5. 4. Datganiad: Polisi a Deddfwriaeth yr Amgylchedd Hanesyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:21, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Cymru hefyd bellach yn ymfalchïo yn yr unig restr statudol o enwau lleoedd hanesyddol yn y DU, ac efallai hyd yn oed y byd. Roedd y rhestr yn cynnwys bron 350,000 o gofnodion pan gafodd ei lansio ddechrau mis Mai. Bydd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd yr elfennau hyn o’n treftadaeth genedlaethol ac yn annog eu defnydd parhaus gan unigolion a chyrff cyhoeddus. Mae cyfarwyddiadau penodol ar y defnydd o’r rhestr wrth enwi ac ailenwi strydoedd ac eiddo wedi cael eu cynnwys mewn canllawiau statudol. Rydym hefyd yn arwain y ffordd drwy wneud y prosesau ar gyfer cofrestru cofeb neu restru adeilad yn fwy agored, yn fwy tryloyw ac atebol. Rhaid ymgynghori â pherchnogion a deiliaid yn ffurfiol yn awr cyn gwneud dynodiad, ac, yn bwysig iawn, mae safleoedd hanesyddol dan warchodaeth yn ystod y cyfnod hwn o ymgynghori. Mae perchnogion hefyd wedi cael yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw, a fyddai’n cael ei wneud gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae Deddf 2016 hefyd wedi darparu amrywiaeth o offer newydd neu wedi’i fireinio i roi mwy o warchodaeth i’n hasedau hanesyddol gwerthfawr. Er enghraifft, rydym wedi ei gwneud yn haws i awdurdodau cynllunio lleol wneud gwaith brys ar adeiladau rhestredig sydd wedi dirywio ac, yn hollbwysig, rydym wedi gostwng y risg ariannol trwy wneud unrhyw gostau yn bridiant tir lleol. Rydym wedi cau bylchau mewn deddfwriaeth bresennol a oedd yn llesteirio ymdrechion i erlyn unigolion oedd yn niweidio henebion cofrestredig yn ddifrifol trwy waith heb awdurdod neu ddinistrio maleisus.

Wrth gwrs, mae’n llawer gwell atal difrod yn y lle cyntaf. Felly rydym wedi datblygu adnodd newydd ar y we ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth, Cof Cymru—Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru, i roi gwybodaeth awdurdodol am ddim i berchnogion, deiliaid ac aelodau’r cyhoedd am ddisgrifiad, lleoliad a maint asedau hanesyddol dynodedig a chofrestredig ledled Cymru.

O gychwyn y broses ddeddfwriaethol, roeddem yn cydnabod y byddai angen i Ddeddf 2016 gael ei hategu gan bolisi a chyngor cynllunio cyfredol ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol. Roedd hyn yn adlewyrchu nid yn unig ddarpariaethau’r Ddeddf ond hefyd athroniaeth ac ymarfer cadwraeth presennol. Rwyf wedi gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gynhyrchu pennod amgylchedd hanesyddol ddiwygiedig ar gyfer Polisi Cynllunio Cymru, a’r nodyn cyngor technegol cyntaf, neu TAN, ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae TAN 24 yn ymdrin â phob agwedd ar y gwaith o reoli’r amgylchedd hanesyddol o fewn y system gynllunio ac mae wedi disodli nifer o gylchlythyrau’r Swyddfa Gymreig sydd wedi dyddio. Mae’r mesurau hyn yn cael eu hategu gan ganllawiau arfer gorau a fydd yn helpu awdurdodau lleol, y trydydd sector, datblygwyr a pherchnogion a deiliaid i reoli’r amgylchedd hanesyddol yn ofalus ac yn gynaliadwy er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Ymddangosodd y naw teitl cyntaf ym mis Mai ac maent ar gael ar wefan Cadw. Maent yn cynnwys rheoli safleoedd treftadaeth y byd a pharciau a gerddi hanesyddol, a hefyd maent yn rhoi cyngor ar baratoi rhestrau o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig, ac, wrth gwrs, ar fynd i’r afael ag adeiladau rhestredig mewn perygl.

Er y gallwn fod yn falch o’n llwyddiannau yn y flwyddyn ers i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ddod i rym, mae gwaith i’w wneud o hyd. Yn ystod hynt y ddeddfwriaeth, mynegwyd pryder ar draws y Siambr am adeiladau rhestredig a adawyd i ddadfeilio. Arweiniodd hyn at welliant a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gymryd camau ychwanegol i sicrhau bod adeiladau o’r fath yn cael eu diogelu’n briodol. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw reoliadau yr ydym yn eu cyflwyno fod yn wirioneddol ddefnyddiol i awdurdodau lleol a chyfrannu’n gadarnhaol at ddatrys yr heriau cymhleth a gyflwynir gan adeiladau rhestredig yn dadfeilio. Felly, rydym wedi comisiynu ymchwil a fydd yn darparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer ein cynigion ar gyfer rheoliadau. Mae hwn yn gyfle i ddod o hyd i’r ffordd ymlaen ar gyfer nifer o adeiladau sy’n difetha ein cymunedau. Ond bydd angen mewnbwn rhanddeiliaid ar draws y sector amgylchedd hanesyddol i lunio deddfwriaeth effeithiol.

Mae darpariaethau’r Ddeddf ar gyfer cytundebau partneriaeth treftadaeth hefyd yn aros i’w cychwyn. Bydd y cytundebau, sydd wedi cael eu croesawu â brwdfrydedd yn y sector, yn cefnogi rheolaeth tymor hir cyson ar henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig. Byddant o fudd i berchnogion ac awdurdodau cydsynio drwy ymgorffori’r caniatâd angenrheidiol ar gyfer gwaith arferol y cytunwyd arno. Gan y bydd y cytundebau hyn yn para am nifer o flynyddoedd, mae’n bwysig bod y rheoliadau a’r canllawiau wedi cael eu sefydlu yn dda ac yn ymarferol. Felly, rydym yn chwilio am bartneriaid ar gyfer cynlluniau peilot i lywio cynnydd pellach.

Mae gwaith ar y gweill i ddod â’r gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol i rym. Gwnaed adolygiad o ffiniau’r bron i 400 o barciau a gerddi ar y gofrestr anstatudol bresennol. Bydd holl berchnogion a deiliaid parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig hysbys yn cael gwybod am ffiniau ardaloedd a gofrestrwyd yn ystod gweddill 2017, ac yn gynnar yn 2018. Unwaith y mae’r broses hysbysu wedi ei chwblhau, bydd y gofrestr statudol yn dod i rym.

Yn olaf, rydym yn dod i ddarpariaethau’r Ddeddf ar gyfer y panel ymgynghorol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn cofio, ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, fe wnes i gynnull grŵp llywio Cymru Hanesyddol i gynnal adolygiad o wasanaethau treftadaeth yng Nghymru. Yn dilyn eu hargymhellion, gofynnais am achos busnes yn archwilio’r dewisiadau ar gyfer trefniadau llywodraethu yn y dyfodol ar gyfer Cadw, gan gynnwys goblygiadau deddfwriaethol posibl. Hyd nes y byddaf wedi cael yr achos busnes ac wedi cymryd penderfyniad ar ddyfodol Cadw, byddai’n rhy fuan ystyried y trefniadau manwl ar gyfer y panel cynghori.

Yn ystod y craffu ar yr hyn a oedd yn Fil amgylchedd hanesyddol ar y pryd, mynegodd llawer yma eu dymuniad i atgyfnerthu’r ddeddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol er mwyn sicrhau un corff dwyieithog o gyfreithiau i Gymru a fyddai ar gael ac yn ddealladwy i ymarferwyr a’r cyhoedd fel ei gilydd. Felly, rwyf wrth fy modd, mewn tystiolaeth ddiweddar i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, bod y Cwnsler Cyffredinol wedi nodi’r ddeddfwriaeth amgylchedd hanesyddol fel peilot addas ar gyfer rhaglen uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i atgyfnerthu a chodeiddio’r gyfraith i Gymru. Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gennym eisoes, mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud Cymru yn destun eiddigedd gwledydd y DU.

Bydd y gweithgaredd a amlinellais yma heddiw yn darparu sylfaen gydlynol ar gyfer gwell diogelwch a rheolaeth yr amgylchedd hanesyddol ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Mae’n cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae’r amgylchedd hanesyddol yn ei wneud i’r economi, ffyniant ein cenedl a lles ei dinasyddion, a’i bwysigrwydd wrth feithrin ansawdd lle a balchder a chydnerthedd cymunedau.