Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Mae'r Aelod yn codi dau bwynt diddorol. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth i’w ystyried yn y dyfodol o ran, yn y lle cyntaf, ysmygu mewn ystafelloedd gwesty yn gyffredinol. Y mater arall am reoleiddio gwestai yw hyn: credaf mai’r hyn sy'n bwysig yma yw nad ydym yn cael ein gwthio i mewn i ymdeimlad ffug o ansicrwydd a gwneud rhywbeth am y rheswm anghywir. Mae'n rhaid iddo fod yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd. A allaf roi sicrwydd i chi? Siaradais â'r prif swyddog tân ddoe a dywedodd wrthyf mai’r peth olaf mae arnom ni eisiau ei wneud yma yw dweud wrth bobl nad yw hi’n ddiogel byw mewn blociau tŵr, oherwydd nid yw hynny’n wir. Cyn belled â bod yr holl weithdrefnau yn eu lle, gyda rhwystrau tân ac arolygiadau diogelwch tân—nad ydyn nhw’n cael eu torri; eu bod nhw i gyd yn gyfan—mae blociau tŵr yn fannau diogel i fyw ynddynt. Mae’n dweud bod Grenfell wedi amlygu rhai materion dilys y mae angen mynd i'r afael â nhw mewn cysylltiad â chyfundrefnau arolygu ac ati.
Mae gosodiadau yn fater arall a grybwyllwyd i mi heddiw gan Dawn Bowden, mewn gwirionedd—ynglŷn â sut y gall gosodiadau rhai darparwyr gwasanaeth effeithio ar allu rhai o’r unedau panel hyn i atal tân rhag lledaenu drwy ddrilio ac ati, a gosod erialau neu ddysglau. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n mynd i’w ddwyn i sylw tîm rheoleiddio Lesley Griffiths, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hynny’n broblem. Ac os yw’n broblem, mae angen rheoleiddio ynghylch hynny. Felly, mae hyn wedi codi materion eto, ond yr egwyddor gyffredinol yw hyn: yn gyffredinol, mae blociau tŵr yn ddiogel, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cladin sydd wedi ei osod ar yr adeiladau hyn—naill ai ei fod yn addas at y diben, neu nad ydyw, ac rydym ni’n dysgu am hynny bob dydd.