– Senedd Cymru am 4:13 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y gronfa driniaeth newydd—adroddiad cynnydd. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd. Roedd y gronfa triniaethau newydd yn weithredol yn syth ar ôl iddi gael ei sefydlu ym mis Ionawr eleni. Diben ein cronfa triniaethau newydd yw sicrhau bod y meddyginiaethau hynny sydd wedi dangos eu heffeithiolrwydd clinigol a’u gwerth am arian ar gael yn gyflym, gan felly gynrychioli gwerth da am arian o ran adnoddau'r GIG a phwrs y wlad. Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i Aelodau a wna’r datganiad hwn.
Mae'r Llywodraeth yn darparu £80 miliwn dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael i bobl yn gyflym. Maent wedi eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd—NICE—a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan, yr AWMSG. Yn ymarferol, mae hynny'n golygu ein bod yn dyrannu swm ychwanegol o £16 miliwn y flwyddyn i fyrddau iechyd. Yn gyfnewid am hyn, mae'n rhaid i fyrddau iechyd sicrhau bod y meddyginiaethau hyn a argymhellir ar gael ar bresgripsiwn, pan yw hynny'n glinigol briodol, o fewn dau fis. Mae hyn yn lleihad o draean yn yr amserlen weithredu sy'n ofynnol. Mae hefyd yn ofynnol i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer gweithredu argymhellion NICE o’r dyddiad cynharach, sef dyddiad cyhoeddi'r ddogfen arfarnu derfynol, yn hytrach nag aros am gyhoeddi'r canllawiau arfarnu technoleg terfynol. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth oherwydd gall leihau'r amser y mae modd cael gafael arnynt hyd at wyth wythnos. Mae'n rhaid i bob meddyginiaeth ganser newydd sydd ag argymhelliad interim gan NICE fod ar gael hefyd o fewn yr un amserlenni.
Rwyf wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau i fyrddau iechyd yn gorchymyn yr amserlenni gweithredu newydd. Sefydlwyd system oruchwylio i fonitro cydymffurfiaaeth gan y bwrdd iechyd yn rheolaidd, a bydd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan yn cyhoeddi adroddiad o'r data yn ddiweddarach eleni wedi toriad yr haf.
Rydym wedi llunio ein cronfa newydd i drin pob cyflwr yn gyfartal. Mae hyn yn sicrhau pobl Cymru ein bod yn dymuno gweld dull newydd seiliedig ar dystiolaeth bod meddyginiaethau ar gael yn gyflym ac yn gyson ni waeth beth fo’r cyflwr. Cafodd y dyraniad blynyddol o £16 miliwn ar gyfer 2016-17 ei ryddhau mewn dwy ran rhwng mis Ionawr a mis Mawrth. Mae hynny wedi helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno triniaethau newydd ac effeithiol ar gyfer ystod eang o glefydau sy'n cyfyngu bywyd ac/neu glefydau sy’n fygythiol i fywyd, gan gynnwys methiant y galon, canser, arthritis a diabetes—i enwi dim ond ychydig. Bydd rhestr o feddyginiaethau a argymhellir, hyd yn hyn, yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â’r datganiad hwn.
Diben penodol y gronfa £80 miliwn hon yw caniatáu i’r meddyginiaethau a argymhellir fod ar gael yn gyflymach a lleihau’r amrywiadau sy’n digwydd o ran cyflymder ledled Cymru. Roedd hwnnw’n ymrwymiad a roddwyd i bobl Cymru ym mis Mai y llynedd. Rydym yn cyflawni yn ôl yr ymrwymiad hwnnw i sicrhau bod y cyllid ar gael a’r paramedrau newydd yn cael eu gosod i sicrhau bod y meddyginiaethau ar gael yn fwy cyflym ac yn fwy cyson. Byddaf, wrth gwrs, yn dal byrddau iechyd i gyfrif o ran rhoi hynny ar waith a gwireddu hyn i gleifion ledled Cymru.
Yn ystod dau fis cyntaf y gronfa, roedd cydymffurfiaeth y byrddau iechyd yn dangos rhywfaint o amrywiad o ran y meddyginiaethau a argymhellir sydd ar gael ar gyffurlyfrau’r byrddau iechyd. Cafodd hynny ei adleisio gan y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau ar 20 Mehefin. Er bod rhywfaint o gynnydd da wedi bod, nododd fod rhagor eto i'w wneud i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â'r amserlenni newydd ledled Cymru. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd trafodaethau ar lefel cadeirydd a phrif weithredwr ers sefydlu'r gronfa. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gwbl glir ynglŷn â diben penodol y gronfa hon a’n hymrwymiad i sicrhau bod meddygyniaethau a argymhellir ar gael yn fwy cyflym ac yn fwy cyson.
Felly, rwy'n falch o adrodd bod y data diweddaraf yn dangos gwelliant pellach. Ar 9 Mehefin, roedd 17 o feddyginiaethau perthnasol. Mae un bwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi sicrhau bod 15 o'r 17 o feddyginiaethau a argymhellir ar gael erbyn y dyddiad hwn. Mae pob un o’r 17 meddyginiaeth bellach ar gael yng Nghaerdydd a'r Fro, ac mae'r bwrdd wedi cadarnhau bod systemau wedi cael eu hadolygu i sicrhau cydymffurfiaeth lawn wrth symud ymlaen. Roedd y chwe bwrdd arall, fodd bynnag, wedi sicrhau bod pob un o'r 17 meddyginiaeth ar gael o fewn yr amserlen. Ac mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi sicrhau bod pob un ond un o'r meddyginiaethau perthnasol ar gael o fewn y cyfnod o ddau fis, ond bellach mae pob un ar gael erbyn hyn hefyd.
Mae'r arian ar gyfer y gronfa yn cael ei ddarparu er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael o fewn y cyfnod o ddau fis. Nodais o'r blaen, mewn amgylchiadau neilltuol, y gellir cysylltu â'r prif swyddog meddygol i gytuno ar fis ychwanegol er mwyn cydymffurfio. Os nad yw sefydliadau yn cwrdd â'r amserlenni gofynnol, wrth symud ymlaen, yna ni fyddaf yn oedi cyn adfachu arian a ddyrannwyd, naill ai'n rhannol neu'n gyfannol.
Mae'r dull yr ydym yn ei gymryd i sicrhau bod y meddyginiaethau hyn ar gael, sydd â’u gwerth am arian wedi ei brofi drwy’r holl glefydau, yn cael ei gefnogi gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain. Maen nhw’n parhau i weithio gyda ni ar wella cynlluniau, drwy ein blaengynllunio ni, i gyflwyno meddyginiaethau newydd—yn benodol, cryfhau'r data ar gyfer rhagolygon ariannol a nodi meddyginiaethau newydd ynghynt. Gall fod angen datblygiad seilwaith sylweddol ar gyfer hyn.
Ym mis Ionawr, pan lansiais y gronfa triniaethau newydd, dywedais fod ymdrech ar y cyd yn angenrheidiol rhwng y diwydiant fferyllol, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau dull cynaliadwy ac ymatebol o gyflwyno meddyginiaethau newydd. Dangoswyd hynny yn effeithiol y mis diwethaf pan sicrhawyd bod triniaeth canser y fron newydd, Kadcyla, ar gael yn gyflym oherwydd bod y gwneuthurwr wedi ymgysylltu â GIG Cymru i sicrhau cytundeb cynnar. Mae'r gronfa triniaethau newydd wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amser a gymerir gan fyrddau iechyd i gyflymu’r broses o sicrhau bod meddyginiaethau newydd a argymhellwyd ar gael ynghynt, a gwnaed cynnydd da o ran hyn. Mae angen i hynny nawr fod yn gyson ledled Cymru, gyda phob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn o fewn yr amserlen o ddau fis ar gyfer pob meddyginiaeth. Rwy'n disgwyl i’r gydymffurfiaeth lawn honno barhau dros gyfnod pum mlynedd y gronfa, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion. Byddaf, wrth gwrs, yn dal ati i adrodd ar gynnydd i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch yn fawr iawn ichi am eich datganiad heddiw. Rydym wrth ein bodd i ddarllen am y cynnydd sydd wedi ei wneud, oherwydd ein bod yn croesawu'r ymrwymiad o £80 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf, ac rydym yn croesawu'r cynllun—neu eich bwriad i roi’r cynllun priodol yn ei le—ar gyfer rhoi argymhellion NICE ar waith. Credwn y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
Mae ychydig o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn ynglŷn â hyn. Roeddech chi’n sôn yn gynharach am sylwadau'r Prif Weinidog, gan ddweud bod peth amrywiaeth o ran y meddyginiaethau a argymhellir sydd ar gael ar gyffurlyfrau’r byrddau iechyd a'ch bod yn cymryd camau i geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Efallai eich bod yn cofio, ychydig wythnosau yn ôl, y gwnês i sôn am ddefnydd radiwm-223 fel triniaeth i ganser y brostad sydd ar gael yma yng Nghymru. Mae gwir ddryswch ynghylch hyn. Ni allaf gael unrhyw atebion gan unrhyw un, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddech yn edrych ar hyn. Mae'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn defnyddio'r gronfa triniaethau newydd i sicrhau ei bod ar gael. Mae'r bwrdd iechyd yn y de yn dweud, 'Na, mae’n rhaid i chi hawlio triniaeth fel hon drwy'r llwybr cais am gyllid gan gleifion unigol.' A phan rwy’n gofyn i wasanaethau ymchwil yr Aelodau a Llywodraeth Cymru, rwy’n ei chael hi’n anodd cael yr atebion oddi yno. Nid yw fy mhryder gwirioneddol yn ymwneud â’r un cyffur penodol hwn, er fy mod yn credu ei fod yn tynnu sylw at y mater, ond a oes llawer o feysydd eraill lle mae anghyfartalwch yn y modd y mae triniaeth yn cael ei darparu i bobl yng Nghymru? Gwn y byddwch yn cytuno â mi mai un peth y mae'n rhaid i ni gael gwared arno yw’r loteri cod post. Felly byddwn yn ddiolchgar iawn am eich sylwadau ar yr elfen benodol honno o'ch datganiad.
Roeddech yn sôn hefyd am y ffaith, mewn amgylchiadau eithriadol, y gellid cysylltu â’r prif swyddog meddygol i ganiatáu mwy o amser i fyrddau iechyd gydymffurfio. Tybed beth yr ydych chi’n ei ystyried yn amgylchiad eithriadol. Mae’r byrddau iechyd yn sefydliadau grymus. Mae swm sylweddol o adnoddau ar gael iddynt. Rwy’n holi tybed beth allai fod yn esgus rhagorol a fyddai'n golygu na allent weithredu’r hyn y dylent fod yn ei weithredu ar amser.
Roeddwn yn falch o weld eich sylwadau am Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain. Rwyf o’r farn ei bod yn gwneud gwaith canmoladwy wrth geisio gweithio ar y cyd. Rwy'n falch o weld ei bod yn mynd i fod yn gyfrifol am rannu data a chynllunio. A fyddwn ni’n gallu dod ag unrhyw dryloywder i hyn? Wrth gwrs, rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi gweld llawer o grwpiau pwyso yn cysylltu â ni yn sgil cyffuriau penodol, ac rwy'n siŵr bod rhywun yno bob amser yn curo ar eich drws chi naill ai drwy gyfrwng grwpiau neu gynrychiolwyr o gwmnïau cyffuriau. Byddai’n wych, serch hynny, pe gallem ddod ag unrhyw dryloywder o ran hyn, heb dorri cyfrinachedd masnachol, mae’n amlwg, er mwyn i gleifion ac ymgyrchwyr yng Nghymru ddeall mewn gwirionedd beth sydd dan ystyriaeth. Yna gallant gael syniad o ba mor agos neu bell y mae’r broses o wneud penderfyniadau ar gyffur penodol y maen nhw’n credu y dylid ei gynnwys.
Yn olaf, ys gwn i, ar yr ochr ariannol, a fydd yr arian a ddyrannwyd a gaiff ei hawlio’n ôl gennych chi yn y pen draw oherwydd diffyg perfformiad gan fyrddau iechyd arbennig yn cael ei gadw o fewn y gronfa triniaethau newydd? Os na, ble fyddech yn bwriadu rhoi’r arian hwnnw? Os yw'n cael ei gadw o fewn y gronfa triniaethau newydd, sut fyddech chi'n dosbarthu’r arian hwnnw wedyn? A fyddech yn ei roi iddyn nhw yn nes ymlaen, neu a fyddech yn ei rannu ymysg rhai o'r byrddau iechyd mwy rhagweithiol? Rwy'n credu bod hynny'n eithaf anodd gan ein bod yn awyddus i gael gwared ar y loteri cod post, ond ni allwn ni dindroi a symud yn unig ar yr un cyflymder â’n byrddau iechyd arafaf a mwyaf pwyllog. Diolch.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwy'n credu ein bod ni wedi cael trafodaeth fer am radiwm-223, a grybwyllwyd gennych yr wythnos diwethaf, ac rwy'n hapus i ailadrodd fy ymrwymiad i edrych ar y mater ac adrodd yn ôl—nid yn unig i chi, ond, gan ei fod wedi cael ei grybwyll yn y Siambr, byddaf yn sicrhau bod copi yn cael ei anfon at yr Aelodau eraill hefyd. Rwy’n sicr y bydd nifer ohonynt yn cymryd—[Torri ar draws.] Ydw, rwy’n ymwybodol o’r mater penodol hwnnw, ond gyda'r egwyddor o sicrhau bod y gronfa triniaethau newydd yn gwneud yr hyn a ddylai: ei bod yn datrys y gwahaniaethu o ran yr amser y mae’r triniaethau a argymhellir ar gael a hefyd ar sail daearyddiaeth. A dyna yw ei holl ddiben. Yr hyn y gallwn ei fynegi heddiw yw bod yna gynnydd gwirioneddol wedi bod. Felly, fe welwch mai dim ond arwyddion sydd i ddangos ar draws y saith bwrdd iechyd perthnasol a Felindre nad yw’r triniaethau wedi digwydd o fewn y terfynau amser a bennwyd. Felly, mae hynny'n well o lawer na chyn cyflwyno’r gronfa driniaethau newydd. Ond rwy’n awyddus i weld bod yr amcanion yr ydym yn eu gosod yn cael eu cyflawni gan bobl. Mae hynny'n dod â mi at eich pwynt chi am yr atebolrwydd am—[Anhyglyw.]—oherwydd gall amgylchiadau eithriadol fodoli lle mae rhesymau da pam na all pobl wireddu’r amserlen o ddau fis. Mae’n bosib bod heriau seilwaith ehangach o ran cyflwyno'r driniaeth yn ddiogel ac effeithiol yn y fan honno. Ond fe ddylai’r rheini fod yn faterion sy'n cael eu deall yn iawn o flaen llaw. Os nad ydyn nhw’n deall y rheini, ac mae hynny'n rhywbeth sydd yn codi yn ystod y gweithredu, mae angen iddyn nhw roi gwybod i'r prif swyddog meddygol, i wneud yn siŵr bod hynny wedi ei ddeall yn iawn, yn hytrach na bod yn fodd i ostwng y pwysau neu’n ddihangfa os yw’n ymddangos yn unig ei bod yn anodd. I fod yn deg, mae'r prif weithredwr newydd yng Nghaerdydd a'r Fro a'r cadeirydd yn deall bod angen defnyddio'r arian at ddiben.
Ac mae hynny'n fy arwain i at eich pwynt am adfachu arian. Nid wyf wedi gwneud penderfyniad terfynol ar yr hyn a fyddai'n digwydd pe byddem yn crafangu unrhyw arian yn ei ôl. Fy nod yw na fydd angen gwneud hynny, a siarad yn blaen. Ond pe byddem yn gwneud hynny, byddem yn ystyried wedyn y ffordd orau o’i ddefnyddio o fewn gwariant iechyd. Rwyf wedi canfod tipyn o'r rhwystredigaeth y byddai unrhyw Weinidog mewn unrhyw Lywodraeth yn ei ganfod wrth geisio cyflawni amcanion Llywodraeth a sut mae cyflawni newid yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Yn aml mae ein mecanweithiau atebolrwydd yn drafferthus, yn yr ystyr y gallwch wneud rhywbeth gyda'r sefydliad cyfan—dyna beth yw diben fframwaith uwchgyfeirio, os nad yw'r sefydliad yn ei gyfanrwydd yn llwyddo, nac yn cyflawni fel y dylai ei wneud ar ystod o feysydd pwysig iawn. Ar fesurau mwy penodol, fel hwn, nid wyf yn credu y byddem ni’n awgrymu y dylid cael gwared ar unigolion sy’n arwain sefydliad. Ond mae’n rhaid bod rhyw lun o atebolrwydd, ac rwyf wedi gweld, mewn gwirionedd, y gall y defnydd posibl o arian mewn ffordd sy'n weladwy gael effaith galonogol iawn ar annog cydymffurfiaeth gan sefydliad. Felly, fel y dywedais, rwy’n obeithiol na fydd yn rhaid i mi adfachu arian, ond os byddaf, wel, yn amlwg, byddaf yn adrodd yn ôl am ffaith honno a sut y bydd yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio.
Ar eich pwynt olaf ac ehangach yn y canol am Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, ac yn croesawu’r ymgysylltu ynglŷn â'r broses gwneud penderfyniadau, unwaith eto, i ailadrodd: mae hyn yn ymwneud â meddyginiaethau a argymhellir. Felly, proses gwerthuso NICE—unwaith eto, arbenigedd annibynnol. Yr un peth o ran yr AWMSG, gan nad ydynt yn wleidyddion sy’n penderfynu beth sy'n llesol iddynt yn y tymor byr. Nid yw'n ymwneud â chael ymgyrch ddigon mawr neu angerddol yno i berswadio pobl i newid eu barn am wleidyddion; fel arall, buasai pob un ohonom ni yn agored i ymgyrchoedd ein perswadio ni, nid yn unig i newid ein meddyliau, ond i newid y dystiolaeth mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid i hon fod yn broses wedi ei harwain gan dystiolaeth wirioneddol. Fel arall, gallwn ni i gyd ragweld y bydd arian yn cael ei ddefnyddio at ddibenion na allwn eu cyfiawnhau yn wrthrychol—rydym yn sôn am adnodd cyhoeddus gwerthfawr ond arwyddocaol sy'n mynd i'r maes hwn er budd gwirioneddol i driniaeth cleifion ledled y wlad.
A gaf innau groesawu’r diweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â’r gronfa bwysig yma? Jest ychydig o gwestiynau gen i. O ran y ‘reference’, mewn ffordd, faint ydym ni’n tybio y mae cyflwyno’r 17 cyffur newydd yma wedi ei gostio mewn termau go iawn i’r byrddau iechyd yng Nghymru? Rwy’n cymryd nad yw’r cyfan yn cael ei dalu allan o’r £16 miliwn yn flynyddol, oherwydd cyflymu mynediad at y cyffuriau yma ydy pwrpas y gronfa, nid talu amdanyn nhw i gyd. Ynteu ai cyllido canolog ydy’r ‘default’ erbyn hyn ar gyfer pob cyffur newydd?
Un cwestiwn sydd yn fy nharo i hefyd: beth sy’n digwydd—er fy mod i’n croesawu bod cydymffurfiaeth yn digwydd o fewn y ddau fis, beth sy’n digwydd efo cyffuriau hŷn? Nid cyffuriau sydd ddim yn newydd o bosibl, ond cyffuriau hŷn a rhai sydd ddim ar gael pan ddylen nhw fod. Mae’r rheini hefyd, wrth gwrs, yn bwysig iawn ar gyfer cleifion. A beth ydy’r broses a ddylai gael ei dilyn o ran eiriolaeth cleifion ac ati i sicrhau bod ateb yn cael ei ganfod?
Ac, yn olaf, sôn am gyffuriau ydym ni yn fan hyn. Cronfa triniaethau newydd ydy hon. Beth sy’n digwydd pan nad cyffur ydy’r driniaeth newydd ac o bosibl, ffurf newydd o ffisiotherapi neu beiriant drud, newydd o bosibl, a sut y gall y gronfa newydd hon fwydo i mewn pan mae angen triniaeth amgen?
Diolch i chi am dri maes o gwestiynau. Os gallaf ymdrin â'r pwynt ariannol yn gyntaf, yna—rydych chi’n iawn nad ydyw’r gronfa triniaethau newydd yno i dalu am holl gostau meddyginiaethau. Yn syml, ni fyddai’n gwneud hynny. Os gallaf nodi mewn rhyw fodd, yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae gwariant ar feddyginiaethau newydd a argymhellir wedi cynyddu traean, o £186 miliwn i £247 miliwn y flwyddyn. Felly, ni fyddai modd i'r gronfa triniaethau newydd lenwi'r bwlch hwnnw. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod meddyginiaethau ar gael, fel y dywedais, yn fwy cyson, o ran daearyddiaeth ac amserlenni. Rydym wedi llwyddo mewn gwirionedd i gyfyngu’r amserlenni ar gyfer y meddyginiaethau newydd a argymhellir drwy gyflwyno’r gronfa. Dyna yw holl ddiben ac ystyr y peth. Rydym yn cydnabod bod rhai amrywiadau posib na allech ac na ddylech, ar sail cyfiawnder, geisio byw gyda nhw. Felly, mae'r gronfa’n cyflawni yn ôl y diben a’r pwrpas ar hyn o bryd, ond, unwaith eto, fel y byddwch chi a phobl eraill yn yr ystafell yn ei wneud, byddaf yn chwilio am welliant pellach i sicrhau bod gennym gydymffurfiaeth lawn.
Ar eich pwynt chi am gyffuriau sy’n hŷn, mae dau bwynt yma— cyffuriau hŷn sy'n parhau’n ddewisiadau triniaeth dilys, a chyffuriau hŷn lle mae dibenion newydd wedi eu canfod. Ar y naill law, mae 'na bwynt ynglŷn â’r trwyddedu a’r argaeledd a sail y dystiolaeth ar gyfer defnyddio’r rheini mewn ffordd wahanol. Ond, tra bydd yn driniaeth glinigol ddilys o hyd, yna, unwaith eto, mae hynny’n ymwneud â chlinigwyr a’u dyletswydd i ddefnyddio eu crebwyll i ddarparu’r driniaeth glinigol fwyaf addas.
Mae dadl yr ydym wedi ei chael o’r blaen ar hepatitis C wedi bod yn enghraifft dda. A dweud y gwir, mae clinigwyr gyda’i gilydd, drwy lunio rhwydwaith effeithiol, gyda chefnogaeth a her cymheiriaid, wedi cytuno nid yn unig ar wahanol ffyrdd o wneud defnydd o feddyginiaethau newydd, ond am y brandio arbennig yn y rheini ynghylch y cyffuriau y maen nhw’n eu defnyddio i gyd. Mewn gwirionedd, maen nhw wedi lleihau’r bil cyffuriau ac, ar yr un pryd, wedi gwella effeithiolrwydd y driniaeth y maen nhw yn ei rhoi. Felly, nid yw'n golygu bod pob un arwydd sydd gennym yn golygu bod y cyffuriau sy’n hŷn yn cael eu hepgor. Mae’r cyffuriau hynny sy'n briodol yn aros ar y cyffurlyfr a mater i'r clinigwyr wedyn yw rhagnodi presgripsiynau cymwys a phriodol ar eu cyfer.
O ran eich pwynt ehangach ar y gronfa triniaethau newydd ar gyfer y materion hynny nad ydynt yn gysylltiedig â meddyginaethau, wel, rydym wedi ystyried y gronfa triniaethau newydd, ac eglurais mai darparu meddyginiaethau yw ystyr hyn mewn gwirionedd. Felly, mae dulliau eraill o driniaeth yn ymwneud â gweddill y cyllid o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol, beth bynnag fyddo hynny, er enghraifft, mathau eraill newydd o radiotherapi neu gemotherapi, neu, er enghraifft, dechnegau llawfeddygol eraill newydd, neu’n fath o ffisiotherapi neu rywbeth arall, fel yr ydych wedi ei nodi. Ond, mewn llawer o'r meysydd hyn, mae’n ymwneud â sut rydym yn defnyddio’n gyson yr hyn yr ydym eisoes yn gwybod. A dyna yw cryn dipyn o'n her ni wrth inni wella ansawdd o ran profiad, ond hefyd o ran canlyniadau.
Os edrychwch, er enghraifft, ar y cynnydd sylweddol a wnaethom ym maes adsefydlu cardiaidd, nid yn sgil dysgu rhywbeth newydd y gwelwyd y gwelliant sylweddol hwnnw a groesawyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon, ac arweiniodd atom yn cael ein henwi’n arweinwyr y byd yn y maes hwn, ond mewn gwirionedd roedd yn ymwneud â’r ffaith ein bod yn gweithredu’n fwy cyson, gan ddefnyddio tîm amlddisgyblaethol, er mwyn diwalllu’n well anghenion cleifion a oedd eisoes yn ddealladwy.
Felly, mae’r gronfa triniaethau newydd hon yn ymwneud â meddyginiaethau—cael gafael ar feddyginiaethau effeithiol yn gyflymach, yn fwy cyson. Mae'r materion eraill hynny’n heriau gwella ansawdd gwahanol i’n gwasanaeth, ac rwy'n siŵr y byddwch chi a minnau ac eraill yn dychwelyd atyn nhw ar lawer achlysur yn y dyfodol.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r gronfa triniaethau newydd wedi bod yn destun gobaith i lawer o ddioddefwyr canser, gan sicrhau bod cyffuriau fel Kadcyla ar gael fel mater o drefn i gleifion y GIG yng Nghymru. Wrth gwrs, nid dim ond cleifion canser fydd yn elwa ar y gronfa triniaethau newydd, a bydd yn ariannu rhagor na chyffuriau.
Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn croesawu cyflwyno’r gronfa, mae gennyf i rai cwestiynau am ddull gweithredu’r cynllun o ddydd i ddydd. Roedd clinigwyr a oedd yn goruchwylio’r gwaith o gyflwyno cyffuriau addasu clefydau ar gyfer cleifion MS yn datgan ei bod yn cymryd mwy na dwy flynedd ar ôl cymeradwyo Sativex cyn y gall cleifion ei gael, oherwydd nad oedd y seilwaith angenrheidiol yn ei le i weinyddu a monitro’r cyffur. Mae llawer o'r mathau newydd o feddyginiaeth sydd ar gael nawr yn gofyn am fonitro gofalus ac mae'n rhaid eu gweinyddu mewn gwely dydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd y gronfa driniaethau newydd yn sicrhau nad cost y feddyginiaeth yn unig fydd yn cael ei hystyried ond yn sicrhau hefyd bod y seilwaith yn ei le i ddarparu'r feddyginiaeth?
Wrth gwrs, bydd y cynllun yn ariannu’r 12 mis cyntaf yn unig o gostau’r driniaeth, gyda byrddau iechyd lleol yn gorfod talu cost barhaus y driniaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd byrddau iechyd lleol yn dod yn ymwybodol o driniaethau newydd sydd yn yr arfaeth fel y gallant gynllunio ar gyfer anghenion ariannu i’r dyfodol? Mae’n profi’n anodd cael gwybod pa driniaethau sydd ar gael dan y cynllun. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych unrhyw gynlluniau i gyhoeddi rhestr o driniaethau sydd ar gael a gaiff ei diweddaru yn barhaus fel y gall cleifion fod yn glir ynghylch yr hyn sydd ar gael ac a yw eu bwrdd iechyd lleol yn cydymffurfio â'r gronfa?
A oes gennych unrhyw gynlluniau i gyhoeddi data yn rheolaidd ar weithredu’r cynllun, megis nifer y cleifion sydd wedi elwa, pa gyllid a ddyrennir i bob triniaeth, a faint o amser a gymerir rhwng cymeradwyo'r driniaeth a’r claf yn cael y driniaeth? Bydd y gronfa'n darparu byrddau iechyd gyda £16 miliwn y flwyddyn. Ysgrifennydd y Cabinet, sut fyddwch chi’n sicrhau y gwneir y mwyaf o’r gyllideb, a pha systemau sydd gennych ar waith i sicrhau nad yw unrhyw orwariant yn effeithio ar feysydd eraill o ofal cleifion?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae prif swyddog meddygol Lloegr wedi dweud y dylid sgrinio genom cyfan cleifion canser er mwyn helpu i ddewis y driniaeth orau i’r claf. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw hynny’n rhywbeth y byddwch yn ei ystyried ac a allai'r gronfa driniaethau newydd gael ei defnyddio i ariannu’r gwaith o gyflwyno’r math hwn o sgrinio yn y lle cyntaf? Diolch. Diolch yn fawr.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Y pwynt olaf yr wyf yn credu inni geisio ymdrin ag ef yn y datganiad a wneuthum yr wythnos diwethaf oedd ein dull ni o ymdrin â meddygaeth fanwl. Mae hwn yn fater gwahanol i'r gronfa triniaethau newydd, ac rwy'n credu bod hynny'n un y byddwn yn hapus i’w drafod yn fwy manwl gyda'r Aelodau yn y dyfodol. Byddwn yn lansio ein strategaeth meddyginiaeth fanwl dros yr haf, ac rwy'n siwr y bydd yn fater y bydd aelodau'r pwyllgor iechyd ac eraill yn cymryd diddordeb parhaol ynddo. Mae’n faes datblygu pwysig a chyffrous, ond, fel y dywedais i, nid dyna yw gwir ystyr a diben y gronfa triniaethau newydd.
Nawr, ar y pwynt a godwyd gennych chi ynglŷn â bod hyn nid yn ymwneud â chanser yn unig, dyna yw ein safbwynt ni yn union a dyna pam yr ydym yn dweud nad ydym yn gweithredu dull ar sail cyflyrau penodol. Nid ydym yn credu y dylem bennu gwerth uwch ar fywydau rhai cleifion yn y GIG yn fwy nag eraill yn ôl yr afiechyd sydd arnynt. Unwaith eto, dylem atgoffa pobl fod cronfa cyffuriau canser Lloegr wedi gwario dros £1.27 biliwn ac eto i gyd credant mai dim ond mewn tua un o bob pum achos y maen nhw’n gallu cyfiawnhau'r defnydd ohono. Felly, dyna yn fras £1 biliwn sydd wedi ei wastraffu neu wedi ei ddefnyddio’n wael. Rydym yn awyddus i osgoi’r math hwnnw o ddefnydd gwael o arian cyhoeddus yr wyf o’r farn y gallem gael ein barnu amdano ac y dylid ein barnu’n briodol am hynny pe byddem ni’n dewis y dull hwnnw o weithredu yng Nghymru.
Mae'r pwynt a wnewch am Sativex yn addysgiadol o ran ein bod wedi gwneud dewis, gyda'n priod broses werthuso, i gymeradwyo Sativex ar gyfer grŵp penodol o gleifion. Nid yw’r system yn Lloegr wedi cyrraedd y fan honno eto. Felly, yn yr ystyr hwnnw, mae budd gwirioneddol i gleifion yng Nghymru. Yr her felly yw gwneud yn siŵr fod yr holl seilwaith o amgylch y presgripsiynau a’r gefnogaeth yn bresennol ac yn ei le er mwyn y bobl y mae’n ddichonol briodol yn glinigol i roi Sativex ar brescriptiwn iddynt. Gwn fod heriau sy’n parhau o ran hyn: heriau, os mynnwch, oddi mewn i'r gwasanaeth sydd yn gyfan gwbl o fewn Cymru, ond hefyd y cleifion hynny sy'n mynd i weld ymgynghorwyr yn rhan reolaidd o'u triniaeth lle mae’r ymgynghorwyr hynny wedi eu lleoli yn Lloegr. A’r her i’r ymgynghorwyr hynny yw gwneud dewisiadau presgripsiwn ar gyfer pobl lle mae Sativex yn ddewis, ac mae heriau o ran yr ymgynghorwyr hynny sy’n dyheu neu’n barod i ragnodi presgripsiwn clinigol priodol. Ond ni ellir dweud yn syml ei fod yn gyffur ysgubol i bawb ag MS. Bydd yn rhaid iddo fod yn glinigol briodol a rhaid iddo fod yn brawf gwirioneddol o'r driniaeth i'w darparu, oherwydd ni fydd yn gweithio i bawb. Mae'n fater yn sicr yr wyf yn ei ystyried, ond, eto i gyd, mae'n addysgiadol o ran yr hyn yr ydym am geisio ei osgoi lle bynnag y bo modd gwneud hynny gyda'r gronfa triniaethau newydd i wneud yn siŵr bod yr heriau seilwaith hynny wedi cael eu deall yn iawn ac ymhell o flaen llaw.
Mae hefyd yn cyffwrdd a’ch pwynt am gynllunio gwasanaethau. Rhan o'r ffordd yr ydym wedi cyflwyno’r gronfa triniaethau newydd hon yw deall mai, yn y 12 mis cyntaf o gyflwyno triniaethau newydd, cyffuriau newydd, y 12 mis cyntaf yw'r rhai anoddaf i gynllunio ar eu cyfer, a deall bod hynny oherwydd y gost ychwanegol a ddaw a sut mae hynny wedyn yn cael ei gyllido yn briodol gydol oes y byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau perthnasol. Ond mae hefyd yn ymwneud â datblygu'r berthynas fwy aeddfed a ddisgrifiais â Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain. Cefais gyfarfod buddiol gyda nhw rai misoedd yn ôl pan wnaethom ni gytuno ar ddeall a rhannu mwy o wybodaeth gyda’r gwasanaeth ar driniaethau sydd yn yr arfaeth, a deall sut y gall y gwasanaeth gynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer y rheini. Felly, dylai cleifion elwa, dylem wneud gwell defnydd o adnoddau cyhoeddus, ond hefyd dylai barhau i fod yn llesol i'r busnesau hynny hefyd, ar gyfer y cynhyrchion y maen nhw’n dymuno eu gwerthu i'r gwasanaeth.
Ar y pwynt olaf nad ydwyf wedi ymdrin ag ef hyd yn hyn, sef cyhoeddi gwybodaeth: nodais yn fy natganiad y byddaf yn cyhoeddi gwybodaeth ar ddiwedd toriad yr haf. Rhyddheir cyllid yn chwarterol, ac rwy’n disgwyl y byddaf yn cyhoeddi gwybodaeth o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Ond byddaf yn rhoi ystyriaeth i a allem ni neu a ddylem ni gyhoeddi gwybodaeth yn fwy rheolaidd na hynny, ac mae hynny’n ymwneud mewn gwirionedd â deall y data sydd gennym a gwneud yn siŵr eu bod yn gadarn iawn. Ond rwy’n awyddus i sicrhau bod gwybodaeth yn parhau i gael ei rhoi i’r cyhoedd am y defnydd a wneir o'r gronfa driniaethau newydd a'r budd tebygol y gallai ac y dylai cleifion ledled Cymru fod yn ei gael.
Diolch. Yn gyntaf oll, hoffwn roi croeso twymgalon i’r datganiad hwn heddiw, ac i'r gronfa, a oedd yn addewid maniffesto, mae’n amlwg, ac yr ydym wedi ei gwireddu. Diolch byth na chawsom ein dargyfeirio i’r gronfa cyffuriau canser, fel y sefydlwyd yn Lloegr. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud, fod y gronfa yn berthnasol i feddyginiaethau at bob cyflwr, fel bod pawb yn cael cyfle cyfartal; rwyf o’r farn fod hynny’n bwysig iawn. Cafodd y mater ynglŷn â chyffuriau MS ei grybwyll yn barod, ac mewn cyfarfod o gylch y bwrdd o Gymdeithas MS Cymru yr wythnos diwethaf. Hoffwn bwysleisio hefyd yr anhawster wrth gyflwyno'r cyffuriau oherwydd y diffyg seilwaith, efallai, ar gyfer eu cyflwyno nhw, gan fod hynny wedi ei fynegi’n gryf iawn gan gleifion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, am y gwir anhawster wrth gael gafael ar y cyffuriau a monitro'r cyffuriau. Ac ar gyfer rhai cyffuriau, mae angen sganiau MRI rheolaidd a phob mathau o faterion fel hynny. Rwy’n dymuno atgyfnerthu'r pwyntiau hynny.
Rwy’n croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd yn cyhoeddi adroddiad ym mis Awst a fydd yn dangos i ble rydym yn mynd. Roeddwn hefyd â diddordeb yn ei ymateb i Rhun ap Iorwerth ynglŷn â chyffuriau, oherwydd roeddwn yn edrych ar y rhestr o gyffuriau ac yn sylwi bod sofosbuvir arni—triniaeth ar gyfer hepatitis C, fel y gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei grybwyll. Ac, mae’n amlwg, roedd y cyffur hwn ar gael yn 2015 ac mae bellach ar y rhestr o’r cyffuriau hyn. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech chi egluro eto sut mae'r cyffuriau hyn yn cael eu trin fel y cyffuriau newydd yn y cynllun hwn.
[Anhyglyw.]—am sofosbuvir yn gyntaf a'r driniaeth ar gyfer hepatitis C, roedd dewis blaenorol unigol wedi ei wneud o ran y genhedlaeth benodol hon o gyllid, a’r arian a ryddhawyd yn benodol ar ei gyfer. Rydym yn siarad yn awr am sicrhau bod y cyffuriau hyn ar gael yn gyffredin ar draws y cynllun. Mae 'na her ynglŷn ag a ydym i ymdrin â chyffuriau ar sail unigol, fel yr ydym wedi ei wneud yn y gorffennol, neu a ydym yn ymdrin mewn gwirionedd â thystiolaeth eu proses ac yna’n gweld eu darparu nhw ledled y gwasanaeth. Byddwn i’n dal i ddweud mai cyffur cymharol newydd yw sofosbuvir o hyd, ac mae gennym rai sydd nawr yn gweld gwelliant sylweddol yn ansawdd eu bywydau o ganlyniad uniongyrchol i’r ddarpariaeth ohono. Eto, mae'n dychwelyd at yr enghraifft a roddais ynglŷn â sut mae clinigwyr hepatitis C wedi dod at ei gilydd i gytuno ar sut i ddefnyddio hynny, ac rydym mewn gwirionedd yn awr mewn sefyllfa well o ran sut yr ydym yn trin dinasyddion Cymru o ganlyniad uniongyrchol i hynny.
Ar eich pwynt ehangach am MS, eto, rwy’n cydnabod y broblem wirioneddol sydd yn bodoli yma o ran sut yr ydym yn paratoi ac yn ei darparu yn gyson ledled Cymru mewn modd sy'n dal i fod yn glinigol briodol, fel bod y meddyginiaethau yn cael yr effaith a ddymunir, a bod clinigwyr yn monitro eu cleifion yn briodol drwy hynny hefyd. Ond gwn fod problem barhaol y mae'r Gymdeithas MS wedi ei chodi gyda mi hefyd mewn cyfarfod diweddar o glinigwyr Cynghrair Niwrolegol.
Rwy'n hapus i ailadrodd eto ein bod wedi gwneud dewis y cawsom ein beirniadu amdano ar y pryd wrth beidio â dilyn y trywydd cronfa cyffuriau canser, nid yn unig o ran yr heriau moesegol, ond, mewn gwirionedd, oherwydd na allem fod yn siŵr o gwbl bryd hynny y byddai'n ddefnydd da o arian. Rydym bellach yn gwybod ei fod yn ddefnydd gwael iawn o arian, ac rwyf o’r farn y byddai wedi bod yn nid yn unig yn foesegol warthus, ond, wyddoch chi, gan ystyried y cyllid yr ydym yn ei wynebu’r tymor hwn, y realiti y byddwn yn gweld arian ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn—pe byddem wedi dewis gwastraffu arian gwerthfawr ar wneud rhywbeth a oedd yn wleidyddol gyfleus ar y pryd, gallem fod a dylasem fod wedi wynebu pris uchel am wneud hynny. A chredaf ein bod wedi gwneud y peth iawn trwy wrthod gweithredu cronfa ar gyfer cyflyrau penodol. Yn sicr nid oedd unrhyw sail dystiolaeth i gefnogi defnydd y mwyafrif mawr o’r feddyginiaeth ac, unwaith eto, rwy'n falch iawn ein bod, yn gynnar y tymor hwn, yn cyflawni ar y maniffesto yr ydym wedi ei roi gerbron pobl Cymru ym mis Mai y llynedd.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.