Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau wedi ymrwymo’n gadarn i ddatblygiad bargen dwf gogledd Cymru. Yn ddiweddar, dechreuais ar fy rownd ddiweddaraf o drafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol. Cyfarfûm ag arweinydd newydd Gwynedd ac arweinydd newydd Ynys Môn yn ddiweddar, a bûm yn trafod y mater hwn gyda’r ddau ohonynt, a chydag arweinydd cyngor Sir y Fflint. A gwn fod awydd o hyd ledled gogledd Cymru i lunio cais bargen dwf a fydd yn argyhoeddi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ni allaf siarad yn uniongyrchol ar ran Llywodraeth y DU ar y mater hwn, er bod pob arwydd eu bod hwy hefyd yn parhau wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’r trafodaethau hyn. Ni chyrhaeddwn y pwynt lle byddwn yn trafod ymrwymiadau ariannol tan yn ddiweddarach yn y broses. Mae cryn dipyn o waith i’w wneud o hyd ar lunio’r fargen, cyflwyno’r cais, a graddnodi’r arian y bydd gofyn amdano yn erbyn realaeth yr hyn y gellir ei gyflawni. Dyna oedd y broses ym margeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe, ac rwy’n sicr yn edrych ymlaen at allu helpu i fwrw ymlaen â’r broses honno mewn perthynas â bargen dwf gogledd Cymru.