Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Hoffwn i godi mater gwestai, yn arbennig, gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i mi a ydych chi wedi, neu a ydych chi’n barod i ystyried newid rheoliadau i wahardd ysmygu mewn ystafelloedd gwesty dynodedig. Mae etholwr wedi codi'r mater hwn gyda mi dros gyfnod helaeth o amser. Yn un peth, mae 'na broblem diogelwch, ond, yn ail, y tu hwnt i’r datganiad hwn heddiw, wrth gwrs, mae’r mater o aros yn yr ystafell honno ar ôl rhywun sydd wedi bod yn ysmygu yno. Rwy’n gwerthfawrogi bod hynny y tu hwnt i ddatganiad heddiw. Mae etholwyr eraill hefyd wedi tynnu sylw at nifer o enghreifftiau o dorri rheoliadau tân yn ystod y chwe mis diwethaf, felly ymddengys yn amser priodol i godi hyn gyda chi heddiw. Felly, y ddau fater yw: un, gwahardd ysmygu mewn ystafelloedd gwesty dynodedig; a’ch barn am drefn arolygu well, yn enwedig mewn gwestai.