Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Diolch i chi, Llywydd. Roedd y gronfa triniaethau newydd yn weithredol yn syth ar ôl iddi gael ei sefydlu ym mis Ionawr eleni. Diben ein cronfa triniaethau newydd yw sicrhau bod y meddyginiaethau hynny sydd wedi dangos eu heffeithiolrwydd clinigol a’u gwerth am arian ar gael yn gyflym, gan felly gynrychioli gwerth da am arian o ran adnoddau'r GIG a phwrs y wlad. Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i Aelodau a wna’r datganiad hwn.
Mae'r Llywodraeth yn darparu £80 miliwn dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael i bobl yn gyflym. Maent wedi eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd—NICE—a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan, yr AWMSG. Yn ymarferol, mae hynny'n golygu ein bod yn dyrannu swm ychwanegol o £16 miliwn y flwyddyn i fyrddau iechyd. Yn gyfnewid am hyn, mae'n rhaid i fyrddau iechyd sicrhau bod y meddyginiaethau hyn a argymhellir ar gael ar bresgripsiwn, pan yw hynny'n glinigol briodol, o fewn dau fis. Mae hyn yn lleihad o draean yn yr amserlen weithredu sy'n ofynnol. Mae hefyd yn ofynnol i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer gweithredu argymhellion NICE o’r dyddiad cynharach, sef dyddiad cyhoeddi'r ddogfen arfarnu derfynol, yn hytrach nag aros am gyhoeddi'r canllawiau arfarnu technoleg terfynol. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth oherwydd gall leihau'r amser y mae modd cael gafael arnynt hyd at wyth wythnos. Mae'n rhaid i bob meddyginiaeth ganser newydd sydd ag argymhelliad interim gan NICE fod ar gael hefyd o fewn yr un amserlenni.
Rwyf wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau i fyrddau iechyd yn gorchymyn yr amserlenni gweithredu newydd. Sefydlwyd system oruchwylio i fonitro cydymffurfiaaeth gan y bwrdd iechyd yn rheolaidd, a bydd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan yn cyhoeddi adroddiad o'r data yn ddiweddarach eleni wedi toriad yr haf.
Rydym wedi llunio ein cronfa newydd i drin pob cyflwr yn gyfartal. Mae hyn yn sicrhau pobl Cymru ein bod yn dymuno gweld dull newydd seiliedig ar dystiolaeth bod meddyginiaethau ar gael yn gyflym ac yn gyson ni waeth beth fo’r cyflwr. Cafodd y dyraniad blynyddol o £16 miliwn ar gyfer 2016-17 ei ryddhau mewn dwy ran rhwng mis Ionawr a mis Mawrth. Mae hynny wedi helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno triniaethau newydd ac effeithiol ar gyfer ystod eang o glefydau sy'n cyfyngu bywyd ac/neu glefydau sy’n fygythiol i fywyd, gan gynnwys methiant y galon, canser, arthritis a diabetes—i enwi dim ond ychydig. Bydd rhestr o feddyginiaethau a argymhellir, hyd yn hyn, yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad hwn.
Diben penodol y gronfa £80 miliwn hon yw caniatáu i’r meddyginiaethau a argymhellir fod ar gael yn gyflymach a lleihau’r amrywiadau sy’n digwydd o ran cyflymder ledled Cymru. Roedd hwnnw’n ymrwymiad a roddwyd i bobl Cymru ym mis Mai y llynedd. Rydym yn cyflawni yn ôl yr ymrwymiad hwnnw i sicrhau bod y cyllid ar gael a’r paramedrau newydd yn cael eu gosod i sicrhau bod y meddyginiaethau ar gael yn fwy cyflym ac yn fwy cyson. Byddaf, wrth gwrs, yn dal byrddau iechyd i gyfrif o ran rhoi hynny ar waith a gwireddu hyn i gleifion ledled Cymru.
Yn ystod dau fis cyntaf y gronfa, roedd cydymffurfiaeth y byrddau iechyd yn dangos rhywfaint o amrywiad o ran y meddyginiaethau a argymhellir sydd ar gael ar gyffurlyfrau’r byrddau iechyd. Cafodd hynny ei adleisio gan y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau ar 20 Mehefin. Er bod rhywfaint o gynnydd da wedi bod, nododd fod rhagor eto i'w wneud i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r amserlenni newydd ledled Cymru. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd trafodaethau ar lefel cadeirydd a phrif weithredwr ers sefydlu'r gronfa. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gwbl glir ynglŷn â diben penodol y gronfa hon a’n hymrwymiad i sicrhau bod meddygyniaethau a argymhellir ar gael yn fwy cyflym ac yn fwy cyson.
Felly, rwy'n falch o adrodd bod y data diweddaraf yn dangos gwelliant pellach. Ar 9 Mehefin, roedd 17 o feddyginiaethau perthnasol. Mae un bwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi sicrhau bod 15 o'r 17 o feddyginiaethau a argymhellir ar gael erbyn y dyddiad hwn. Mae pob un o’r 17 meddyginiaeth bellach ar gael yng Nghaerdydd a'r Fro, ac mae'r bwrdd wedi cadarnhau bod systemau wedi cael eu hadolygu i sicrhau cydymffurfiaeth lawn wrth symud ymlaen. Roedd y chwe bwrdd arall, fodd bynnag, wedi sicrhau bod pob un o'r 17 meddyginiaeth ar gael o fewn yr amserlen. Ac mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi sicrhau bod pob un ond un o'r meddyginiaethau perthnasol ar gael o fewn y cyfnod o ddau fis, ond bellach mae pob un ar gael erbyn hyn hefyd.
Mae'r arian ar gyfer y gronfa yn cael ei ddarparu er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael o fewn y cyfnod o ddau fis. Nodais o'r blaen, mewn amgylchiadau neilltuol, y gellir cysylltu â'r prif swyddog meddygol i gytuno ar fis ychwanegol er mwyn cydymffurfio. Os nad yw sefydliadau yn cwrdd â'r amserlenni gofynnol, wrth symud ymlaen, yna ni fyddaf yn oedi cyn adfachu arian a ddyrannwyd, naill ai'n rhannol neu'n gyfannol.
Mae'r dull yr ydym yn ei gymryd i sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael, sydd â’u gwerth am arian wedi ei brofi drwy’r holl glefydau, yn cael ei gefnogi gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain. Maen nhw’n parhau i weithio gyda ni ar wella cynlluniau, drwy ein blaengynllunio ni, i gyflwyno meddyginiaethau newydd—yn benodol, cryfhau'r data ar gyfer rhagolygon ariannol a nodi meddyginiaethau newydd ynghynt. Gall fod angen datblygiad seilwaith sylweddol ar gyfer hyn.
Ym mis Ionawr, pan lansiais y gronfa triniaethau newydd, dywedais fod ymdrech ar y cyd yn angenrheidiol rhwng y diwydiant fferyllol, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau dull cynaliadwy ac ymatebol o gyflwyno meddyginiaethau newydd. Dangoswyd hynny yn effeithiol y mis diwethaf pan sicrhawyd bod triniaeth canser y fron newydd, Kadcyla, ar gael yn gyflym oherwydd bod y gwneuthurwr wedi ymgysylltu â GIG Cymru i sicrhau cytundeb cynnar. Mae'r gronfa triniaethau newydd wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amser a gymerir gan fyrddau iechyd i gyflymu’r broses o sicrhau bod meddyginiaethau newydd a argymhellwyd ar gael ynghynt, a gwnaed cynnydd da o ran hyn. Mae angen i hynny nawr fod yn gyson ledled Cymru, gyda phob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn o fewn yr amserlen o ddau fis ar gyfer pob meddyginiaeth. Rwy'n disgwyl i’r gydymffurfiaeth lawn honno barhau dros gyfnod pum mlynedd y gronfa, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion. Byddaf, wrth gwrs, yn dal ati i adrodd ar gynnydd i'r Cynulliad Cenedlaethol.