod cladin ACM ar adeilad aml-lawr preswyl, neu yn wir y tybir felly, y byddant yn anfon samplau i'w profi ac yn cymryd yr un camau gofal ychwanegol ag y mae landlordiaid tai cymdeithasol wedi eu cymryd.

Mae’r holl weithgarwch hwn, sy’n anelu at sicrhau y gallwn ni wella mesurau diogelwch a rhoi sicrwydd, ond yn digwydd gyda chefnogaeth a chydweithrediad lawn ein partneriaid ym mhob man. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrech barhaus. Fel y dywedais i ar y dechrau, mae hwn yn fater sy'n datblygu’n gyflym, a byddaf yn sicrhau y caiff Aelodau eu hysbysu a’u diweddaru’n llawn. Diolch.