Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Hoffwn innau hefyd groesawu’n fawr y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ganmol y dull angerddol ac ymrwymedig o ymdrin â’r maes cyfrifoldeb pwysig hwn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i gymryd bob tro?
Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth, a nodaf yn y datganiad fod Deddf 2016 yn cael ei chanmol yn briodol am ddarparu ystod o offer newydd neu offer sydd wedi’i fireinio i roi mwy o warchodaeth i’n hasedau hanesyddol gwerthfawr. Mae’r rhain yn asedau hanesyddol hollgynhwysol o fywyd Cymru ac, yn fy etholaeth i yn Islwyn, mae’r Navigation yng Nghrymlyn yn safle pwll glo Cymreig hanesyddol, eiconig a phwysig. Mae ymhlith y 10 adeilad Fictoraidd ac Edwardaidd sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru ac yn Lloegr, ac mae’r Navigation yn cynnwys nifer o adeiladau rhestredig.
Cefais fy nghalonogi o glywed yn eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, yr adnodd newydd ar y we Cof Cymru—Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru. Mae hwn yn rhoi gwybodaeth awdurdodol am ddim i berchnogion, deiliaid ac aelodau’r cyhoedd am ddisgrifiad, lleoliad a maint asedau hanesyddol dynodedig a chofrestredig ar draws Cymru. Rwyf wedi gwneud rhywfaint o waith cartref ac wedi ymweld â’r wefan ddefnyddiol hon, ac rwyf wrth fy modd o fod wedi gallu gweld yn glir yr adeiladau rhestredig amrywiol yn y Navigation, sy’n cynnwys y tŷ peiriant weindio, y tŷ ffan, gweithdai, storfeydd, baddondai pen pwll ac adeiladau allanol. Dyna 11 i gyd—pob un ohonynt yn rhestredig gradd II ac yn gofnod pwysig a hanesyddol i Gymru. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod yr asedau hanesyddol pwysig hyn yn adrodd hanes ein cenedl a’u bod yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, fel yr amlygwyd gan y Memo hanesyddol yn Nhrecelyn, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio’n llawn ac yn hyfyw yn y gymuned? Rydym yn gwybod bod gofynion ariannu yn rhoi pwysau mawr arnom i gyd— £1.2 biliwn wedi ei ysgubo oddi ar gyllideb Cymru yn y toriadau diweddar gan y DU—ac rwy’n falch o glywed am y grant £250,000 gan Lywodraeth Cymru yn 2015 ar gyfer y pwll glo.
Rwyf am gofnodi fy ngwerthfawrogiad i Gyfeillion Navigation, sydd yn grŵp o wirfoddolwyr lleol angerddol, ymroddedig iawn sy’n cynnal ac yn rheoli’r safle hwn gyda’r nod o adfer y safle a’r adeiladau, er mwyn gallu eu defnyddio eto. Rwy’n rhannu’r nod hwn yn llwyr, ynghyd â gweld, yn y dyfodol agos, yr orsaf reilffordd yn cael ei hailgyflwyno yng Nghrymlyn, er mwyn agor ein cymunedau yn y Cymoedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, sut mae egwyddorion a dibenion Deddf 2016—Deddf arloesol, yn fy marn i—a’r egwyddorion gorau dilynol, yn arwain, yn diogelu ac yn adfywio ein henebion hanesyddol pwysig megis y Navigation? Mae’n safle pwll glo lle bu fy nhad-cu a fy hynafiaid yn gweithio ynddo, ac sydd heddiw yn etifeddiaeth gadarn, ond yn araf ymddatod, o dreftadaeth ryngwladol, hanesyddol, diwylliannol a diwydiannol. Yn yr un modd, rhaid iddo chwarae rhan yn y weledigaeth Gymreig newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol i ddod.