Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Ar ddiwedd yr wythnos hon, Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn teithio i ogledd fy etholaeth i. Yn wir, byddaf yn teithio i Harlech. Pan ddaw’n fater o drefnu cyfarfodydd neu unrhyw ddigwyddiadau eraill yn Harlech, mae lle naturiol y byddwn yn setlo arno sy’n gyfleus i’r ddwy ochr ac yn eithriadol o bwysig i’r ardal, ac wrth gwrs rwy’n siarad am gastell Harlech. Gwn fod y gymuned, fel fi, yn hynod ddiolchgar am fuddsoddiad £6 miliwn yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn y castell. O ganlyniad i hynny cafodd ei adfer i gyflwr da, ac mae bellach wedi denu dros 100,000 o ymwelwyr y llynedd, cynnydd o 35 y cant. Felly, mae’r diogelwch ychwanegol a roddir i leoedd o’r fath—henebion hanesyddol—yn hynod bwysig. Nid yn unig mae’n bwysig i warchod y strwythur corfforol, ond i les yr ardal leol. Fel y gwyddoch yn dda, mae’n safle treftadaeth y byd ac mae o fewn ardal gadwraeth gyfagos, mae’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac yn ardal o gadwraeth arbennig.
Felly, y cwestiwn sydd gennyf yw hyn: er ein bod yn gofalu am yr adeiladau a’r ardaloedd hynny ac yn cadw ac yn cyflwyno Deddfau sy’n eu diogelu, byddwch yn gwybod fwy neu lai o fewn yr un ôl troed â’r safle hwnnw mae gennym westy Dewi Sant, sydd bron â mynd â’i ben iddo. Byddai rhai yn hoffi ei weld yn syrthio i lawr yn fuan iawn. Mae’n debyg mai fy nghwestiwn i yw hwn: er ein bod yn rhoi’r holl fuddsoddiad i’r ardal, ac er ein bod yn rhoi llawer o warchodaeth i’r castell, mae’r cyfan yn cael ei ddifetha gan ei fod yn edrych dros yr hyn sydd bellach yn adeilad adfeiliedig. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae ansicrwydd ynghylch safle’r coleg a hefyd y theatr. Ond rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi rhoi rhywfaint o arian i mewn i gyd-gyllido rhywfaint o waith adfywio, ac rwy’n meddwl tybed a fyddwch yn gallu dweud wrthyf faint oedd y buddsoddiad hwnnw. Rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi eich bod yn siarad â Chyngor Gwynedd yn ceisio datrys rhai o’r problemau hyn, yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Eryri. Ond rwyf hefyd yn meddwl tybed a ydych yn gallu cadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn siarad â’ch cydweithiwr, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ynglŷn â dyfodol y coleg, y theatr a’r safle, ac felly pan fyddwn yn rhoi gwarchodaeth ac yn rhoi rhywfaint o fuddsoddiad sydd mewn gwirionedd yn sicrhau newid cadarnhaol, nad yw’n cael ei ddifetha gan y pethau y mae’n edrych drostynt.