Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fel yr eglura datganiad heddiw, mae’r rhan fwyaf o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 bellach mewn grym, ac, yn dilyn cychwyn y ddarpariaeth berthnasol ar ddiwedd mis Mai, mae gan Gymru gofnodion amgylchedd hanesyddol statudol i bob ardal awdurdod leol. Wrth gwrs, dylai’r cofnodion hyn helpu i gyflwyno mwy o dryloywder ac atebolrwydd mewn penderfyniadau a wneir ar yr amgylchedd hanesyddol, a byddant yn arfau pwysig ar gyfer awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu rheolaeth gynaliadwy ar yr amgylchedd hanesyddol.
Yn awr, mae creu’r rhestri hyn wedi arwain at gynyddu baich gwaith yr awdurdodau lleol yn y maes hwn, ac mae cost i dalu am hyn yn naturiol. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a fu unrhyw wthio yn ôl gan awdurdodau lleol ynghylch paratoi rhestrau o asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig, yn enwedig y gost o wneud hyn? Efallai y gallai ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau a fu rhyngddo â Chymdeithas y Gyfraith, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, am yr adolygiad o ffurflenni chwilio awdurdodau lleol, a ddefnyddir yn gyffredin mewn trawsgludo, er mwyn sicrhau bod ceisiadau am chwiliadau o’r cofrestri amrywiol yn weithdrefn safonol ac nad ydynt yn gost ychwanegol?
Yn awr, mae cynghorau wedi gwneud darpariaethau yn eu cyllidebau i ddefnyddio rhai o’u pwerau newydd i wneud gwaith ar adeilad pan nad yw’r perchennog wedi gwneud hynny, dan amgylchiadau brys ac amgylchiadau nad ydynt yn rhai brys. Er fy mod yn sylweddoli y gall fod braidd yn gynnar i ofyn am asesiad o’r pwerau hynny, o ystyried mai dim ond ym mis Mai y daeth i rym, byddwn yn ddiolchgar, fodd bynnag, pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro’r defnydd o’r pwerau hyn. Os na fydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio, yna mae angen inni fod yn glir a yw hynny oherwydd y sefyllfa ariannol y gallai rhai awdurdodau lleol eu cael eu hunain ynddi. Nodaf fod datganiad heddiw yn tynnu sylw at y ffaith y gall awdurdodau cynllunio wneud gwaith brys drwy wneud unrhyw gostau yn bridiant tir lleol. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen wrth fynd i’r afael ag adeiladau rhestredig sy’n dirywio, ac efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet sôn ychydig mwy wrthym am y pridiannau tir hyn a sut y gellir eu defnyddio i helpu i adennill costau sy’n gysylltiedig â gwaith brys. Yn wir, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu asesiad cychwynnol o’r pridiannau tir lleol, ac a ydynt wedi bod yn effeithiol wrth fynd i’r afael â gwaith brys ar unrhyw adeiladau rhestredig a esgeuluswyd hyd yn hyn?
Wrth gwrs, mae’n hanfodol bod Deddf yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei chefnogi gan y cyngor polisi cynllunio mwyaf perthnasol a diweddar, ac rwy’n falch o weld y gwaith sydd wedi ei wneud gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wrth ddatblygu pennod amgylchedd hanesyddol ddiwygiedig ar gyfer ‘Polisi Cynllunio Cymru’. Mae’r nodyn cyngor technegol cyntaf ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, TAN 24, yn rhoi arweiniad ar sut y mae’r system gynllunio yn ystyried yr amgylchedd hanesyddol yn ystod paratoi’r cynllun datblygu a gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ac adeiladau rhestredig. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y nodyn cyngor technegol yn cael ei adolygu’n gyson er mwyn sicrhau ei effeithiolrwydd. Felly, gan hynny, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa mor aml y bydd y canllawiau cynllunio yn cael eu diweddaru, a pha effaith fydd hyn yn ei chael ar awdurdodau cynllunio, yn enwedig mewn cysylltiad â cheisiadau cynllunio dadleuol?
Yn awr, rwy’n deall y bydd Llywodraeth Cymru yn llunio cofrestr statudol ar gyfer parciau a gerddi hanesyddol, a fydd yn sicr o helpu perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol, a rhanddeiliaid eraill, i ofalu am y safleoedd mewn ffordd llawer mwy gwybodus. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ychydig mwy am yr adolygiad o ffiniau’r parciau a’r gerddi hynny yng Nghymru, a rhoi rhai amserlenni o ran pryd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweld y gofrestr statudol hon yn dod i rym.
Mae datganiad heddiw yn cyfeirio hefyd at drefniadau llywodraethu gwasanaethau treftadaeth, ac rwy’n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dal i ystyried gweithredu yn y maes penodol hwn. Deallaf fod cryn dipyn o waith yn dal i fod yn digwydd ar hyn. Ond efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad o’r amserlenni y mae’n eu hystyried wrth fynd i’r afael â threfniadau llywodraethu, fel y gall Aelodau ddeall yn well pan fydd y panel ymgynghorol statudol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru yn cael ei sefydlu’n llawn.
Llywydd, a gaf i unwaith eto ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma, yn diweddaru’r Aelodau o ran y llwybr a ddilynir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn? Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa rannau o Ddeddf yr amgylchedd hanesyddol sydd eto i ddod i rym, a dweud wrthym pa fath o amserlen sydd ynghlwm â sicrhau bod pob agwedd ar y Ddeddf yn cael ei gweithredu’n llawn? Ac, yn olaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o’m diddordeb i mewn cofebion rhyfel, ac felly efallai y gallaf gael rhywfaint o wybodaeth ganddo am sut y mae’r Ddeddf hon, a pholisi cyffredinol Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, yn gwarchod cofebion rhyfel yn well ar draws Cymru. Mae mor bwysig bod canllawiau’n cael eu datblygu i helpu awdurdodau lleol a’r holl randdeiliaid i reoli amgylchedd hanesyddol Cymru yn ofalus ac yn gynaliadwy er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Edrychaf ymlaen at graffu ar Lywodraeth Cymru yn y maes hwn i ddiogelu a chefnogi ein safleoedd hanesyddol yn well ar gyfer y dyfodol. Diolch.