Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
A gaf i ddiolch i’r Aelod am ei chyfraniad ac am ei chwestiynau? Mae Joyce Watson yn hyrwyddwr gwych o gastell Harlech, yn hyrwyddwr mawr y rhanbarth, y dref ei hun, a hefyd yn bencampwr gwych o’r amgylchedd naturiol a thwristiaeth bywyd gwyllt, yr ydym hefyd yn gwybod sy’n cyfrannu’n enfawr at economi Cymru. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r diddordeb brwd y mae Joyce Watson wedi’i ddangos i adfywio Harlech, sydd wedi cael ei sbarduno gan ein buddsoddiad sylweddol yn y castell.
Nododd yr Aelod yn iawn ein bod wedi cymeradwyo swm nid ansylweddol o arian yn ddiweddar i gefnogi adfywio pellach yn Harlech. Fy ngobaith yw y bydd yr awdurdod lleol yn gallu gweithio gyda rhanddeiliaid lleol, siopwyr ac arweinwyr cymunedol a grwpiau gweithredu i sicrhau bod y prosiectau iawn yn cael eu nodi ar gyfer gwaith â blaenoriaeth. A hoffwn weld sylw’n cael ei roi i rai o’r heriau mawr sy’n ymwneud ag asedau eraill yn yr ardal—gallai rhai eu disgrifio’n ‘ddolur llygad’—oherwydd rwy’n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod ar rywfaint o’r dadfeilio sy’n amlwg heb fod ymhell oddi wrth y castell yr ydym wedi pwmpio miliynau o bunnoedd iddo.
O ganlyniad i’r buddsoddiad a wnaed yng nghastell Harlech, rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer yr ymwelwyr. Tyfodd nifer yr ymwelwyr y llynedd 11.2 y cant, ac mae’r Aelod yn iawn; erbyn hyn cafwyd mwy na 100,000 o ymwelwyr i gyd. Dyna 8,000 o ymwelwyr ychwanegol sy’n talu, ac mae hynny, yn ei dro, yn golygu buddsoddiad yn ôl i mewn i safle Cadw. Ac mae’n werth nodi hefyd fod y bont newydd a gafodd ei gosod yn y castell wedi cael ei chydnabod—mae’n bont arobryn, ac mae wedi dod yn rhyw fath o nodwedd eiconig yn lleol. Mae prosiect gwella castell Harlech wedi bod yn llwyddiannus ac wedi derbyn gwobr diwylliant a threftadaeth RICS.
Fy marn i yw bod angen i ni sicrhau ein bod yn ystyried y ffaith bod y castell yn rhan o amgylchedd naturiol anhygoel. Nododd yr Aelod safle treftadaeth y byd a’r parc cenedlaethol fel cydrannau cyflenwol. Rydym wedi datblygu canllawiau ar gynnal a rheoli safleoedd treftadaeth y byd, er mwyn cyfrannu at waith grwpiau eraill sy’n cadw a hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol. Ond credaf, o ran Harlech yn benodol, ei bod yn hanfodol bod yr holl bartïon ar lefel leol iawn ac ar lefel gwaith awdurdod lleol at ei gilydd, yn goresgyn rhwystredigaethau domestig a allai fodoli, ac yn canolbwyntio ar yr un pwrpas o nodi’r heriau, eu goresgyn, a sicrhau y gellir cyflwyno adfywiad. Ac mae Llywodraeth Cymru yn hapus iawn i roi help llaw lle bo hynny’n bosibl.