Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
A gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am ei chyfraniad a thalu teyrnged i’w diddordeb brwd yn y pwnc hwn ers cael ei hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol y llynedd? Mae hi’n angerddol, yn amlwg, am yr amgylchedd hanesyddol, ac yn arbennig yr asedau hanesyddol yn ei hetholaeth hi. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i wirfoddolwyr y pwll glo. Rwy’n credu eu bod yn gwneud gwaith gwych. Nid yn unig maent yn arddangos un o’n hasedau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru, ond maent hefyd yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei gynnal mewn modd a fyddai, heb eu hymdrechion nhw, heb eu gwaith caled nhw, o bosibl yn adfeilio. Felly hoffwn ddiolch i iddynt am eu hymroddiad a’u hymrwymiad. Rwy’n edmygu’n fawr hefyd bod yr Aelod wedi cymryd amser i bori drwy ein hadnodd ar-lein. Rwy’n falch iawn ei bod hi’n ei ystyried yn adnodd effeithiol, ac rwy’n gobeithio y bydd hi’n rhannu ei phrofiad ag eraill. Os yw’n mynd i roi sgôr TripAdvisor iddo, gobeithio y bydd yn bum seren.
Rwy’n cytuno bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn adrodd hanes treftadaeth Cymru. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn parhau i ddehongli’r gorffennol gwych sydd gennym: hanes Cymru dros y milenia. Am y rheswm hwnnw, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi’r cynllun dehongli arloesol ledled Cymru. Credaf iddo fod yn gynllun hynod bwysig wrth ddwyn ynghyd agweddau niferus ein hamgylchedd hanesyddol a chreu naratif cymhellol ohonynt.