Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch yn fawr iawn ichi am eich datganiad heddiw. Rydym wrth ein bodd i ddarllen am y cynnydd sydd wedi ei wneud, oherwydd ein bod yn croesawu'r ymrwymiad o £80 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf, ac rydym yn croesawu'r cynllun—neu eich bwriad i roi’r cynllun priodol yn ei le—ar gyfer rhoi argymhellion NICE ar waith. Credwn y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
Mae ychydig o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn ynglŷn â hyn. Roeddech chi’n sôn yn gynharach am sylwadau'r Prif Weinidog, gan ddweud bod peth amrywiaeth o ran y meddyginiaethau a argymhellir sydd ar gael ar gyffurlyfrau’r byrddau iechyd a'ch bod yn cymryd camau i geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Efallai eich bod yn cofio, ychydig wythnosau yn ôl, y gwnês i sôn am ddefnydd radiwm-223 fel triniaeth i ganser y brostad sydd ar gael yma yng Nghymru. Mae gwir ddryswch ynghylch hyn. Ni allaf gael unrhyw atebion gan unrhyw un, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddech yn edrych ar hyn. Mae'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn defnyddio'r gronfa triniaethau newydd i sicrhau ei bod ar gael. Mae'r bwrdd iechyd yn y de yn dweud, 'Na, mae’n rhaid i chi hawlio triniaeth fel hon drwy'r llwybr cais am gyllid gan gleifion unigol.' A phan rwy’n gofyn i wasanaethau ymchwil yr Aelodau a Llywodraeth Cymru, rwy’n ei chael hi’n anodd cael yr atebion oddi yno. Nid yw fy mhryder gwirioneddol yn ymwneud â’r un cyffur penodol hwn, er fy mod yn credu ei fod yn tynnu sylw at y mater, ond a oes llawer o feysydd eraill lle mae anghyfartalwch yn y modd y mae triniaeth yn cael ei darparu i bobl yng Nghymru? Gwn y byddwch yn cytuno â mi mai un peth y mae'n rhaid i ni gael gwared arno yw’r loteri cod post. Felly byddwn yn ddiolchgar iawn am eich sylwadau ar yr elfen benodol honno o'ch datganiad.
Roeddech yn sôn hefyd am y ffaith, mewn amgylchiadau eithriadol, y gellid cysylltu â’r prif swyddog meddygol i ganiatáu mwy o amser i fyrddau iechyd gydymffurfio. Tybed beth yr ydych chi’n ei ystyried yn amgylchiad eithriadol. Mae’r byrddau iechyd yn sefydliadau grymus. Mae swm sylweddol o adnoddau ar gael iddynt. Rwy’n holi tybed beth allai fod yn esgus rhagorol a fyddai'n golygu na allent weithredu’r hyn y dylent fod yn ei weithredu ar amser.
Roeddwn yn falch o weld eich sylwadau am Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain. Rwyf o’r farn ei bod yn gwneud gwaith canmoladwy wrth geisio gweithio ar y cyd. Rwy'n falch o weld ei bod yn mynd i fod yn gyfrifol am rannu data a chynllunio. A fyddwn ni’n gallu dod ag unrhyw dryloywder i hyn? Wrth gwrs, rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi gweld llawer o grwpiau pwyso yn cysylltu â ni yn sgil cyffuriau penodol, ac rwy'n siŵr bod rhywun yno bob amser yn curo ar eich drws chi naill ai drwy gyfrwng grwpiau neu gynrychiolwyr o gwmnïau cyffuriau. Byddai’n wych, serch hynny, pe gallem ddod ag unrhyw dryloywder o ran hyn, heb dorri cyfrinachedd masnachol, mae’n amlwg, er mwyn i gleifion ac ymgyrchwyr yng Nghymru ddeall mewn gwirionedd beth sydd dan ystyriaeth. Yna gallant gael syniad o ba mor agos neu bell y mae’r broses o wneud penderfyniadau ar gyffur penodol y maen nhw’n credu y dylid ei gynnwys.
Yn olaf, ys gwn i, ar yr ochr ariannol, a fydd yr arian a ddyrannwyd a gaiff ei hawlio’n ôl gennych chi yn y pen draw oherwydd diffyg perfformiad gan fyrddau iechyd arbennig yn cael ei gadw o fewn y gronfa triniaethau newydd? Os na, ble fyddech yn bwriadu rhoi’r arian hwnnw? Os yw'n cael ei gadw o fewn y gronfa triniaethau newydd, sut fyddech chi'n dosbarthu’r arian hwnnw wedyn? A fyddech yn ei roi iddyn nhw yn nes ymlaen, neu a fyddech yn ei rannu ymysg rhai o'r byrddau iechyd mwy rhagweithiol? Rwy'n credu bod hynny'n eithaf anodd gan ein bod yn awyddus i gael gwared ar y loteri cod post, ond ni allwn ni dindroi a symud yn unig ar yr un cyflymder â’n byrddau iechyd arafaf a mwyaf pwyllog. Diolch.