Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Diolch i chi am eich cwestiynau, David Melding. Llywydd, os caf i—mae nifer o gwestiynau yma. Yn gyntaf oll, ynghylch mannau ceudod, mae’r Aelod yn codi materion sy'n ymwneud â hynny. Byddwn yn amharod i gynnig barn ar hynny cyn yr ymchwiliad cyhoeddus ynglŷn â hynny. Rwy’n credu bod sawl agwedd ar Dŵr Grenfell yr ymddengys iddynt fod yn ffactorau arwyddocaol a gyfranodd at fethiant y system dân, boed hynny'n fethiannau yn rhaniadau’r adeilad neu ar y tu allan , ond ni fyddwn yn hoffi rhagdybio hynny. Wrth gwrs, os oedd manau ceudod yn rhan o'r broses honno, yna mae angen inni edrych ar hynny’n ofalus iawn yn y cyngor a gawn ni.
O ran y cladin a'r cyngor o ran adleoli, a rhoi cyngor i gael gwared ar gladin, rwy'n cymryd y cyngor gan y grŵp cynghori annibynnol o'r DU—yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae'r rhain yn bobl broffesiynol, ac nid wyf yn credu bod hwn yn benderfyniad gwleidyddol. Dylai hyn fod yn seiliedig ar dystiolaeth a'u cyngor. Os ydyn nhw’n awgrymu mai cael gwared ar y cladin yw'r dewis gorau, yna byddwn yn mynd ati i gael gwared ar y cladin a byddwn yn siarad am y goblygiadau ariannol ar ôl hynny. Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud hefyd y gall dim ond cael gwared ar gladin alwminiwm adeilad beri risg pellach drwy ddatgelu'r broses inswleiddio. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn bwyllog yn y prosesau yr ydym ni am eu gweithredu os ydym am wneud hynny. Hefyd, mae a wnelo â’r ffaith fod y profion wedi eu cynnal ar ran o gyfansoddyn yr uned. Felly, dim ond sampl i weld a oedd y sylwedd yn y sampl yn fflamadwy neu hylosg, er fy mod yn meddwl bod a wnelo’r camau nesaf y dylem ni o bosib fod yn edrych arnyn nhw â’r system yn ei chyfanrwydd o ran a allwn ni brofi system gyfan er mwyn gweld a yw'r panel yn ddiogel ac yn cydymffurfio â safonau Prydeinig ac â'r rheoliadau, fel y tybiwyd pan gafodd ei osod. Rwy'n credu mai dyna’r camau nesaf y gallwn ni fod yn symud tuag atyn nhw—gan roi hyder i'r bobl sy'n byw yn yr adeiladau hynny bod y gwasanaethau tân wedi gwirio ac yn parhau i weithio gyda thenantiaid yr ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw i roi sicrwydd iddyn nhw ynghylch goblygiadau diogelwch y systemau tân sydd ar waith.
O ran Tŵr Grenfell, unwaith eto, fe gododd yr Aelod faterion ynghylch rheoliadau adeiladu. Hoffwn i hefyd nodi bod angen pwyll o ran, unwaith eto, deall gwir effeithiau profion. Ar hyn o bryd, rydym ni’n ymwybodol bod cladin wedi ei osod ar ein hadeiladau a bod hwnnw’n cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu. Felly os yw'r rheoliadau adeiladu yn anghywir, yna mae'n rhaid i ni gael adolygiad o hynny. Mae gen i gyfarfod eto gyda Lesley Griffiths i gael y manylion, ond rwyf hefyd yn gwrando ar y panel cynghori i gael eu barn nhw am hyn.
Ynglŷn ag adeiladau eraill—adeiladau addysg iechyd a chyhoeddus eraill, rhai hamdden a stadiymau— rydym wedi dechrau ar y gwaith o ofyn am adborth gan bob un o'r asiantaethau perthnasol. Rwyf wedi ysgrifennu at fy holl gydweithwyr yn y Cabinet. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i holi ynglŷn ag adeiladau ysgol ac adeiladau eraill y Brifysgol. Fy mhrif bryder o ran asesiad sail risg, yn gyntaf oll, yw’r blociau fflatiau aml-lawr, ac yna rwy’n credu bod angen canolbwyntio ar y lle mae pobl yn treulio’r nosweithiau, yn coginio, ac felly mae angen rhoi blaenoriaeth uchel i lety myfyrwyr i wneud yn siŵr ein bod yn gwbl sicr ynghylch y mecanweithiau diogelwch ar gyfer y rheini.
Yr elfen arall o ddiddordeb yw o ran y sector preifat, sydd ychydig yn fwy anodd eu nodi. Ac rwy’n gweithio gydag adran Ken Skates yn edrych ar y cysylltiadau sydd gennym ni gyda landlordiaid y sector preifat a chwmnïau mwy o faint, ond hefyd ar gyfer tîm Rhentu Doeth Cymru, gyda chofrestru landlordiaid, i ddefnyddio'r data mewn cysylltiad â hynny i gysylltu â phobl ynglŷn â rheoli eiddo eto. Mae gennym ni rymoedd ymyrryd, ond mae gan awdurdodau eraill lawer o rymoedd o ran diffyg cydymffurfio. Felly, pe na bai landlord preifat yn cydymffurfio â phrofion sampl ac ati, yna gallai’r awdurdod lleol, neu'r gwasanaeth tân, yn wir, ofyn am hynny a’i gwneud yn ofynnol gyda hysbysiadau gwahardd. Felly, mae gennym ni bethau yn eu lle yn amodol ar yr angen i wneud hynny.