Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Fel y dywedwch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cael eglurder o ran yr union beth sy'n cael ei brofi. Os mai dim ond oddeutu’r 4mm o’r cladin allanol sy’n cael ei anfon i'w brofi, yna nid yw hynny’n amlwg yn cynnwys system wal allanol yr adeilad ehangach. Felly, rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch chi o ran efallai symud ymlaen i gynnal profion ehangach a mwy cynhwysfawr a sylweddol. Felly, tybed allwch chi egluro beth yw'r broses o wneud hynny. Mae gennych chi eich panel allanol, ond, ar hyn o bryd, yn amlwg, Llywodraeth y DU a'r BRE sy'n cynnal y profion. Felly, a fyddech chi o bosib yn awgrymu hynny, ar sail cynghor eich panel allanol, a mater i Lywodraeth y DU fyddai hi wedyn i ddod i benderfyniad?
Ac a fydd hi’n bosibl ystyried y technegau adeiladu a’r mesurau diogelwch unigryw sydd ym mhob adeilad, oherwydd rwy’n gwybod fod rhai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn teimlo bod hynny yn gwbl hanfodol? Felly, er enghraifft, lle mae systemau ar waith sy'n cynnwys rhwystrau tân, fel y byddai deunyddiau ar bob llawr yn y siafft awyru rhwng yr inswleiddio a'r cladin allanol, petai’r rhwystrau tân hynny yn eu lle a fyddai’n ehangu yn achos tân i selio, fel petai, yr effaith simnai fel y’i gelwir, yna gallai hynny yn wir fod yn rhywbeth i’w ystyried o ran diogelwch cyffredinol y systemau waliau allanol hynny. Felly, rwy’n teimlo bod diffyg eglurder ym meddyliau llawr o bobl, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran yr union beth sy'n cael ei brofi, ynghylch ai dyna’r prawf gorau sy’n gallu mewn gwirionedd roi darlun o'r mesurau diogelwch sydd ar waith, a rhoi sicrwydd angenrheidiol i breswylwyr.
Y cwestiwn arall yr hoffwn i ei ofyn yw hyn: a fyddwch chi’n parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, ac eraill, i wneud yn siŵr y caiff tenantiaid eu cynnwys fel bo’n briodol, ac y byddwch yn cyfathrebu’n iawn â nhw i sicrhau diogelwch, ond hefyd i roi sicrwydd angenrheidiol? Achos rwy’n credu, beth bynnag yw ein barn am ddigwyddiadau diweddar, bydd hi wastad yn wir y bydd angen cynnwys trigolion a chyfathrebu â thrigolion os ydym mewn gwirionedd yn mynd i gael y systemau diogelwch gorau ac, yn wir, sicrwydd priodol.
Ac yn olaf, rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i annog y cyfryngau i ymdrin yn gyfrifol â'r materion hyn, gan fy mod yn gwybod, unwaith eto, fod pryder ymhlith landlordiaid cofrestredig cymdeithasol yng Nghymru ac, yn wir, ymhlith tenantiaid nad yw adroddiadau rhai o’r cyfryngau yn gwneud unrhyw les i’n helpu i sicrhau’r diogelwch a’r sicrwydd angenrheidiol hwnnw.