Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
A gaf i ddiolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad a’i gwestiynau? Rwy’n credu ei fod yn hollol gywir i godi’r mater o adeiladau sydd mewn perygl, ond nid o reidrwydd ag angen gwaith brys. Rwyf eisoes wedi amlinellu pam yr wyf yn credu nad oes unrhyw ateb syml ar gyfer ymdrin ag adeiladau sydd mewn perygl, boed hynny yn y tymor hir, y tymor canolig neu ar unwaith. Ond mae gan awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer yr adeiladau hynny nad oes angen gwaith brys arnynt nifer o bwerau eisoes i helpu i fynd i’r afael ag adeiladau a esgeuluswyd, a hoffwn eu gweld yn defnyddio’r pwerau hyn yn fwy aml. Er enghraifft, gall adran 215 hysbysiadau o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ei gwneud yn ofynnol i berchennog ymgymryd ag amrywiaeth o waith i fynd i’r afael â chyflwr tir neu adeilad sy’n effeithio’n andwyol ar amwynder. Nid oes unrhyw reswm, yn fy marn i, pam na ellir defnyddio’r rhain yn fwy eang ar adeiladau rhestredig.
Ond mae’n bwysig cydnabod bod y mwyafrif helaeth, rwy’n credu—ac rwy’n siŵr y byddai’r Aelod yn cytuno â mi—o berchnogion adeiladau rhestredig yn cynnal ac yn rheoli newid i’w hadeiladau gyda gofal mawr, gyda balchder ac mewn modd sensitif iawn. Rwy’n credu mai’r hyn sy’n hanfodol yw ein bod yn meithrin, yn cefnogi ac yn annog pob un o berchnogion adeiladau rhestredig, sy’n aml yn rhai o’n cynghreiriaid mwyaf o ran gofalu am ein hadeiladau hanesyddol a drysorir, i fod yn meddu ar yr wybodaeth, y deallusrwydd a’r gefnogaeth sydd eu hangen i fod yn gyfrifol am yr adeiladau y maent yn geidwaid arnynt. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi cynhyrchu naw dogfen sy’n ymwneud ag arfer gorau. Mae’r canllawiau yn cynnwys, ‘Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru’. Mae teitlau pellach ar y gweill, ond rwy’n credu drwy becyn o fesurau o fewn y Ddeddf, byddwn yn annog mwy o gyfrifoldeb yn y gymdeithas sifil ar gyfer cynnal a chadw asedau hanesyddol.
Gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb brwd iawn, ac rwy’n edmygu ei ddiddordeb, mewn rhestrau o enwau lleoedd hanesyddol. Gwn fod hwn wedi bod yn fater dadleuol. Mae wedi bod yn fater y mae llawer o’r Aelodau wedi siarad yn angerddol amdano droeon yn y Siambr, ac rwy’n parchu pob barn ar y mater pwysig iawn hwn. Mae’r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru eisoes wedi ymrwymo i lunio a chynnal y rhestr, ac mae’r gwaith hwnnw yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Rhaid i mi dalu teyrnged i’r comisiwn brenhinol am yr ymroddiad y mae wedi ei ddangos i’r ymdrech hon. Yn wir, mae aelod llawn amser o staff newydd ddechrau yn ei swydd yr wythnos hon, yn y comisiwn brenhinol, rwy’n credu, i guradu’r rhestr, er mwyn cynorthwyo gydag ymholiadau ac i hyrwyddo’r rhestr a phwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol. Mae’r rhestr yn sylweddol eisoes, yn cynnwys mwy na 350,000 o enwau lleoedd hanesyddol, a bydd yn ddiau yn tyfu yn gyflym iawn gan fod ymchwil yn ildio gwybodaeth newydd. Mae defnyddwyr y rhestr hefyd yn cael eu hannog i gyfrannu eu gwybodaeth eu hunain am enwau lleoedd. Nod y gwaith hwn, unwaith eto, yw datblygu diwylliant ac ymddygiad mwy cyfrifol ar draws Cymru, a mwy o barch, nid yn unig ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol, ond yr enwau lleoedd sy’n cael eu priodoli i’n hasedau hanesyddol.
Nododd yr Aelod y canllawiau statudol, ‘Cofnodion yr Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio’. Mae’r rhain yn cyfarwyddo awdurdodau parciau lleol a chenedlaethol, a Chyfoeth Naturiol Cymru, i ystyried y rhestr wrth enwi neu ailenwi wrth ystyried enwi ac ailenwi strydoedd, eiddo a lleoedd eraill. Heb y rhestr a’r cofnodion amgylchedd hanesyddol hynny, sy’n aml yn sail i’r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol, nid wyf yn credu y byddai awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol neu Gyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfa i allu gwneud sylwadau cytbwys. Yn awr, diolch byth, byddant mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau cytbwys. Ar y canllawiau arfer gorau ar enwau lleoedd hanesyddol, wel, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion yn Cadw ddechrau paratoi cyhoeddiad newydd ar enwau lleoedd hanesyddol yn rhan o’r canllawiau arfer gorau sy’n ategu’r Ddeddf. Bydd yn cael ei anelu at gynulleidfa eang i gyfleu pwysigrwydd enwau lleoedd hanesyddol i dreftadaeth Cymru, a hefyd i egluro beth mae’r rhestr yn ei gynnig i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y gwaith o reoli’r dreftadaeth honno.
O ran y cwestiwn o ddiogelwch cyfreithiol enwau lleoedd hanesyddol, unwaith eto, mae hwn yn fater sydd wedi’i godi a’i drafod yn y Siambr droeon, ac rwy’n parchu barn yr Aelod a gwaith yr Aelod yn y maes penodol hwn. Cafodd opsiynau ar gyfer diogelwch cyfreithiol enwau lleoedd hanesyddol Cymru, rwy’n credu, eu hystyried yn drylwyr yn ystod hynt Deddf 2016. Byddai gwarchodaeth gyfreithiol ffurfiol yn gofyn am drefn ganiatâd fyddai’n gymhleth, byddai’n gostus ac yn anodd ei rhedeg, os nad yn amhosibl i’w gorfodi. Mae’r dull yr ydym wedi ystyried yn un—. Rwy’n parchu barn yr Aelodau ar y mater hwn, ond yn yr un modd rwy’n credu bod y dull yr ydym wedi’i gymryd yn gymesur ac, yn hollbwysig, yn un y gellir ei gyflawni. Mae’r rhestr yn cofnodi ein hetifeddiaeth gyfoethog o enwau lleoedd hanesyddol ar gyfer y dyfodol. Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’u pwysigrwydd fel elfennau annatod o hanes ein cenedl, gyda’r bwriad, fel yr amlinellwyd, o wella’r parch tuag at enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru. Bydd hyn, ynghyd â’r canllawiau statudol a gyhoeddwyd i gyrff cyhoeddus, yn fy marn i, yn annog y defnydd parhaus o enwau lleoedd hanesyddol mewn bywyd bob dydd.