Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac a gaf i ddweud bod UKIP Cymru yn croesawu llawer o agweddau ar y ddeddfwriaeth hon? Yn benodol, bod y Llywodraeth yn gwneud y broses gofrestru ar gyfer henebion ac adeiladau yn fwy agored ac atebol. Rydym hefyd yn croesawu’r cynnig i roi perchnogion a deiliaid wrth wraidd y broses ymgynghori, gyda hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad gan yr Arolygiaeth Gynllunio. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y broses apelio hon yn cael ei hasesu yn annibynnol?
Unwaith eto, rydym yn nodi ac yn cefnogi ymchwil a gomisiynwyd ar yr heriau cymhleth a gyflwynir gan adeiladau rhestredig sy’n dadfeilio. Yn hyn o beth, a all Ysgrifennydd Cabinet os gwelwch yn dda gadarnhau y bydd yr ymchwil hon yn ystyried barn y rhai nad ydynt yn arbenigwyr a’r farn leol, yn ogystal â rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol? Rydych hefyd wedi sôn yn eich datganiad am eich bwriad i sefydlu cofrestr statudol o barciau hanesyddol, ac rydych wedi rhoi yn gynharach ryw fath o amserlen o ran hynny i ni. Ond a allwch chi hefyd ddweud wrthym pa warchodaeth fydd y parciau hanesyddol hyn yn ei chael nes bydd y gofrestr ar waith?